Prosiect Castell Nanhyfer - Y Safle a’r Cloddiadau ArchaeolegolSAFLE
Ar ryw adeg yn ystod canol a diwedd y 12fed ganrif, dechreuwyd adeiladu adeiladau ac amddiffyniadau cerrig ar y safle. Nid yw’n eglur a adeiladwyd y rhain gan yr Arglwydd Rhys yn y 1160au a’r 1170au, gan William FitzMartin ac Angharad yn y 1170au a’r 1180au neu gan yr Arglwydd Rhys a’i feibion yn y 1190au. Cafodd twr ‘crwn’ silindraidd mawr ei adeiladau ar ben y domen. Rhoddwyd wal gerrig berimedr a thwr mawr sgwâr sy’n wynebu’r beili i flaen dwyreiniol y pentir, sydd wedi’i wahanu o’r beili gan ffos anferth ag ochrau fertigol ac a dorrwyd allan o’r graig i ffurfio cwrt bach ar siâp triongl yn fras, a ddisgrifir fel y ‘Castell Mewnol’. Er bod y twr hwnnw yn bodoli i raddau helaeth fel twmpath o rwbel, gellir cael cipolwg o ddarnau bach o wyneb y wal perimedr a’r twr sgwâr hyd heddiw. Ar ochr ddeheuol y safle, wrth ymyl y cwymp serth i lawr y cwm roedd o leiaf dau adeilad o garreg. Mae’n ymddangos bod yr un sydd erbyn hyn o dan glawdd Sir Benfro wedi bod yn neuadd fawr, yn fwy na 16m o hyd ac 8m o led, efallai mai dyma oedd Neuadd Fawr y castell. Roedd yr adeilad hwn yn dangos arwyddion o losgi a difrod, fwy na thebyg dyma oedd dinistriad bwriadol gan Hywel Sais ym 1195. Ar fynedfa ddwyreiniol y Neuadd Fawr yn nyddodion y dinistr, yng nghloddfeydd 2008 daethpwyd o hyd i Fwrdd Chwarae Nawtwll - bwrdd chwarae o lechen wedi’i dorri’n 2 ddarn ynghyd â darn chwarae bach crwn. Daeth Chwarae Nawtwll yn gêm boblogaidd iawn yn y 12fed a’r 13eg ganrif, roedd yn cael ei ysgrifellu ar waliau a seddau cloestrau llawer o eglwysi cadeiriol o’r 13eg a’r 14eg ganrif yn Lloegr ac fe’i chwaraeir hyd heddiw.
Cafodd pob un o’r adeiladau carreg eu hadeiladu o lechi wedi’u sadio â morter clai. Mae hyn yn anarferol gan yr adeiladwyd bron pob castell â morter calch. Dangosodd dadansoddiadau y defnyddiwyd isbridd clai naturiol fel y morter yn Nanhyfer. Mae’n debygol bod Castell Nanhyfer yn oroeswr prin iawn o’r cyfnod pan oedd cestyll yn newid o bren i garreg. Ceir nifer o enghreifftiau eraill o waliau cerrig â morter clai arnynt mewn cestyll o’r 12fed ganrif yng Nghymru ac efallai yr oedd yn dechneg adeiladu draddodiadol a ddefnyddiwyd mewn ardaloedd o Gymru lle'r oedd calch yn brin. Roedd gan y Neuadd Fawr ac adeiladau eraill o garreg yn y Beili fylchau drysau o flociau tywodfaen sgwâr cerfiedig. Cysylltir defnydd o flociau carreg wedi’u cerfio fel arfer â gwaith adeiladu Eingl-Normanaidd. Mae eu defnydd mewn wal gyda llechi a chlai yn anarferol ac yn dangos cyfuno technegau adeiladu traddodiadol ‘Cymreig’ ac ‘Eingl-Normanaidd’. Ar ôl dinistrio’r castell cafodd yr ardal hon ei haredig yn helaeth at ddibenion amaethyddiaeth oherwydd ceir cynhyrchion cnydau uchel drwy ffermio ar safleoedd hen anheddau. Cymerodd yr aredig yr olion archaeolegol i ffwrdd o ganol y safle a lleihau uchder yr holl adeiladau cerrig. Hefyd gwnaeth ffosydd draenio mawr ddifrodi’r gweddillion archaeolegol. Dr Chris Caple
|