Wythnos 1 - 16fed i 19fed Mehefin 2009 |
| Ffos B
Gwirfoddolwyr lleol Reg Davies a Joan Thurman
yn cloddio rhai o'r digonedd o ddarnau o grochenwaith sydd yn y
ffos yma. Mae'r darnau yn gorwedd ar ben yr haen ddistryw sydd gymaint
a 0.5 i 0.9m o ddwfn. I'r chwith mae rhan wal a ddatgelwyd yn ddiweddar.
Rhed y wal o'r dwyrain i'r gorllewin ac mae ei hyd ar hyn o bryd
yn anwybodol.
|
|
Myfyrwyr a gwirfoddolwyr yn ymlacio
ar ol diwrnod caled o waith yn y ffosydd.
|
|
Ffos F
Ar ol llawer o balu caled mae adeiladwaith y twr
yn ymddangos ar ben y domen. Wrth ddisgwyl ar y tystiolaeth sydd
wedi parhau, mae'n edrych fel petai'r twr wedi ei adeiladu o waliau
llech a chlai ac yn cynnwys rhai blociau o dywodfaen maint afreolaidd.
|
|
Ffos F
Cloddio canol sylfaen y twr yn datguddio rwbel
ar ben haen llosg.
|
|
Ffos F
Mae camedd wal y twr yn ymddangos yn glir; fe'i
fesurwyd ac mae tua 9m o dryfesur.
|
|
Ffos F
Mae'r llun yn dangos toriad sylfaenol yng ngwyneb
gogledd wal y twr lle mae'r adran i'r dde (sy'n gwynebu i'r gogledd)
wedi symud lawr y llethr rhywbryd yn y gorffennol. Paham? Efallai
ei fod yn rhan o ddinistriad bwriadol y gastell gan Hywel Sais yn
1195 neu methiant defnydd y domen i gefnogi y twr rownd yn arwain
i Hywel Sais adael y gastell.
|
|
20fed Mehefin
2009 |
|
Dr Chris Caple o Brifysgol Durham, Cyfarwyddwr y Cloddiad y rhoi
darlith ddifyfyr i rhai o enwogwyr archaeoleg Cymru yn ystod eu
ymweliad.
Rhoedd yr ymweliad yn rhan o ddathliad penblwydd
125fed 'Pentre Ifan', sef yr Heneb cyntaf yng Nghymru i gael ei
gofrestri yn 1884.
|
|
Ffos B o'r ochr
O'r lle mantes hwn gellir weld ongl y wal a ddatguddiwyd
yn ystod y cloddiad blwyddyn olaf a rhan o'r dystiolaeth o ddinistriad
bwriadol y gastell. Mae'r llun yn edrych i'r gogledd tuag at y domen
a gellir ei gweld yn y cefndir ar y chwith.
|
|
Ffos B
Yn y rhan o'r wal onglog yma a gloddiwyd yn ddiweddar,
fe ddarganfyddwyd ystlysbost dywodfaen i'r pen deheuol (ar y dde
yn y darlun).
Wrth edrych ar gylfwr y tywodfaen gyda'i ffiniau
miniog a marciau gaing clir, mae'n debyg fod y nodwedd yma dimond
wedi bod yn ei le am amser bach cyn dinistriad y gastell.
|
|
Ffos D
Tim, un o'r myfyrwyr sy'n gwirfoddolu, yn gwiethio'n
galed yn cloddio un o ddau dwll post posib yn Ffos D ar ben y banc
amddiffynnol. Mae'r tim yn ceisio darganfod a oes rhagor a dyllau
pyst yn dal i'w cael ar hyd yr aliniad yma.
|
|
Ffos F
Mae wal y twr yn dal i ymddangos yn ystod y cloddiad.
Yma gellir gweld wal y twr yn gron ac yn hardd, yn cael ei chlanhau
gan y myfyrwyr 'ffodus'.
|
|
Golygfa cyffredinol ar draws y
safle tuag at Ffos B, yn edrych i'r de o ffos F (y domen). |
|
Ffos A
Gwirfoddolwr, Sue Hughes yn cloddio twll post yn
Ffos A. Mae'r ffos hon hefyd yn dangos ardaloedd mawr sydd a tystiolaeth
o fywiolaeth gan gynnwys rhannau llosg.
|
|
Wythnos 2 - 21fed
i 27fed Mehefin |
Ffos B
Diwrnod poeth arall yn y ffosydd ac mae'r dangarfyddiadau yn
dal i ddod; mae Mike a Reg yn gwiethio eu ffordd drwy'r haen ddistryw.
