 |
CLODDIAD DWY DOMEN GLADDU CYNHANESYDDOL YM MHANT Y BUTLER,
LLANGOEDMOR, GER ABERTEIFI
Mae dau grug crwn (tomenni claddu) yn gorwedd
ar gefnen 130m uwchlaw lefel y môr. Mae’r crugiau
50m ar wahân. Mae’r crug gogleddol (55928) yn eithaf
unigryw, yn goroesi hyd at 35m-45m mewn diamedr ac yn 0.75m o
ran uchder, ond mae’r crug deheuol (55929) bron wedi diflannu
ac mae ei ddiamedr oddeutu 30m a dim ond yn 0.2m o ran uchder.
Caiff y ddau eu haredig yn rheolaidd, gyda thaeniadau o garreg
yn amlygu eu safleoedd.
Yn sgil arolwg geoffisegol yn 2008, darganfuwyd
ffos â diamedr c.20m o amgylch y crug gogleddol, yn ogystal
â phydewau a beddau posibl ac arwyddion y gallai’r
tomenni ddeillio o fwy nag un cyfnod adeiladu. Dim ond awgrym
o ffos, c.11m diamedr, a gofnodwyd o gwmpas y crug deheuol, ond
darganfuwyd bedd canolog posibl. Gallai sawl ffos gron i’r
gogledd a’r gorllewin o’r crug gogleddol fod yn weddillion
tomenni claddu llai, wedi’u gwastadâu.
Yn 2009, bwriedir nodweddu archaeoleg y ddwy
domen a’u nodweddion cysylltiedig ac asesu eu potensial.
Bydd hyn yn cael ei wneud ar ddiwedd mis Medi gyda chymorth grwp
o wirfoddolwyr lleol brwdfrydig.
Llun Cyffredinol – Yn edrych i’r gogledd-ddwyrain
gyda’r crug crwn deheuol wedi’i farcio gan
ledaeniad carreg yn y blaendir. Mae lledaeniad tebyg yn
marcio’r crug gogleddol yn y tir canol
|
Arolwg topograffig gyda data geoffisegol arosodedig
yn dangos lleoliad y ddau grug crwn a nodweddion eraill
|
|

Dechrau torri y ffos gyntaf dros y domen fwyaf

Parhau cloddio dros y domen fwyaf

Y ffos a dorwyd i archwilio'r nodweddion sydd yn dangos yn
yr arolwg geoffisegol

Y ffos dros y domen lleiaf yn dangos cymaint bach ohoni sydd
yn parhau
|
Dydd 1 - 18 Medi 2009
Fe agorwyd tair ffos. Mae'r ffos ar draws
y domen fawr (55928) yn dangos ei bod wedi parhau i fyny
i 1m o daltra a 25m o dryfesur. Mae'r ffos ar draws y domen
llai (55929) yn dangos fod ddim llawer ohoni yn parhau ond
mae ganddi fedd ochr-garreg canolog. Fe agorwyd trydedd
ffos i edrych ar nodweddion bosib a ddatguddiwyd yn yr arolwg
geoffisegol.
|
|

Felicity a Vanessa yn clanhau y ffos dros y domen leiaf

Hubert a Ann yn dechrau gwaith ar y ffos dros y domen
fwyaf
|
Dydd 2 - 21 Medi 2009
Roedd na tua 10 gwirfoddolwr yn cymeryd
rhan yn y dydd cyntaf o gloddio. Dim ond cerrig rhydd oedd
y bedd ochr-garreg bosib a ddarganfyddwyd yn y domen leiaf.
Yn wir, roedd yr holl gerrig a oedd yn rhan o'r bedd yma
wedi eu cyffroi gan aredig ac felly fe gloddiwyd rhain i
adael y pridd isod. Fe ddarganfyddwyd darnau o esgyrn llosg
yn ystod y gwaith yma. Fe ddechreuwyd glanhau y ffosydd
yn y domen fawr.
|
|

Mae sylfaen y domen lleiaf yn parhau o flaen Will a Felicity.
Mae Will yn dal rhan o'r asgwrn llosg a ddarganfyddwyd yma.

Paul yn gweithio ar y ffos dros ganol y domen lleiaf. Gellir
gweld y pridd a oedd o dan y domen fel marc tywyll yn y canol.

Hubert a Betty ar ben y domen fawr. Gweler y nodwedd rownd
o gerrig a'r astell llosg.

