 |
ARCHAEO-BLOG – PARC DINEFWR 2009
20 - 29 Gorffennaf
|
|
|
THE DAVID AND
CHRISTOPHER LEWIS FOUNDATION |
|
Tybir ers tro bod y Rhufeiniaid wedi bod yn bresennol
ym Mharc Dinefwr ac o’i gwmpas ac, yn ystod arolwg geoffisegol yn
2003, fe gadarnhawyd bod dwy gaer Rufeinig yma. Cloddiwyd rhannau o'r
caerau gan wirfoddolwyr a oedd yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ym 2005. Mae darganfyddiadau eraill
o ddarnau o grochenwaith, teils a brics Rhufeinig a godwyd o’r pridd
mewn rhan ddiarffordd o'r parc ger 'Argae Creyrfa'r Gogledd', yn awgrymu
y gallai fod adeilad Rhufeinig arall (baddondy, teml neu fila efallai)
ar safle gerllaw.
Yn 2008, yn dilyn arolwg geoffisegol arall, archwiliwyd
nifer o nodweddion diddorol ger Argae Creyrfa'r Gogledd yn cynnwys rhan
o ffordd Rufeinig bosibl. Ar ddiwedd y gloddfa, datgelwyd haen o deils
toi a siarcol Rhufeinig. Gallai'r darganfyddiad cyffrous hwn awgrymu bod
adeilad sylweddol yno, ond cawsom ein rhwystro rhag cloddio ymhellach
gan y tywydd ofnadwy a dyfnder y pridd uwchben y gweddillion.
Yr haf hwn, gyda chefnogaeth Sefydliad David a Christopher
Lewis a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd Ymddiriedolaeth Archeolegol
Dyfed yn gweithio gyda gwirfoddolwyr unwaith eto gan barhau i archwilio'r
safle cyfareddol hwn. Gobeithiwn y byddwn yn gwneud darganfyddiadau cyffrous.
Bydd y gloddfa'n rhedeg rhwng 20 Gorffennaf a Dydd Sadwrn
25 Gorffennaf. Cynhelir diwrnod agored ar Ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf fel
y gall ymwelwyr weld y cloddfeydd yn ystod teithiau tywys a fydd yn gadael
Ty Newton (fel rhan o Wyl Archeoleg Prydain). Bydd cyfle hefyd i ymweld
â'r cloddfeydd yn ystod y 'Daith Parc Ceirw’ arferol ar Ddydd
Iau 23 Gorffennaf.

Arolwg geoffisegol yn dangos ffosydd cloddiad 2008 yn goch a'r ffosydd
o 2009 yn wyrdd
Archaeo-blog Cloddiad 2008
(Saesneg yn unig)

Ffos 16 - lleolwyd uwchben ffordd Rhufeining bosibl

Ffos 15

Lleoliad Ffos 17
|
Dydd 1 - Dydd Gwener Gorffennaf 17
Blwyddyn arall, yr un tywydd - sef glaw.
Palwyd ffosydd 15 a 16 gan beiriant. Yn anfodus roedd afon
yn rhedeg drwy Ffos 17, y ffos fwyaf ac efallai yn ffos mwyaf
diddorol. Mi geisiwn eto gyda'r ffos yma yfory.
|
|

Duncan Schlee yn astudio Ffos 14

Ian Atkinson, Trevor Jose a John Lee yn glanhau Ffos 15

Susan Stalinski, Kenza Barton, Matt Davies a Tony Coombe
yn gweithio yn Ffos 16. Mae Susan yn penlinio ar y cerrig
sydd yn rhan o'r trac 18fed neu 19fed ganrif

Anthony May yn Ffos 17
|
Dydd 2 - Dydd Llun 20 Gorffennaf
Ffos 14. Fe agorwyd hon ar ddydd Sadwrn pan
oedd y tywydd llai gwlyb. Roedd yn llawn o ddwr erbyn Dydd
Llun. Fe fyddwn yn hurio pwmp dwr Dydd Mawrth ond mae'r rhagolwg
am rhagor o law trwm!
Ffos 15. Cafodd sawl ceuffos a gwter eu datguddio
yn y ffos yma. Rydym ddim yn siwr eto beth yw eu oed na'u
pwrpas.
Ffos 16. Fe glanhauwyd y ffos yma ac fe ddarganfyddwyd
beth oedd yn edrych fel gwteri trac Rhufeining. Fe gredir
fod y casgliad o gerrig ar y pen ddeheuol yn rhan o ffordd
sy'n arwain i adeilad o'r 18fed neu 19fed ganrif a ddarganfyddwyd
yn 2008.
Ffos 17. Ffos fach ar ben ffin gwaith pridd
isel yw hon. Ni ddarganfyddwyd unrhyw beth o ddiddordeb.
|
|

