DYDDIADUR CLODDIAD YM MHORTHCLEW, FRESHWATER
EAST, SIR BENFRO, HAF 2008
Cyflwyniad
Fe ddarganfyddwyd y fynwent ym Mhorthclew yn ddamweiniol
pan roedd gweithwyr yn cloddio ffosydd ceblau trydan. Fe ddarganfyddwyd
claddedigaethau mewn beddau gyda'g ochrau o garreg. Fe alwyd rhain
'beddau cist' a mae nhw yn debygol iawn o adeg y Canoloesoedd Cynnar
yng Nghymru, yr adeg tua 5ed i 11fed ganfir OC.
Mae'r pentrefwyr lleol hefyd yn dweud pan oedd
tai yn cael eu adeiladu yn y 1950au, fe ddarganfyddodd y gweithwyr
gladdedigaethau, felly nid ydym yn siwr faint mae'r fynwent wedi
ei chyffroi yn barod.
Yn y cae wrth ymyl y fynwent, mae olion capel adfail.
Credir ei fod yn dyddiadu o'r adeg Ganoloesol, efallai y 15fed ganrif.
Rydym yn gobeithio darganfod sut mae'r fynwent a'r capel yn perthyn
i'w gilydd - oes toriad yn ddefnyddiaeth y safle neu ydyw yn cynrychioli
sawl canrif o ddefnyddiaeth crefyddol. Rydym hefyd eisiau gwybod
maint y fynwent ac i ffeindio defnydd i'w ddyddio - ar y funud dimond
dyfaliad yw'r dyddiad canoloesol - efaill ein bod yn anghywir!
Mae ymchwiliad geoffisegol yn dangos fod y capel
yn aros tu fewn amgaead. Rydym yn gobeithio gwybod rhagor am yr
amgaead a hefyd darganfod peth defnydd i'w ddyddio. A ydyw yn amgaead
cynhanesyddol, wedi ei ail-ddefnyddu pan adeiladwyd y capel? Fe
welir hyn yn rhai safleon eraill Cymraeg.
Fe fydd y gwybodaeth yma yn helpu ni i ddeall safleon
crefyddol o'r adeg yma ac yn gymorth i ni edrych ar eu ol yn well.
Yn ystod tair wythnos y cloddiad, fe fydd y Dyddiadur Cloddiad yma
yn cael ei ychwanegu iddo yn aml - felly dewch yn ol i weld sut
yr ydym yn gwneud! Os ydych yn yr ardal, dewch i ymweld a'r safle,
fe fydd ymweliad cyhoeddus o'r safle am 3yp bob dydd o Ddydd Mawrth
i Ddydd Sadwrn.
|
|
Fe gyllidir y prosiect
yma gan Cadw, a rheolir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro |

Arolwg Geoffisegol y cae. Mae'r capel yn y sgwar
gwag ar ochr chwith y prif adran o'r arolwg - noddwch
yr amgaead o'i amgylch. Fe ddarganfyddwyd y fynwent
yn y cae bach i'r chwith o brif adran yr arolwg
Pete Crane yn arolygu gyda magnetometer yn y cae
gyda'g olion y capel tu ol iddo
|
|


|
Capel Porthclew
Dydd Llun 28 Gorffennaf 2008
- Dydd 1
Y diwrnod cyntaf ar y safle, yn agored
ffosydd newydd a dechrau pawb i weithio.
Mae'r ffos gyntaf yn eistedd ar
draws yr amgaeadau a welwyd ar yr arolwg geoffisegol.
Rydym yn gobeithio darganfod pa siap oedd yr amgaeadau
yma ac hefyd awgrymiad o'u dyddiad.
Mae ffosydd eraill yng 'nghae y fynwent'.
Yma, rydym yn gobeithio darganfod maint y fynwent
ac hefyd ffeindio peth defnydd i ddyddio.
Mae'r tywydd yn ardderchog ac mae
teimlad 'gwyliau haf' ganddi. Gyda'r mor yn y cefndir,
yr haul yn uchel a'r awyr yn las, dimond eisiau fan
hufen ia sydd arnom....
|
|

Mae nifer o fobl yn ymweld a'r safle yn ystod yr
ymweliad cyhoeddus am 3yp. Mae llawer o ddiddordeb lleol
yn y cloddiad

