Castell Caerfyrddin 2001 Adeiladwaith cymhleth yw'r porthdy. Fe'i codwyd ddechrau'r 15fed ganrif gan ddisodli, ac efallai ymgorffori, rhannau o adeiladwaith cynharach a gawsai ei ddinistrio adeg gwrthryfel Glyndwr ym 1405-6. Mae'n debyg i'r adeilad o'r 15fed ganrif fod yn borthdy ac iddo ddau dwr, a siambrau yn y cefn, ac uwchben hynny yr oedd yr ystafelloedd domestig. Mae'r darn cefn hwnnw wedi mynd. Mae'r dystiolaeth o'r adeiladwaith yn awgrymu bod bloc o geudai ac ystafelloedd gwasanaethu eraill mewn tyred yn yr ongl rhwng y porthdy a'r llenfur cyfagos. Mae gwerthusiad cyfyngedig yn awgrymu bod y porth-cyntedd yn cynnwys pydew pont godi. Cafodd y porthdy ei newid, a chwalwyd rhan ohono, yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Llenwyd lloriau isaf y ddau dwr â rwbel a morter a hynny, o bosibl, yn ystod y Rhyfel Cartref fel mesur i ddiogelu'r lle rhag magnelau. Mae peth o'r rwbel hwnnw wedi'i symud ymaith o ganlyniad i estyn seleri'r eiddo cyfagos i'r de ohono, ac o bosibl fel cam bwriadol yn nhwr y gogledd, mewn cysylltiad â chodi carchar y sir ar safle'r castell yn ystod y 1790au. Mae'n bosibl bod rhywfaint o olion cefn y porthdy wedi goroesi yn y mur sydd o amgylch y carchar. Cyswllt prosiect : Ken Murphy a Pete Crane
Ludlow N 2003 ‘An interim review of ten years’ work at Carmarthen Castle, 1993-2003’, Carmarthenshire Antiquary 39, 147-150.
|
[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]