|
|
Dydd Sul 20 Mehefin 2010
Mae cloddiad Haf Castell Nanhyfer wedi dechrau. Fe wariwyd y diwrnod cyntaf yn cael gwared
o'r adlenwi a oedd wedi ei osod i amddiffyn y ffosydd ar ddiwedd cloddiad y Gwanwyn. Erbyn diwedd y dydd roedd
y ffosydd wedi eu glanhau, yn barod am ddechreuad ffres ar Ddydd Llun. Yn wahanol i gloddiad y Gwanwyn mae'r
tywydd i fod yn ffein am yr wythnos gyntaf.
|
|
Dydd Llun 21 Mehefin 2010
"I hyderus fynd lle mae dim dyn wedi mynd o'r blaen!" Mae'r gwaith cloddio ar y pyllau yn y Neuadd
Fawr wedi dechrau. Mae'n bosibl fod y pyllau yma wedi eu cloddio am glai ar gyfer glynu waliau cerrig y castell
yn y cyfnod diweddarach.
Fe ddefnyddiwyd mini-digger, yn cael ei wylio yn ofalus gan oruchwyliwr archeolegol, ar ran o'r Gastell Mewnol
(ardal P) i gael gwared yr uwchbridd (fe wiriwyd y dyfnderoedd yn ystod cloddiad y Gwanwyn). Fodd bynnag,
daethom ar draws ben wal annisgwyl, felly bydd rhagor o waith llaw (picell a rhaw) yn cael ei wneud.
Mae adran yn cael ei dorri drwy'r 'banc canol' yn safle D. Ar ol defnyddio'r digger, mae'r clai wedi caledi
bron yn soled. Mae'r ardal arall sydd yn cael ei weithio (ardal N) tu fewn i'r banc mewnol, yn cael ei wacau
i lawr hyd gwasgaredd o gerrig fflat.
Cynnydd da am y ddau ddiwrnod cyntaf!
|

Ffos DD. Ardal coginio posibl ar ddiwedd ddeheuol y ffos wedi'i selio dan pen y banc

Ffos N. Glanhau lawr clai posibl sy'n gysylltiedig yn bosib gyda thyllau pyst a cofnodi hyn a all droi allan
i fod yn risiau llech

Glanhau ben y wal ar y twr sgwar yn y Castell Mewnol

Ffos DD. Gwasgaredd llech ar flaen (gogledd) y banc

Ffos P. Y wal o amgylch y Castell Mewnol a'r wal newydd yn ymddangos i fod yn gyfoes

Ffos BB. Cloddio'r pyllau clai is lefel llawr y Neuadd Mawr
|
Dydd Gwener 25 Mehefin 2010
Dros y diwrnodau diwethaf, un o'r prif ddiddordebau oedd y gwasgariad o ddarnau o grochenwaith
yn Ffos N. Roedd nifer o ddarnau o bot coginio, yn dal i fod gyda haen o huddygl, a handlen fawr o jwg neu biser,
o bosibl ar gyfer dwr neu gwrw, a hefyd rhai darnau o lestri, mwy na thebyg 'Chester-ware' o'r 11fed ganrif
cynnar. Mae'r 'Chester-ware' yn eithaf hawdd i'w adnabod am ei fod wedi ei stampio gyda blodyn garw addurnol
.
Mewn mannau eraill yn ardal y Neuadd Fawr (safle BB) mae'r cloddio yn parhau o'r pyllau sydd
yn ol pob tebyg wedi eu palu am glai i lynu y waliau cerrig yn ystod cyfnod diweddarach y castell. Mae llawer
o gloddio yma ac ychydig yn y ffordd o ddarganfyddiadau. Mae samplau o bridd wedi cael eu cymryd, a fydd rhain
yn cael ei rhydyllu yn ol yn Durham i chwilio am hadau llosg a marwor.
Yn Ardal P - rydym wedi cloddio i lawr i haen o lechi to o'r adeg pan gafodd y castell ei adael
yn 1195. Mae cofnodi adrannau o'r banc (Ffos DD) yn cael ei wneud cyn fod cloddio'r ffos yn cael ei gwblhau
am fod y banc yn sychu allan. Bydd y gwaith cloddio yn dechrau cyn gynted ag y bydd y cofnodi wedi ei gwblhau.
Mae Kate, arolygydd Cadw wedi ymweld a'r safle am y tro cyntaf ac mae'r rhaglen waith ar gyfer
gweddill y cloddio wedi ei gytuno. |