Dwy fodrwy wedi eu croesi yn bosibl? Fe ddarganfyddwyd
rhain gan ymwelwr i'r safle. Ar ol y cloddiad i orffen
mi fyddwn yn eu clanhau ac yn eu archwilio yn fwy manwl
|
Dydd Mawrth 29 Gorffennaf
2008 - Dydd 2
Heddiw, rhaid gweithio i orffen clanhau
Ffos 1 ar draws yr amgaeadau. Mae'n edrych fel petai
gennym nifer o ffosydd mawr - fel roeddem yn disgwyl
- ond mae'r sefyllfa yn gymleth oherwydd cymlethfa'r
daeareg.
Yng nghae y fynwent rydym wedi darganfod
claddiadau mewn tri allan o bedwar o'r ffosydd efallai
awgrymiad o faint y fynwent. Y darganfyddiad mwyaf
cyffrous heddiw oedd modrwy arian a welwyd gan ddyn
lleol, Ted Owens a oedd yn ymweld a'r safle.
|
|

Gwyliau'r haf yn Sir Benfro....
|
Dydd Mercher 30 Gorffennaf
2008 - Dydd 3
Gyda glaw, cymylau a niwl o'r mor,
mae'r teimlad, 'gwyliau haf' wedi diflannu. Roddem
yn ddiolchgar iawn i'r pentrefwyr lleol a ddaeth a
cwpannau o de a choffi i ni. Yn yr amgylchiadau arythrol
yma, fe benderfynnon ddim i weithio ar y beddau ond
i gadw ati yn Ffos 1.
Yn ychwannegol i'r ffosydd amgaeadwy
mawr mae hefyd gennym ffos gul bas yn torri trwy'r
ffos fawr. Mae'r gwirfoddolwyr heddiw wedi clanhau'r
ffos yma yn barod i ddechrau gwaith ar y nodweddion
mwyaf yfory.
|
|
|
Dydd Iau 31 Gorffennaf 2008
- Dydd 4
Mae'r prif nodweddion yn y ffos fawr,
Ffos 1 i'w cael mewn tair ffos llai sydd yn cyfateb
i'r amgaeadau o amgylch y capel a welwyd yn yr arolygiad
geoffisegol.
Mae'r ffosydd wedi eu torri i mewn
i'r creigwely ac wedi eu trefnu bron fel llinnellau
paralel. Nid oes gennym dyddiadau i'r ffosydd yma
eto ond rydym yn gobeithio darganfod tystiolaeth dyddiadol
gyda rhagor o gloddio.
Fe agorwyd hefyd, dwy ffos fach
wrth ochr waliau'r capel i geisio darganfod tystiolaeth
dyddiadol i'r adeilad.
|
|

Y llaeaf o'r ffosydd wedi ei chloddio yn llawn

Y gwirfoddolwyr yn gweithio ar un o'r ffosydd eraill
|
Dydd Gwener 1 Awst 2008 -
Dydd 5
Mae's llaeaf o'r tair ffos wedi ei
chlanhau allan i ddatguddio proffeil ochr-serth, fflat.
Yn ffodus fe ddarganfyddwyd darnau o fawror (charcoal)
yng ngwaelod y ffos. Gobeithir fod hwn yn help i ni
ddyddio'r ffos. Mae un o'r ffosydd eraill yn cael
ei gwaghau - mae'n edrych fel petai'n fwy o faint
na'r un cyntaf!
Yng nghae y fynwent, rydym yn gweithio
tuag at datgyddio rhai o'r claddedigaethau, yn barod
i'w codi allan o'r ddaear. Ni fyddwn yn cloddio llawer
o gladdedigaethau yn ystod yr ymchwiliad yma ond hoffem
gael peth engreifftiau i'w dyddio ac i'w dadansoddi.
|
|