Yn y blaen, gellir gweld rhiw (o'r chwith i'r dde). Llawr wedi
ei ddal at ei hun gan forter yw hwn. Yfory y byddwn yn dilyn yr
archaeoleg yn ol i ffin yr adeilad.
|
|
Ffos B
Fe ddilynwyd yr archaeoleg yn ol i doriad yn y rhiw ar ochr ddeheuol
yr adeiladau. Yn y llun yma gellir gweld gwyneb y morter tu allan
y llen blastig. Tebyg mae ffordd cul rhwng dau adeilad yw'r ardal
yma. Uwchben mae ffram drws tywodfaen wrth ymyl wal llech a chlai.
Yn y blaen mae'r haen rwbel ddistryw tu fewn i'r ystafell gyda'r
trothwy llech yn is. Mae cefn yr adeilad wedi syrthio lawr y rhiw
serth i'r de drwy erydiad naturiol neu yn ystod dinistriad bwriadol
y gastell.
|
|
Ffos B
Mae'r llun yma yn dangos y gwaith llech main a blociau tywodfaen
yng nghefn y wal deheuol yn ardal 'A' a gloddiwyd blwyddyn olaf.
|
|
|
Richard Jones o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
yw'r Archaeolegwr Cyswllt Cymunedol ar y safle. Yma, mae yn sgwrsio
am yr archaeoleg gyda gwirfoddolwr Joan ac ymwelwyr. Gellir gwled
yn glir, dwy wal allanol yr adeiladau A a B yn yr ardal ddeheuol,
sydd yn creu'r ffordd gul.
|
|
Ffos F
Myfyriwr a gwirfoddolwr lleol, Rhian, yn egluro archaeoleg welydd
y twr i ymwelwyr. Mae'r llun yn dangos yn fanwl adeiladwaith y
twr a haenau y rwbel distryw tu fewn i'r welydd.
|
|
Ffos B
Rydym wedi croesi'r trothwy yn yr adeilad llech a chlai yn Ffos
B. Fe'i enwir, 'Adeilad B Ardal Ddeheuol'. Gellir gweld gwaith
saer main yn ffram y drws yn y mynediad i'r ystafell. Mae'r llun
yn dangos dwfn yr haen distryw. Rydym wedi cymeryd i ffwrdd am
archwiliad, nifer o flociau carreg wedi eu trwsio a oedd yn rhan
o'r drws.
|
|
Ffos F
Mae'r tim wedi cloddio llawr y twr ac wedi darganfod llawer o
grochenwaith a rhai darnau o esgyrn anifail wedi dadfeilio.
|
|
Ffos D
Fe gloddiwyd nifer o dyllau post (a thyllau thrawst?) yn y ffos
yma - gellir eu gweld tu ol i Sam. Mae llawer o sgwrsio yn mynd
ymlaen ynglyn gwraidd a phwrpas y ffos ddwfn sydd yn llawn o gerrig,
sydd yn cael ei chloddio gan Tim yn y cefndir. Yn y llun gellir
gweld gwyneb y cerrig sydd yn llanw'r ffos i'r dde o'r tyllau
post.
|
|
Ffos A
Mae nifer o ddarganfyddiadau pwysig wedi eu gwneud yn y ffos
yma dros y diwrnodau diwethaf. Mae tyllau post wedi eu darganfod
ac wedi eu cloddio a'u samplu. Mae toriadau yn y llawr yn awgrymu
tyllau trawst neu wal lle mae'r defnydd wedi ei ddwyn. Mae peth
crochenwaith diddorol iawn hefyd wedi ei ddarganfod. Rydym yn
ansicr o'r gwreiddiad a'r oed. Fe fydd Dr Peter Webster o Brifysgol
Caerdydd yn ymweld a'r safle dros y diwrnodau nesaf a gobeithir
iddo egluro y darnau crochenwaith diddorol yma.
|
|
Ffos B Ardal Deheuol - tu fewn Adeilad B
Cyfarwyddwr y Safle, Dr Chris Caple yn siarad gyda
gwirfoddolwyr a myfyrwyr am ddehongliad y ffos yma. Mae'r haen distryw
wedi ei fudo ac mae llawr y ffos nawr uwchben y gwyneb archaeolegol
cyn-ddistryw.
|
|
Wythnos 3 - 28fed
Mehefin i 8fed Gorffennaf |
Ffos F
Dydd hyfryd yma a rhagor o ymwelwyr i'r twr ar
ben gogleddol o'r safle. Heddiw mae'r staff o Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Dyfed yn ymweld. Mae'r myfyrwyr nawr wedi cloddio lawr hyd yr haenau
adeiladu isaf yn sylfaen y twr. Gellir gweld yn glir y cerrig sylfaenol
i'r chwith o'r myfyrwyr.
|
|
Yn gynharach yn yr wythnos, cawsom ymweliad wrth ddisgyblion
o'r ysgolion lleol. Ar ol tro rownd y cloddiad roedd y plant yn
gallu cymeryd rhan yn y prosiect trwy olchi y cerrig a ddarganfyddwyd
yn yr haenau distriwiol. Mae'n bosib fod y cerrig hyn a gelwir
'pwtan' wedi eu cloddio yn lleol.
|
|
Ffos B Ardal Ddeheuol ‘B’
Sam yn cloddio yr ardal byw tu fewn yr adeiladau.