Y Castell Mewnol

Golygiad o Ffos P trwy y Banc Allanol
|
Dydd Sadwrn 26 Mehefin - Dydd Gwener 2 Gorffennaf 2010
Roedd yn sych ac yn heulog ar y safle heddiw felly cafodd y gwaith symud ymalen yn dda. Bu
Cathryn, Adrian a Dr Chris Caple yn cofnodi, cynllunio ac yn parhau i ymchwilio y gwyneb clai posibl a thyllau
pyst o Ffos N. Draw yn Ffos BB bu cloddio y pyllau clai / ffos Eingl-Normanaidd cynnar amddiffynnol yn parhau.
Yn Ffos P mae Sam a Selina wedi ymestyn y gwaith cloddio i ddangos fwy o waliau mewnol y castell. Mae gwaith
clirio ar ochr ddeheuol y twr sgwar hefyd wedi dechrau.
Roedd na nifer o ymwelwyr i'r safle, gan gynnwys llawer o Sir Benfro a rhai o gyn belled i
ffwrdd a'r Unol Daleithiau, Awstralia a Seland Newydd, yn ogystal ag ymwelwyr academaidd o Brifysgolion Cymru
a Lloegr. Mae CADW hefyd wedi ymweld a'r safle i drafod opsiynau cadwraeth ar gyfer y castell mewnol.
O ystyried yr amodau anffafriol gwlyb, mae'r myfyrwyr wedi cael diwrnod i ffwrdd o'r cloddio
i ymweld a safleoedd hanesyddol lleol, gan gynnwys Eglwys Nanhyfer.
|

Sam yn cofnodi y Castell Mewnol

Holly yn cloddio yr ochr ddeheuol o'r twr
|
Dydd Sadwrn 3 Gorffennaf 2010
Mae'r diwrnod heulog clir wedi danfon pawb i ffwrdd i ddechreuad da ac mae'r gwaith yn mynd
ymlaen yn dda yn y ffosydd. Yn Ffos BB mae John yn parhau i weithio o amgylch waliau y Neuadd Fawr a'r ffos
amddiffynnol, tra bod Holly draw yn y castell mewnol yn gwneud cynnydd sylweddol yn glanhau yn ol oddi wrth
waliau y Twr yn Ffos G.
Draw yn Ffos N roedd y myfyrwyr yn gweithio'n galed i diffinio y clai ac gwynebau llechi tu
fewn i'r beili. Yn Ffos P, roedd Sam yn cofnodi cwrt bosibl y castell mewnol, a wedyn fe ddechreuodd Selina
a Paula i gael gwared ar yr haen hwn i ddangos y lefel llech isod.
Fe fu ymwelwyr o'r ardal lleol yn ogystal a thwristiaid yn dod i weld y gwaith cloddio heddiw,
ac i gyd yn mwynhau teithiau o amgylch y castell yn ei amgylchedd hardd.
|

Cerdded trwy y Banciau Allanol o'r castell
|
Dydd Sul 4 Gorffennaf 2010
Roedd y dechreuad gwlyb i'r diwrnod ddim yn ddigon i stopio'r cloddwyr dewr! Roedd gwaith yn
parhau i symud ymlaen yn y ffosydd mwyaf addas, ac erbyn y prynhawn roedd yr haul yn tywynnu arnom unwaith eto.
Mae waliau'r castell mewnol a'r twr yn awr yn cael eu dilyn, i arddangos y corneli a oeddent
gynt wedi eu cuddio gan thyfiant a phridd, ac rydym wedi cael gwared o llawr y cwrt i ddangos yr haen o lech
isod. Roedd ffeindio rhai darnau o grochenwaith yn bywiogi'r bore gwlyb. Yn Ffos N mae'r gwaith yn parhau i
symud ymlaen yn dda er gwaethaf cymhlethdod yr ardal ac amodau anodd, ac roedd darganfyddiadau o grochenwaith
yn codi ysbryd yr holl gloddwyr.
Yn y prynhawn, roeddem yn falch iawn i gael ymweliad gan y Sefydliad Archeolegol Brenhinol,
ac ar ol cinio gyda'r haul yn dod allan fe wnaeth ymwelwyr arllwys i mewn o Sir Benfro, De Cymru, yn ogystal
ag ymwelwyr o'r Unol Daleithiau ac Ewrop. Fe wnaeth bawb fwynhau teithiau o'r safle ac roedd llawer o'r ymwelwyr
lleol yn falch i weld y cynnydd ar y safleoedd a rhannau o'r castell nad oeddent wedi eu gweld ers y 12fed ganrif
yn cael eu datgelu.
|