Golygfa arall o ben y domen fawr.
|
Dydd 3 - 22 Medi 2009
Fe ddarganfyddwyd fod sylfaen y domen leiaf
wedi parhau, ond rhoedd mewn rhannau bach. Mae ardal o sial
torredig yn sylfaen y domen yn awgrymu fod y bedd ger llaw.
Mae darganfyddiad o rhagor o esgyrn llosg yn ategu fod claddedigaeth
losg yn y domen.
Drwy glanhau y domen fawr fe welwyd ardal
o gerrig - efallai carn fach ar ben y domen. Nesaf i hwn
roedd beth oedd yn edrych fel astell llosg. Bydd cloddio
rhain yn parhau yfory.
|
|

Y domen lleiaf, yn dangos faint leiaf sydd yn parhau
Will a Felicity yn cloddio sylfaen y domen leiaf

Martin yn clanhau y casgliad o gerrig ar ben y domen fawr
Y casgliad o gerrig ar ben y domen fawr
|
Dydd 4 - 23 Medi 2009
Diwrnod o glanhau a ffotograffio i baratoi
am gloddio.
Cafodd gweddill y domen leiaf ei chynlunio
a ffotograffio a dechreuwyd y cloddiad.
Fe glanhauwyd a ffotograffiwyd y casgliad
o gerrig ar ben y domen fwyaf. Fe fyddwn yn cynllunio a
dechrau cloddio yfory.
|
|

Will yn cloddio'r bedd canolog yn y domen leiaf.
Tim yn cloddio'r carn yn y domen fawr.
|
Dydd 5 – 24 Medi 2009
Fe ddarganfyddwyd y twll bedd canolog yn
y domen leiaf and fe ddechreuwyd y gloddiad. Mae'r asgwrn
llosg a welwyd yn y pridd uchaf yn y twll ym amlygu fod
corff llosg wedi ei wasgaru dros ben y bedd. Mae rhan o'r
twll bedd tu allan y ffos gloddio. Byddwn yn cael gwared
y pridd dros yr ardal hyn yfory.
Mae cloddiad y domen fawr yn dangos fod
y casgliad o gerrig ar y wyneb mwy na thebyg yn garn o oedd
wedi ei amgylchu gan y domen bridd. Bydd rhaid cael gwared
o lawer o bridd i datguddio y garn hon.
|
|

Paul a Will yn ehangu'r ffos dros y domen fach i ddatguddio
y gweddill o'r bedd canolog.

Y domen fawr - mae'r darlun yn dangos ei maint ar ol cael
gwared o'r haen silt a oedd yn ei hamgylchu. Mae Tim, yn y
blaen wrth sylfaen y crug ac Annie yn y canol ar ben y crug.
|
Dydd 6 - 25 Medi 2009
Fe ddarganfyddwyd claddedigaeth llosg posib
yn nhwll y bedd yn y domen leiaf. Roedd y bedd yn tipyn
fwy o faint nag oeddem yn disgwyl ac mae gwaith wedi dechrau
i ehangu'r ffos i ddangos ei holl faint.
Roedd ein tybiaeth gynharaf am y casglaid
o gerrig ar ben y domen fawr yn anghywir. Nid pen carn yw
hwn ond sylfaen carn a adeiladwyd ar ben y domen. Wrth gael
gwared o'r crug fe welom ei fod wedi ei wneud o bridd a
thywarch. Mae beth sy'n edrych fel carreg stond wedi ei
hamgylchu yn y crug.
|
|

Hubert yn glanhau dros ben y bedd a dadorchuddiwyd yn
y domen leiaf.
Ruth a Silke yn cael gwared o'r cerrig ar ben y domen fawr.
|
Dydd 7 – 27 Medi 2009
Dydd Sul - diwrnod tawel a dim ond nifer
bach o fobl yn gweithio ar y safle. Cafodd y bedd yn y domen
leiaf ei dadorchuddio yn gyfangwbl yn barod i'w gloddio.
Ar y domen fawr dechreuom y gwaith o gael gwared o'r casgliad
o gerrig a oedd ar ben y domen.
|
|

Barry yn cloddio'r rhych yn cynnwys y garreg a thwll.

Llun agos o'r garreg a thwll.
|
Dydd 8 – 28 Medi 2009
Fe barhauodd y gwaith o gloddio'r bedd
o dan y domen leiaf, gyda rhagor a esgyrn a darnau o grochenwaith
o'r Oes Efydd yn cael eu darganfod.
Ar y domen fawr, roedd y gwaith yn canolbwyntio
ar cloddio drwy'r domen i ddatguddio'r pridd cynhanesynol
sydd yn parhau o dan y domen. Fe ddarganfyddwyd dwy rhych
fach tu allan i'r domen. Mewn ffos mor fach, nid yw'n bosib
i ddweud a yw rhain yn gydgylchol i'r domen neu beidio.
Fe ffeindiwyd carreg gron a thwll ar ffin un o'r ffosydd
yma.
|
|

Felicity a Paul yn cloddio'r bedd o dan y domen leiaf.

