
LLWYN-CRYCHYDDOD
CYFEIRNOD GRID: SN 668772
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 61.6
Cefndir Hanesyddol
Ymddengys i’r ardal fach hon, nad yw’n cynnwys
unrhyw aneddiadau, gael ei thrawsnewid ar ddechrau’r 19eg ganrif,
pan wnaed y map ystad ar raddfa fawr cyntaf (LlGC Cyf 45, 33), o fod yn
ardal o ffridd agored i dirwedd o gaeau rheolaidd eu siâp o faint
canolig. Dengys y map o’r ystad fod y tir yn nherfyn deheuol yr
ardal hon wedi’i amgáu erbyn 1819, a bod y gweddill yn dir
agored. Erbyn arolwg degwm y 1840au roedd yr ardal gyfan wedi’i
rhannu’n gaeau. Nid yw’r ardal hon wedi newid fawr ddim ers
hynny.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn ardal fach sy’n cynnwys copa esgair
gron a llethr dyffryn sy’n wynebu’r de yn amrywio o ran uchder
o 150m i 240m. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd. Mae cloddiau yn rhannu’r
ardal yn system gaeau o gaeau rheolaidd o faint canolig. Arferai fod gwrychoedd
ar y cloddiau hyn, ond erbyn hyn mae’r gwrychoedd hyn naill wedi’u
hesgeuluso neu nid ydynt yn bodoli mwyach. Rhennir y caeau bellach gan
ffensys gwifren. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf yn yr ardal,
heb fawr ddim tir garw.
Nid oes i’r ardal ffiniau arbennig o bendant am
fod unedau cyfagos i’r de ac i’r dwyrain yn edrych yn debyg,
ond eu bod wedi datblygu mewn ffordd wahanol. I’r gogledd, mae coetir
yn ffurfio ffin bendant i’r ardal hon.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |