Gweithfeydd Haearn Cynnar yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro 2001 Mae'r prosiect hwn, a ariannir gan Cadw, yn archwilio'r dystiolaeth o'r diwydiant gweithio haearn yn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro. Mae'r dystiolaeth, sy'n dameidiog iawn yn aml, yn cynnwys olion safleoedd y gweithfeydd haearn eu hunain a chofnodion dogfennol o'r un cyfnod. Prif nod y prosiect yw cyflwyno gwybodaeth am gyflwr presennol olion safleoedd yr amrywiol ffwrneisi a gefeiliau a llunio arolygon topograffig o olion ffwrnais Ponthenri a gefail Llandyfân. Mae'r ddau safle'n fwyfwy ansefydlog oherwydd y dirywiad cyffredinol yn eu cyflwr a'r cynnydd yn nhwf y llystyfiant. Nod arall sydd gan y prosiect yw dod o hyn i unrhyw safleoedd eraill, na chofnodwyd mohonynt cyn hyn, lle buwyd yn gweithio haearn yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Ymarfer pen desg oedd y gwaith a wnaed yn ystod 2000-2001. Hyd yn hyn, cafwyd hyd i naw safle, sef tri safle i ffwrneisi yng Nghoed Canaston (Sir Benfro), Ponthenri a Ffwrnais Raby (ill dau yn Sir Gaerfyrddin) a safleoedd chwe gefail yn Blackpool (Sir Benfro), Cwmbrân, Cwmdwyfran, Cydweli, Hendy-gwyn a Llandyfân (oll yn Sir Gaerfyrddin). Heneb Gofrestredig yw pob un o'r safleoedd yng Nghoed Canaston, Llandyfân, Ponthenri a Ffwrnais Raby.
Bu i'r gwaith yn ystod 2001-2002 gofnodi'r olion sydd wedi goroesi o'r safleoedd pwysicaf a'r rhai sydd wedi'u diogelu orau. Cynhyrchwyd arolygon topograffig tro-cyntaf ar gyfer y ffwrnais a godwyd tua diwedd yr 16eg ganrif ym Mhonthenri a'r gefeiliau o'r 17eg a'r 18fed ganrif yn Llandyfân, y cyfan yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd yr arolygon hyn eu gwobrwyo gan y Gymdeithas Archaeoleg Ddiwydiannol am eu gwaith maes a'u gwaith cofnodi. Mae'r project wedi dangos mai adnodd bach a bregus yw olion ffisegol safleoedd y gweithfeydd haearn. Gan fod cyflwr presennol y safleoedd yn peri pryder mawr, go brin y goroesant yn y tymor hir os na fydd rhyw ffurf ar reoli gweithgar arnynt. Lluniwyd cyfres o argymhellion, felly, ar gyfer rhaglen tymor-byr o waith cywiro a rheolaeth tymor-hwy. Cyswllt prosiect : Ken Murphy - k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk
|
[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]