Selina yn cloddio llawr y cwrt
|
Dydd Llun 5 Gorffennaf 2010
Diwrnod heulog yn sicrhau cloddwyr hapus! Mae'r gwaith yn symud ymalen yn dda yn Ffos BB. Mae'r
cloddwyr yn ceisio ffeindio gwaelod ffos fawr ac yn ceisio deall paham y cafodd ei llenwi cyn dechreu adeiladu
y Neuadd Mawr. Mae'r cloddio yn y castell mewnol yn datgelu rhagor o waliau y twr a phosibl cwrt neu neuadd.
Mae grwp o gerrig a ddarganfyddwyd ar waelod wal y twr ar yr ochr ddeheuol yn ein hatgoffa o'r gwirionedd o
hanes cythryblus y castell. Wnaeth Hywel Saes ei hun rhuthro'r castell neu oedd y castell dan ymosodiad cyn
cael ei adael? Roedd dychmygion y gweithwyr wedi eu cyfroesi! Draw yn Ffos N fe ddarganfyddwyd mwy o cerameg
ac roedd pwll mawr aneglur yn cael ei astudio. Mae'n bosib fod y pwll wedi ei ddefnyddio i gloddio clai ac nes
ymlaen fel pwll sbwriel.
Yn Ffos P (yn y banc allanol) roedd llawer o gyffro pan ddarganfyddwyd lefel arall yn is na'r
banc Eingl-Normanaidd - oedd na gyfnod gynharach canoloesol neu Oes Haearn? Dim ond rhagor o ymchwil fydd yn
rhoi ateb.
Roedd ymwelwyr a'r safle heddiw yn falch i weld y cynnydd. Roedd llawer o'r ymwelwyr yn leol
ond oedd ychydig o Loegr a'r Unol Daleithiau wedi dod i fwynhau dirgelion y castell yn cael eu datgelu o flaen
eu llygaid.
|

John yn Ffos BB
|
Dydd Mawrth 6 Gorffennaf 2010
Roeddem yn ffodus gyda'r tywydd unwaith eto heddiw. Roedd yr haul yn tywynnu arnom trwy'r dydd
er i'r rhagweliad tywydd ddweud i ddisgwyl cawodydd. Roedd y gwaith o amgylch y castell mewnol yn parhau i ddatgelu
waliau y twr ac adeiladwaith cysylltiedig, ac yn cynhyrchu nifer fawr o ddarnau o grochenwaith.
Yn Ffos N roedd y pwll mawr yn dal i fod heb esboniad ond fe ddarganfyddwyd yno nifer o ddarnau
o botiau crochenwaith a hoelion. Yn Ffos BB mae chwilio am waelod y ffos yn parhau, ac fe gafodd ei gynllunio
a'i gofnodi cyn cael ei ymestyn. Yn Ffos P, yn y banc allanol, roedd y datguddiad o haen gynharach yn cael ei
ddilyn wrth i'r ffos gael ei hymestyn o'r pen deheuol. Ar ei phen gogleddol roedd gwirfoddolwr yn gweithio heb
flino trwy haen drwchus o lech. Mae'n debyg fod hwn yn rhan o wal wedi ymgwympo.
Daeth ymwelwyr unwaith eto o bell i ffrwdd, o Loegr, yr Alban a'r Unol Daleithiau, yn ogystal ag o Llandudoch
a Trimsaran, pawb yn mwynhau gweld y cloddiad. Roedd ymwelwyr lleol yn synnu i weld olion y castell sydd ar
garreg eu drws nad oeddynt wedi gweld o'r blaen.
|
| |
Dydd Mercher 7 Gorffennaf 2010
Bwrw galw yn y bore felly dim gwaith.
|
|
Dydd Iau 8 Gorffennaf 2010
Dydd bant i bawb.
|
|
Dydd Gwener 9 Gorffennaf 2010
Dechreuad gwlyb iawn i'r diwrnod yn arafu'r cyflymder ond nid oedd yn stopio'r cloddwyr! Parhaodd
y gwaith yn ffos N (tu fewn i'r beili), i fyny ar y banc a drosodd yn y castell mewnol dechreuodd y tim ddatgelu
mwy o waliau y twr. Yn y prynhawn daeth yr haul allan a'r cynnydd yn cyflymu, a cafodd llawer o ffos BB ei recordio
ac adrannau wedi eu cynllunio gan Vicky. Er gwaethaf y tywydd gwael daeth nifer o ymwelwyr i'r safle heddiw,
gan gynnwys Cymdeithas Archaeolegol Caerdydd a llawer o fobl lleol. Roedd pawb yn gyfroes i weld y castell a
chynnydd y gwaith cloddio ar ol dim ond ychydig o wythnosau o waith caled.
|
|
Dydd Sadwrn 10 Gorffennaf 2010 a Dydd Sul 11 Gorffennaf 2010
Mae'r penwythnos yn cynnesi fel mae'n mynd ymlaen ac mae'r tim yn hapus! Mae'r gwaith yn datblygu
ac yn ogystal a cofnodi trwyadl yn y ffosydd (arlunio adrannau, cynllunio a ffotograffio) roedd ardaloedd newydd
o'r castell mewnol yn cael eu cloddio. Erbyn Dydd Sul roedd gwybodaeth hanfodol am waliau y cwrt posibl yn dechrau
dod i'r golwg, roedd cornel y twr wedi ei ddadorchuddio yn llwyr, ac roedd y waliau wedi eu glanhau a'u paratoi
ar gyfer cofnodi.
Roedd yr ymwelwyr dros y penwythnos yn dod o bob rhan o dde-orllewin Cymru, gan gynnwys Merthyr
Tudful, Llandudoch a Nanhyfer, yn ogystal a'r Alban, Lloegr a'r Unol Daleithiau.
Roedd rhai ymwelwyr wedil treulio amser ar y safle blynyddoedd yn gynharach tra ar eu gwyliau,
a roeddynt yn rhyfeddu i weld y castell yn cael ei ddadorchuddio, ac roedd rhai eraill yn cofio'r castell fel
maes chwarae plant a oedd wedi tanio eu dychymyg. Roedd pawb yn mwynhau y teithiau o amgylch y safle a gweld
y archeolegwyr yn gweithio'n galed!
|

Cofnodi terfynol yn Ffos D

Ffos N – bron i lawr i garreg naturiol

Ffos P – cerrig ymladd?

|
Dydd Mercher 14 Gorffennaf 2010
Yr ychydig ddyddiau olaf o'r cloddiad. Mae'r glaw trwm wedi ein arafu, yn union pryd y dylem
fod yn mynd ati hyd yr eithaf. Beth bynnag mae'r amodau yn gwellhau gyda dim ond glaw ysbeidiol.
Ffos BB: Mae'r ffos wedi ei chwblhau yn awr. Mae'r nodweddion cyntaf yn awr yn ymddangos i
fod yn ffos gynnar (Eingl-Normanaidd) gyda banciau ar y naill ochr. Mae'r banciau hyn i bob golwg wedi ei lefelu
i mewn i'r ffos cyn cafodd y Neuadd Fawr ei adeiladu mewn carreg.
Ffos D: Mae adran canol y banc canolog, bellach yn ymddangos fel adeg cynharach o'r banc: am
faint yn gynharach bydd yn rhaid inni aros am y canlyniadau dyddio radiocarbon ar y samplau o fawror a gymerwyd.
Ar wyneb allanol y banc mae haen o slabiau llech, yn bosibl o garreg a oedd yn gwynebu yr adeiladwaith amddiffynnol
diwethaf ar ben y banc.
Ffos E: Ffos fychan a gloddiwyd i'r de o'r mwnt ar ben y banc. Yma fe ddarganfyddwyd (rhagor
o) olion clai ar gyfer y banc gyda llechi yn y pen gogleddol o bosibl yn llithro i lawr o'r twr ar y domen.
Ffos N: Bron yn gyfan gwbl i lawr at yr isbridd clai naturiol, ond yr ydym yn edrych am unrhyw
nodweddion cudd.
Ffos P: Ar ochr ddeheuol y "twr sgwar" mae nifer o hyn sy'n ymddangos i fod yn gerrig
ymladd - oedd rhain ar y twr ac wedi syrthio yn ystod ddymchwel y twr, neu oeddynt yn agos i'r fynedfa i'r wal
allanol lle gallwyd eu gollwng dros yr ochr ar ben unrhyw ymosodwyr.
Mae'r "twr sgwar" yn awr yn llai na sgwar gyda cornel crwn dde-gorllewinol. Bydd
ymchwiliad y cornel gogledd-ddwyrainol yn gorfod aros hyd y tymor nesaf, am fod na lawer o wreiddiau coed mawr
ac nid oes digon o amser ar ol.
Yn y cyfnos, fe gafodd dros chwe deg o bobl lleol taith o amgylch y safle a arweinir gan Chris
Caple, gan gynnwys edrych ar nifer o'r darganfyddiadau a gwylio arddangosfa o Nine Men's Morris yn cael ei chwarae
gan y myfyrwyr. Roedd pawb yn bles iawn ar y cynnydd yr haf hwn.
|

Ffos P – Cornel crwn dde-gorllewinol y twr sgwar (yn cael ei dal i fyny gan ein bwtresi o garreg ni)

Ffos P - ardal i'r gogledd o'r twr gyda'r cloddio bron ar ben

Tirlunio ar ben y mwnt

Noson agored

Chwarae Nine Men's Morris ynghyd a rhai o'r darganfyddiadau
|
Dydd Gwener 16 Gorffennaf 2010
Mae'r ffosydd yn cael eu llenwi yn awr gan beiriant, ond am Ffos E a cafodd ei llenwi ddoe
gan law. Mae rhai o'r myfyrwyr wedi gadael ddoe ar gyfer graddio a bydd y gweddill yn gadael heddiw neu yfory.
Mae rhai yn gobeithio fod yn ol yr haf nesaf ac mae pawb ar y tim o wirfoddolwyr lleol yn dymuno dychwelyd.
|