Gwirfoddolwyr yn gweithio yn y ffos ger y capel

Beth yw hwn? Fe ddarganfyddwyd y garreg fawr werdd
lathredig yma yn y ffos. Oes arysgrif arni?
|
Dydd Sadwrn 2 Awst - Dydd
6
Roedd y gwaith yn parhau yn Ffos
1 i waghau'r ffos. Mae na awgrymiad ei bod wedi ei
ail-thorri, hynny yw, wedi dechrau allan fel ffos
fas a llydan a oedd wedi ei dyfnhau yn hwyrach.
Darganfyddiad diddorol oedd carreg
fawr werdd wedi ei llathru. Nid ydyw yn frodorol i'r
ardal, felly mae'n glir for rhywun wedi cludo'r garreg
i fyny i safle'r capel. Ar hyn o bryd, mae'r garreg
wedi ei chladdu yn y ffos ond mae'r gweithwyr ar hyd
y safle yn cymeryd betiau a fydd yna arysgrif neu
croes wedi ei gerfio arni!
Rydym hefyd yn darganfod nifer o
dyllau a tyllau-post. Mae rhain wedi eu torri i mewn
i'r ffosydd felly mae eu dyddiadau yn hwyrach na'r
amgaeadau. Mae nhw yn anodd iawn i adnabod, rydym
yn dibynnu fwyaf ar gwahaniaethau mewn cyfansoddiad
y pridd.
Yng nghae y fynwent, rydym wedi codi
un o'r claddedigaethau ac wedi dechrau gwaith ar ddiffinio
rhagor o feddau cist.
Gorffen gwaith yn gynnar heddiw
- mae'r traeth yn galw!
|
|
Diwedd yr wythnos gyntaf
- dewch ni gael gweld beth sy'n boblogaidd, a dim
mor boblogaidd ar y safle...
Yn codi yn y siart:
Crochenwaith gwydrog gwyrdd Canoloesol (o'r rhychau
yn Ffos 1)
Claddedigaethau ble roeddem yn disgwyl eu ffeindio
Siocoled
Digon o de a choffi (ac yn aml!)
Yn gostwng yn y siart:
Niwl
Glaw
Ffosydd heb ddiwedd
Tyllau post anweladwy
|
|
Dydd Llun 4 Awst 2008 - Dydd
7
Siomedigaeth gan bawb. Does dim arysgrif
ar y garreg fawr werdd! Am rhyw rheswm cafodd y garreg
ei defnyddio fel llanw yn un o'r ffosydd. Ar hyn o
bryd does ddim esboniad argyhoeddedig am hyn.
Newyddion mwy llawen - rydym wedi
darganfod dau fedd cist yn y ffosydd yng nghae y fynwent.
Gobeithir eu bod yn cynnwys claddedigaethau. Mae na
hefyd nodwedd sy'n disgwyl fel ffin ond mae claddedigaethau
wedi ei noddi bob ochr iddi. Efallai ei bod yno i
rhannu'r fynwent i fewn i adrannau gwahaniaeth?
Erbyn amser cinio, roedd y glaw
trwm a ddi-ddiwedd yn ormod hyd yn oed i'n gwirfoddolwyr
gwrol!
|
|
Dydd Mawrth 5 Awst 2008 –
Dydd 8
Dechrau gwaith ar glanhau Ffos 1
i geisio adnabod tyllau a thyllau post posibl tu fewn
i amgaead y capel. Yn Ffos 6 dangosir y cloddiad fod
llawr y capel wedi ei fudo. Efallai fod y rhannau
o deils gwyrdd gwydrog a ddarganfyddwyd tu fewn i'r
capel yn ddarnau o olion y llawr. Ymhen hir, fe waethygodd
y glaw man i law trwm a bu rhaid gadael y gwaith am
y diwrnod. Amser felly i fynd am dro i Eglwys Gadeiriol
Dewi Sant i weld engreifftiau o gerrig cerfedig o
adeg cynnar Cristnogaeth ac i fwyta hufen ia!
|
|
Dydd Mercher 6 Awst 2008
– Dydd 9
Glaw eto felly dim gwaith!
Heddiw, fe ddechreuom baratoi beddau
cist yn Ffosydd 1 a 2, i'w cloddio, ac i glanhau Ffos
1 ar ol y glaw Ddydd Mawrth. Yn anfodus roedd y tywydd
gwael yn ein erbyn eto ac bu rhaid gadael y safle
yn y prynhawn.
|
|

Rhai o'r tyllau a thyllau post ar ol yr ymchwil.
Mae rhai yn go iawn ac eraill mwy na thebyg yn wreiddiau
coed neu tyllau anifeiliaid. Mae'n anodd dweud p'un
yw p'un..
|
Dydd Iau 7 Awst 2008 –
Dydd 10
O'r diwedd mae'r tywydd wedi gwella
ac mae gwaith da wedi ei wneud. Yn Ffos 2 fe ddarganfyddwyd
sgerbwd plentyn ifanc mae bedd cist bach. Yn Ffos
3 mae'r bedd cist fwyaf wedi ei aflonyddu gan gladdedigaeth
hwyrach sydd yn gwneud y cloddio yn gymleth iawn.
Yn Ffos 1 rydym wedi archwilio rhai o'r tyllau a thyllau
post posibl. Tra bod rhai yn erdrych fel nodweddion
go iawn, mae rhai eraill yn disgwyl mwy fel tyllau
cwningod neu tyllau gwreiddiau.
|
|

