Cartref >

Prosiect Castell Nanhyfer

Mae Castell Nanhyfer yn un o gyfrinachau gorau Sir Benfro. Mae’r safle tawel ac atmosfferig hwn, sydd lai na dau gilomedr o Drefdraeth ar arfordir gogleddol Sir Benfro, wedi chwarae rôl allweddol yn rhyfeloedd y 12fed ganrif rhwng tywysogion Cymru a goresgynwyr o Loegr. Fodd bynnag, credir bod amddiffynfeydd gwreiddiol y safle yn dyddio’n gynharach, wedi cael eu hadeiladu fel rhan o gaer yr Oes Haearn dros 2,500 o flynyddoedd yn ôl. Rhwng yr Oes Haearn a’r 12fed ganrif, mae’n debygol bod tywysogion Cymru wedi sefydlu llys yn y castell. Os yw hyn yn wir, gall y castell fod wedi bod mewn defnydd parhaus am bron i 2,000 o flynyddoedd.


Yr Arglwydd Rhys
Y pennaf ymhlith cymeriadau Castell Nanhyfer yw’r Arglwydd Rhys. Roedd yr Arglwydd Rhys yn rheoli teyrnas y Deheubarth (de orllewin Cymru) ac ef oedd arweinydd amlycaf y Cymry am yn agos i bedair degawd. Serch hynny, ni allai reoli ei feibion cynhennus, ac yn 1194 carcharwyd ef gan ei fab ei hun yn y twr yn Nanhyfer.


Y prosiect
Nod prosiect Castell Nanhyfer yw cael gwybod mwy am y safle hwn drwy raglen o gloddiadau archeolegol. Cynhelir y cloddio am dri thymor ar wahân dros ddwy flynedd, a bydd yn chwilio am dystiolaeth o arddulliau a thechnegau adeiladu, ac bywyd o ddydd i ddydd mewn castell yn y 12fed ganrif. Bydd y cloddio yn agored i’r cyhoedd allu ymweld ag ef, a chroesawn ymweliadau gan grwpiau gan gynnwys ysgolion, a grwpiau hanes ac yn y blaen.

Yn dilyn hynny, bydd y prosiect yn gwella’r mynediad at y safle, ac yn cyflwyno Castell Nanhyfer fel rhywle i fynd iddo a mwynhau’r awyrgylch a gwerthfawrogi’r hanes.

 

Nodau y Cloddiad a Hanes y Safle

Y Safle a Chloddiadau Archaeolegol

 


Y tîm
Mae’r partneriaid yn y prosiect hwn yn cynnwys Cyngor Cymuned Nanhyfer, Prifysgol Durham ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Cafwyd arian at y gwaith gan Cadw. Y Cyngor Cymuned biau’r Castell.

 

Y cloddiadau

Cynllunnir cloddio cyfres o 5 o ffosydd dros y tymhorau sydd ar ddod. Mae’r rhain wedi cael eu lleoli er mwyn ymchwilio ardaloedd arbennig yn y castell a mynd i’r afael â chwestiynau archeolegol penodol.

Ffos A - wedi’i lleoli oddi mewn i feili’r castell - ymchwilio i weddillion adeiladau pren a nodwyd yn 2008.

Ffos B - wedi’i lleoli oddi mewn i feili’r castell - ymchwilio i faint adeilad cerrig a nodwyd yn 2008.

Ffos D - wedi’i lleoli ar draws y ffos amddiffynnol a chwrs posibl y ffordd fynedfa

Ffos E - wedi’i lleoli ar gyffordd rhwng y mwnt a’r banc amddiffynnol - ymchwilio i ba un ddaeth yn gyntaf, y banc a’r ffos neu’r mwnt.

Ffos F – wedi’i lleoli ar ben y mwnt – i ddatgelu natur y strwythur cerrig


Dyddiadur Cloddio
Mae Richard Jones, o Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, wedi bod yn gweithio gyda thîm o Brifysgol Durham i alluogi pobl leol i ddarganfod mwy am y safle a’i hanes. Mae Richard yn helpu ymwelwyr a gwirfoddolwyr lleol i gofnodi eu hamser ar y safle a ellir ei weld fan hyn yn y dyddiadur cloddio.

Fan hyn, gallwch chi ddarganfod mwy am yr hwyl a’r cyffro wrth ddarganfod wrth i’r cloddio ddigwydd yng Nghastell Nanhyfer. Bydd Richard yn gosod lluniau o’r staff a gwirfoddolwyr cloddio wrth iddynt ddatgelu mwy o gyfrinachau cudd y castell. I gyd-fynd â’r lluniau hyn, mae’n gofyn i’r staff a’r gwirfoddolwyr gofnodi eu profiadau, meddyliau a syniadau i roi blas gwirioneddol o fywyd ar y safle.

I wybod mwy…
Mae llawer o ffyrdd i gael gwybod mwy am brosiect Castell Nanhyfer!

· Ewch ar-lein – www.neverncastle.com
· Dewch i ymweld â’r safle a chael taith gan dywysydd yn rhad ac am ddim o amgylch y gwaith cloddio
· Dewch draw a gwirfoddoli i gymryd rhan yn y cloddio
· Dewch â’ch ysgol draw i’r safle i weld archeoleg ar waith
· Trefnwch i rywun ddod draw i roi sgwrs i’ch grwp neu gymdeithas
· Cymerwch daith gerdded o amgylch Nanhyfer, gan gynnwys yr eglwys, croes y pererinion a’r castell. Mae taflenni am ddim ar gael.

Am wybodaeth am unrhyw un o’r dewisiadau hyn, rhowch alwad i Richard Jones ar 07814 526757 neu 01558 823121.


Dyddiadur Cloddio

 


 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]