Mae'r haen yma yn llawn o gymysgedd o glai a farwor. Yn ystod y
cloddiad darganfyddwyd tyllau pyst. Efallai fod rhain yn rhan o
adeiladwaith fewnol cyd-amserol neu yn dyddiadu o amser fwy cynnar
pan roedd bobl yn byw yno.
|
|
Ffos D-D
Mae'r archeolegwr Will Davies yn agored rhych wrth
waelod y ffos amddiffynol fewnol ac yn dechrau'r gwaith caled o
ddatguddio'r gwaelodion organig sydd yn gorwedd isod. Ar ol llawer
o waith yn yr haul a'r glaw gyda pryfau pigo yn bob man, fe gloddiodd
y gwaelodion a darganfyddodd llechi yn gorwedd ar ongl tua 45 gradd
yn ffurfio siap 'V'. Mae'n edrych fel petai rhain wedi eu gosod
yn bwrpasol. Nid ydym wedi penderfynu eu pwrpas eto ond mae nhw
yn debygol o'r traenau tir cynnar a welwyd yn yr ardal yma.
|
|
Prynhawn Dydd Sadwrn
Ar ol oedi cyn dechrau rydym unwaith eto yn ail-gychwyn
ein gwaith. Dim llawer o ymwelwyr heddiw ond mae rhai archaeolegwyr
amatur wedi cyrraedd i weld olion y twr 12 fed ganrif. Yma mae Will
yn egluro yr archaeoleg i'n dau ymwelwr gwrol. Mae Beth a Ben yn
parhau i glanhau'r safle yn barod i dynnu lluniau.
|
|
Amser te. Beth a Ben yn cymeryd amser i sgwrsio
am y cloddiad cyn dychwelyd i'r gwaith. |
|
Dydd Sul 5ed Gorffennaf
Dechreuad gwlyb arall ond mae pethai yn gwella
wrth i'r haul dorri trwyddo. Yma mae Dr Caple yn rhoi hyfforddiant
i Ben a Beth sut i ddechrau gwaith tu fewn Ffos F.
|
|
Rydym yn dyfalbarhau nes amser cinio
ac wedyn yn ail-ddechrau rhwng y cawodydd. Yma yn Ffos B, yn yr
ardal adeiladau ddeheuol mae Rhian yn cloddio'r haen 12fed ganrif
yn Ardal A, tra bod Dr Caple a Sam yn siarad am gloddiad y llawr
morter yn y ffordd gul rhwng adeiladau A a B. Yn y cefndir gellir
gweld Mike a Ben yn symud y domen gwastraff fel ein bod yn gallu
darganfod maint y wal a ddarganfyddwyd yn Ffos B eleni.
|
|
Ffos B-B yn yr ardal goedog
Yn yr ardal goedog yn agos i Ffos B, mae Tim, John
a Phil yn agored ffos arall i geisio darganfod maint adeilad A yn
yr ardal ddeheuol. Mae nhw yn gobeithio darganfod dychwelyd y wal
a ddarganfyddwyd blwyddyn diwethaf.
|
|
Rydym yn parhau i weithio gan osgoi'r
cawodydd nes canol y prynhawn pan mae'r glaw yn arllwys lawr.
|
|
Heddiw, fe ymwelodd Cynghorydd Cymenudol
Susan Greenwood a'r safle. Mae'r darlun yn ei dangos gyda'i thamaid
cyntaf o grochenwaith 12fed ganrif.
|
|
Mike a Trevor yn cloddio adran llawr
y twr ac yn darganfod tyllau pyst o'r twr pren gwreiddiol.
|
|
Tim y Cloddiad
O'r chwith i'r dde - Will, Aimee, Tim, Mike, Sam,
Beth, Phil, Ben, Rhian, Jon, Trevor, Richard.
Aelodau arall y tim - Joan, Mair, Rhiannon, Reg,
Susan, Charles, Sue a Carl.
Hoffen rhoi ddiolch i gymuned Nanhyfer ac i'r ymwelwyr i'r gastell
am eu cefnogaeth, cyfeillgarwch a'u cymwynas yn ystod y cloddiad.
|
|