Y bedd cist lle ddarganfyddwyd olion y plentyn ifanc

Un o'n gwirfoddolwyr yn gweithio'n galed yn cynllunio
cloddio'r beddau traws eu gillydd yn Ffos 3
|
Dydd Gwener 8 Awst 2008 -
Dydd 11
Gyda'r tywydd mwy neu lai yn dderbyniol,
fe benderfynnom gloddio'r beddau cist yn ffos 2 a
3. Yn Ffos 2, mae olion plentyn ifanc. Wedi arlunio
a recordio yr olion, fe'u codwyd allan o'r bedd. Yn
Ffos 3 fe gymerodd y ddau fedd ar draws eu gilydd,
fwy o amser i gloddio. Nid ydym yn meddwl cloddio
llawer o feddau yn ystod y gwerthusiad yma ond rydym
yn dewis rhai i gloddio yn gyfangwbl, i allu ddyddio'r
fynwent ac i weld os gallwn adnabod agweddau defnyddiaeth
y fynwent ac fel y maent yn perthyn i adeilad y capel.
Fe fydd olion y sgerbwd hefyd yn
cael ei ddadansoddi am wybodaeth am yr oed, rhyw,
iechyd a deiet yr unigolion a gladdwyd yma.
Yn y cyfamser, mae ein ymchwiliad
am waelod y rhychau yn Ffos 1 heb ddiwedd...
|
|

Bedd Cist: Dyma un o'r beddau cist yn Ffos 3. Mae
claddedigaeth hwyrach wedi torri drwy y bedd ac mae
rhai o'r cerrig ochr wedi diflannu. Beth bynnag, noddwch
pa mor ofalus yr adeiladwyd y bedd

Peidiwch bwydo'r anifeiliaid! Gweithio ar y ffin
yn ffos 2 gyda ymwelwyr yn...ymweld...
|
Dydd Sul 10 Awst - Dydd 12
Mae'r gwaith yn parhau i godi'r sgerbydau
a ddewiswyd i'w cloddio. Aeth amser hefyd yn archwilio'r
'nodwedd y ffin' yn ffos 2. Mae'n edrych fel petai
yn wal neu fanc wedi ei wynebu gyda cherrig, a ffos
tu allan.
Yn ddiddorol, mae'r un yn Ffos 2,
yng nghae y fynwent, yn erdych nawr fel petai yn barhaiad
o un o'r ffosydd yn Ffos 1. Mae hyn yn awgrymu fod
yr holl ardal o amgylch y capel yn amgaeadwy fel roddem
yn meddwl.
Beth bynnag, ni ddarganfyddodd yr
ymchwiliad geoffisegol unrhyw ffosydd yng nghae y
fynwent - efaillai eu bod wedi eu claddu yn rhy ddwfn?
Rydym yn ddiollgar fawr i berchnogion
y safle. Nid dimond am adael i ni gloddio yn eu cae
ond hefyd am eu haelder yn dod a the, coffi a bisgedi
yn aml iawn. Heddiw roedden nhw yn hael dros ben yn
dod a hufen ia i bawb. Mae ganddyn nhw nawr, lu o
ffrindiau!
|
|
Diwedd yr ail wythnos
Beth rydym yn hoffi a beth yr ydym yn casau? Cipolwg
i fewn y feddyliau y gwirfoddolwyr - i'r rhai sydd
digon dewr i fynd yno.
Ffefrynnau yr wythnos yma yn cynnwys:
"Bonekickers" (ie, yn wir!)
Nodweddau gyda ffiniau eglur
Beddau Cist
Gin
Tirberchnogion hyfryd
Problemau yr wythnos yma yn cynnwys:
Mwd sy'n gludo
Mwd tew
Mwd drychynllyd
Mwd sy'n rhedeg
Pyllau dwr
|
|