Darlun o Kenza Barton yn pwmpio'r dwr allan o Ffos 14
|
Dydd 3 - Dydd Mawrth 21 Gorffennaf
Dydd gwlyb iawn. Roedd hi ddim yn bosib i
gloddio ond fe bwmpiwyd y dwr allan o Ffos 14. Fe lanwodd
lan unwaith eto!
|
|

Cysgodi o'r glaw trwm

Kenza Barton yn cloddio Ffos 14

...ac eto gyda dolen amffora o'r haen bric Rhufeinig

Deione Thurston yn cloddio sylfaen y wal bosib yn Ffos 15

Y wal hwyr yn Ffos 16 yn cael ei chloddio gan Susan Stalinski

Matt Davies yn un o'r gwteri ger ochr y trac yn Ffos 16
|
Dydd 4 - Dydd Mercher 22 Gorffennaf
Dydd gwlyb arall. Oherwydd fod y cawodydd
yn troi i law trwm fe adawon y cloddio yn hwyr yn y prynhawn.
Yn Ffos 14 fe ddatgyddiwyd haen o fric a
teil Rhufeining.
Yn Ffos 15 mae dwy gwter yn baralel ac efallai
eu wedi bod un bob ochr i drac. Mae llinell a gerrig flat
yno ac efallai bod rhain yn olion seiliad.
Rydym yn parhau i gloddio'r gwteri sy'n bosib
yn rhan o drac Rhufeining yn Ffos 16. Mae beth roeddem yn
meddwl oedd yn drac hwyr yn rhan ddeheuol y ffos yn edrych
nawr fel wal sylweddol.
|
|

Tony Coombe a Matt Davies yn cloddio un o'r gwteri ochr-heol
yn Ffos 16

Un o'r cwteri ochr-heol yn dangos ei siap 'V' miniog

Stephen Martin yn cloddio twll post wrth ochr un o'r cwteri
ochr-heol yn Ffos 16

Susan Stalinski yn cofnodi y wal dyddiad hwyr yn Ffos 16

Kenza Barton a Ken Murphy yn cofnodi y toriad drwy Ffos
14. Mae'r bric a theil Rhufeining yn dod o'r haen uwch ben
lefel y dwr
|
Dydd 5 - Dydd Iau 23 Gorffennaf
Dim ond tamaid o law heddiw! Cafodd gwaith
da ei wneud ar bob ffos gyda toriadau wedi eu gwneud ar draws
rhan fwyaf o'r nodweddion. Roedd yn bosib i bwmpio'r dwr allan
o Ffos 14, clanhau y toriad a'i gofnodi. Mae'n glir fod y
maint mawr o deil a bric Rhufeinig a defnydd adeiladu eraill,
ddim yn ei safle gwreiddiol. Mae nhw wedi syrthio i fewn i'r
'dyffryn' a welwyd yn a ffos yma.
|
|

John Lee yn dal cylch carreg wedi tyllio o cwter yn ffos
15

Ffos 15 ar ol y glaw drychynllyd

Hubert Wilson yn arolygu Ffos 14
|
Dydd 6 - Dydd Gwener 24 Gorffennaf
Gorffennodd y cloddio yn gynnar yn y prynhawn
oherwydd y glaw drychynllyd. Mae'r cwteri siap 'V' yn Ffos
15 yn debygol yn Rhufeinig ond ni ddarganfyddwyd unrhyw erthygl
yno i'w dyddiadu. Mae cofnodio'r nodweddion yn parhau. Mae
rhan fwyaf o'r nodweddion, heb law am y wal hwyr yn Ffos 14,
yn dyddiadu o'r amser Rhufeining, ond fel yn ffos 15 nid oes
llawer o dystiolaeth i ddyddio.
|
|
[cliciwch
am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]
|