Y domen fwyaf, yn dangos y ffos bosib is y pridd cynhanesyddol.
|
Dydd 9 – 29 Medi 2009
Fe ddarganfyddwyd rhagor o esgyrn llosg
a darnau o grochenwaith Oes Efydd yn ystod y cloddiad o'r
llanw uchod o'r bedd is y domen leiaf. Ar diwedd y dydd
roedd y gladdedigaeth llosg ar waelod y twll yn dechrau
cael ei ddadorchuddio.
Ar y domen fwyaf, cawsom wared o'r pridd
cynhanesyddol o dan y domen i ddadorchuddio beth sydd yn
edrych fel dwy ochr ffos cydgylchol. Mae'r ffos hon yn gorwedd
is y pridd a'r tywarch cynhanesyddol, yn awgrymu fod tipyn
o amser rhwng llenwi naturiol y ffosydd ac adeiladu y domen.
|
|

Y claddedigaeth llosg cynraddol o dan y domen leiaf.

Sikko, Annie a Sue yn cloddio'r domen fawr. Mae Sikko yn cloddio
un o'r ffosydd bas.
|
Dydd 10 – 30 Medi 2009
Claddedigaeth llosg syml oedd yn y bedd
cynraddol o dan y domen leiaf. Mae'r crynodiad cryf o esgyrn
llosg yn awgrymu fod y corff wedi ei osod mewn cwd, basged
neu focs.
Mae'r ffosydd a oedd yn edrych yn sylweddol
o dan y domen fwyaf wedi troi allan i fod dim ond nifer
bach o centimetrau yn ddwfn. Fe welwyd twll bach posib yn
llawn o farwor o dan y pridd cynhanesyddol tuag at canol
y domen.
|
|

Y bedd o dan y domen leiaf. Nodwch y twll cyharach, heb
ei gloddio ar y chwith.

Cloddio'r domen fawr.

Annie yn y bedd.
|
Dydd 11- 1 Hydref 2009
Cafodd y bedd o dan y domen leiaf ei gwaghau.
Ar ochr o'r bedd fe nodwyd fod yna dwll llai o faint ac
yn henach na'r bedd; fe fydd hwn yn cael ei gloddio yfory.
Fe ddarganfyddwyd fod y twll posib o dan
y domen fawr yn ardal o bridd yn cynnwys llawer o farwor.
Mae twmpath y domen yn edrych fel petai mwy cymleth nag
oedden yn meddwl yn wrieddiol. Bydd y cloddiad yn parhau
yfory.
|
|

Y twll 'lladrata' llawn cerrig yn y domen fawr.

Aeoldau'r tim yn edrych ar Paul a Hubert yn cloddio.
|
Dydd 12 - 2 Hydref 2009
Gwariwyd rhan fwyaf o heddiw yn cofnodi
- arluniaeth, cofonodio ysgrifennedig a ffotograffiaeth.
Yn y domen fawr mae nifer o gerrig mawr yn awgrymu fod y
domen wedi ei lladrata yn y gorffennol diweddar ond nid
yw hyn yn glir. Yn anfodus ni fydd yn bosib i fod yn siwr
o hyn am fod amser yn rhedeg allan.
|
|

Paul yn clanhau dros y twll cynnar o dan y domen leiaf.

Rhan draws drwy y twll cynnar.
|
Dydd 13 - 4 Hydref 2009
Diwrnod o arlunio traws a chynllunio y
domen fwyaf. Fe gafodd y twll cynnar o dan y domen leiaf
ei gloddio. Darganfyddwyd fod hwn yn llawn o farwor, cerrig
llosg a peth asgwrn llosg - claddedigaeth rhan llosg.
|
|

Ail-lanw y safle.
|
Dydd 14 – 5 Hydref 2009
Y diwrnod olaf a bum yn cymeryd samplau
terfynnol, gorffen y cofnodi ac ail-lanw y safle. Mae llawer
o waith i'w wneud - dadansoddi samplau pridd a chael dyddiadau
radiocarbon - cyn i'r safle ddatguddio ei chyfrinachau;
bydd y gwaith hyn yn cael ei wneud dros y flwyddyn nesaf.
Yn olaf, fe hoffai bawb oedd yn gweithio
ar y safle ddiolch David a Lynette George am adael ni i
gloddio ar eu fferm.
|
|
[cliciwch
am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]
|