Cloddio Ffos 1 yn y glaw
|
Dydd Llun 11 Awst - Dydd
13
Rydym wedi colli gobaith o weld
yr haul ac yn gwisgo cotiau gaeaf a esgidiau glaw
bob bore cyn dechrau gwaith. Yr Haf Brydeinig...
Yn Ffos 2 rydym wedi gorffen cloddio
rhych drwy'r ffos neu nodwedd ffiniol ac mae'n edrych
fel petai hwn yn rhan o un o'r amgaeadau sydd yn rhedeg
rownd y capel.
Yn ddiddorol, mae'n glir fod yna
gladdedigaethau tu fewn a thu allan yr amgaead - ta
pwy ffordd mae tu fewn a tu allan yn profi i fod.
Yn Ffos 1 mae na ddwy rhych yn rhedeg
yn baralel gyda'u gilydd sydd yn marcio allan ardal
siap bron hirgrwm rownd adeilad y capel. Yn bresennol
rydym yn gweithio ar y drydedd rhych, yr un fwyaf,
ond mae'r tyllau post yn torri i mewn i'r ffos ac
yn anodd i'w gweld.
Ni allwn ddechrau cloddio'r Ffos
yn gyfangwbl, i edrych ar ei phroffeil ac am ddefnydd
i ddyddio, nes ein bod yn hapus ein bod wedi cloddio
y nodweddion hwyrach i gyd.
|
|

Bedd cist posibl yn Ffos 6 ger y capel
Cymeryd samplau amgylchyddol yng nghae y fynwent,
yn edrych am dystiolaeth o ddefnyddiaeth y tir yn y
gorffennol
|
Dydd Mawrth 12 Awst - Dydd
14
Ffos 6 - tu allan wal y capel, oedd
achos y cyffro heddiw.
O dan y rhwbel o'r wal dymchweladwy
mae na ddwy garreg wedi eu gosod ar eu ochrau. Mae
rhain yn edrych fel rhan o fedd cist ond mae'r bobl
mwy sinigaidd yma yn aros am fwy a dystiolaeth cyn
penderfynnu.
Yng Nghae y Fynwent mae'r gwirfoddolwyr
sydd yn clanhau y ffosydd prawf yn edrych am dystiolaeth
o rhagor o dorriadau bedd neu beddau cist. A bod rhai
yn cael eu darganfon, gallwn gofnodi eu safleon i
gael awgrymiad o pa mor drwm oedd defnyddiaeth y fynwent.
Rhagor o gyffro oherwydd gawsom
ymweliad wrth gweddill y staff o Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Dyfed...
|
|

Tamaid o haul gyda'r gwaith yn parhau i hwyhau Ffos
6
|
Dydd Mercher 13 Awst - Dydd
15
Mae'r 'bedd cist' yn Ffos 6 yn dal
i rhannu barn. Mae'r Ffos yn cael ei hwyhau i edrych
am rhagor o dystiolaeth - os yw yn fedd cist fel ddylem
ddarganfod y ffin ddwyreiniol cyn fo'n hir.
Yn Ffos 1 mae'r gwaith wedi dechrau
i gloddio'r 'Rhych Fawr'. Os yw hwn yn profi i fod
yn un nodwedd, 4 medr o led, tebyg ei fod yn ddwfn
iawn.
Roedd rhai o ni heddiw yn credu ein
bod ni wedi gweld yr haul am rhai funedau... ond efaillai
mae camgymeriad oedd hyn.
|
|

Ffos 6. Mae'r bedd cist ar chwith y llun a wal y
capel ar y dde. Nodwch y gwahaniaeth mewn cyfeiriad

Y 'Rhych Fawr' yn ffos 1 - dau nodwedd eglur. Mae'r
llun yn dangos y rhych wedi torri i mewn i'r garreg
yn cael ei chloddio. Mae'r tyllau neu thyllau post i'r
chwith o'r llun
|
Dydd Iau 14th Awst - Dydd
16
Mae'r cloddiad yn Ffos 6 wedi profi
i fod yn fedd cist cul. Mae cyfeiriad y bedd yma yn
ddiddorol. Er ei fod yn rhedeg mwy neu lai o'r dwyrain
i'r gorllwein mae'n sylwedig ei fod yn wahaniaeth
i gyferiad adielad y capel ei hun. Mae hyn yn awgrymu
efallai fod dyddiad y bedd cyn ddyddiad y capel. Os
byddai y ddau o'r un adeg mi fyddwn yn disgwyl eu
bod yn pwyntio yn yr un cyfeiriad. Efallai wrth gwrs
fod y bedd yn dilyn cyfeiriad adeilad cynharach ond
mor bell nid yw ein ymwchwiladau wedi ffeindio unrhyw
dystiolaeth o adeilad gynharach.
Yn Ffos 1 mae'r 'rhych fawr' yn
cynnwys dau nodwedd eglur - sef rhych fas wedi torri
i mewn i'r garreg sydd yn rhedeg yn baralel gyda'r
ffosydd eraill, a llinell o dyllau neu thyllau post.
Nid ydym yn siwr beth mae rhain yn cynrhychioli -
tybed eu bod yn rhan o adeilad neu adeilwaith wedi
hen ddiflannu, neu rhan o balis?
Bum yn sgwrsio yn hir ac yn hwyr
dros bwyd da a gwin yn ystod 'Barbeciw Diwedd y Gloddiad'.
Roedd y tywydd yn garedig am unwaith - daeth yr haul
allan i ddweud hwyl!
|
|

Mae'r darlun yn dangos y set o amgaeadau yn amgylchu
adeilad y capel. Roedd y ffotograffwr yn aros ar ffin
ffos 1 (allan o'r llun) yn edrych i'r De. Nid ydym ar
hyn o bryd yn gwybod y dyddiadau o'r nodweddion yma,
bydd rhaid aros am y radio-carbon

Mae'r capel wedi ei leoli mewn safle uchel ar y
tirwedd. Mae'r darlun yn edrych i'r gogledd-ddwyrain
tuag at olion caeau stribed Canoloesol yn rhedeg o'r
uchafbwynt ar y gorwel. Mae'r mor i'r dde, allan o'r
llun.
|
Dydd Gwener 15 Awst - Dydd
17
Ein diwrnod diwethaf ar y safle.
Llawer o gofnodi, cynllunio, tynnu lluniau ac arlunio
a hefyd gorffen cloddiad y bedd cist ger y capel.
Daeth Swyddog Cadwraeth Adeiladau
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro allan
i rhoi ei safbwynt ar adeilad y capel. Mae ef yn awgrymu
fod yr adeilad presennol yn dyddio o'r 13fed Ganrif,
efaill gyda'r talcen dwyreinniol wedi ei ail-adeiladu
yn y 14fed Ganrif.
Felly, beth rydym wedi dysgu?
Mae posibilrwydd fod y nodweddion
ar y safle o lawer o adegau gwahaniaeth. Mae adeilad
y capel presennol yn dyddio o'r 13fed Ganrif ac yn
eistedd mewn amgaead wedi ei wneud o nifer o ffosydd
sylweddol. Mae dyddiadau y ffosydd yma ar hyn o bryd
yn anadnabyddus ond rydym yn obeithiol fod ein samplau
yn cynnwys digon a fawror i'w dyddio gan radio-carbon.
Mae'r capel hefyd yn gysylltiedig
gyda mynwent sylweddol sydd a, o laeaf, un set o is-ymraniadau
ynddi, efaillai yn dangos gwahaniaeth gweddau o ddefnyddiaeth.
Mae'r claddedigaethau yn debygol o'r Canoloesoedd
Cynnar (5ed i 10fed Ganrif OC). Unwaith eto y dyddio
radio-carbon bydd yr allweth i ddaeall fel datblywyd
y fynwent.
Mae maint y fynwent a nifer y claddedigaethau
ynddi yn awgrymu poblogaeth sylweddol yn yr ardal
- y cwestiwn nesaf yw 'ble mae'r trefedigaeth domestig?'
Mae'r cloddiad wedi dangos i ni,
fel roeddem yn disgwyl, fod capel Porthclew yn gallu
cymeryd ei le gyda capeli cynnar Cristnogol eraill
Sir Benfro, yn bwysig am bererindod, am ddatblygiad
yr Eglwys Gristnogol ac am addoli.
Roeddynt hefyd mwy na thebyg, yn
nodweddion ar y tirwedd, yn cael eu defnyddio gan
y cychau bach a oedd yn teithio lan a lawr yr arfordir
am fordwyaeth. Fe gadwodd Porthclew ei bwysigrwydd
dros canoedd o flynyddoedd - a mae ei safle yn y tirwedd
efaill yn rhan o'r esboniad am hyn.
|
|
|
Yn olaf...
Mae rhaid i ni ddweud diolch i'r lleolion am eu goddefgarwch,
eu haelder a'u brwdfrydedd. Mae eisiau in ni hefyd
ddweud diolch i perchnogion y tir am rhoi gyniatad
i ni weithio yma, am eu cefnogaeth, caredigrwydd ac
am wneud paned da.
A diolch yn fawr i'n gwirfoddolwyr, sydd wedi bod
yma bob dydd, taw beth y tywydd. Byddai'r prosiect
ddim wedi bod yn bosib heb eich help i gyd.
|
|
|