ASESIAD O FWYNGLODDIAU METEL ANFFERRUS, 2002

Mae'r project hwn, a ariannir gan Cadw, yn codi yn sgil cyhoeddi Strategaeth
ar gyfer Mwyngloddiau Metel Cymru gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn Ionawr
2002. Yn yr adroddiad hwnnw cafwyd "rhestr flaenoriaeth" o 50 o fwyngloddiau
metel anfferrus ledled Cymru y tybir eu bod yn cyfrannu at lygru'r amgylchedd
ac amharu ar ansawdd y dwr. Mae 42 o'r safleoedd hynny yn nhair sir de-orllewin
Cymru a 38 ohonynt yng Ngheredigion. Bwriadai'r Asiantaeth ymgynghori'n
eang cyn mynd ati i lunio cynlluniau cywiro ar gyfer y safleoedd hyn.
Mae'r project hefyd yn adeiladu ar arolwg helaethach Robert Protheroe-Jones
o Fwyngloddiau Metel Ceredigion ym 1993. Yn y project hwnnw cafwyd dadansoddiad
o'r wybodaeth a oedd ar gael am fwy na 200 o fwyngloddiau metel anfferrus
ym maes mwynau Ceredigion, ynghyd ag arolwg maes cyflym o safleoedd y
mwyngloddiau pwysicaf. Fe esgorodd hynny ar archif o nodiadau ar y safleoedd
ac ar fapiau AO 1:10560 annodedig, data hanesyddol cyffredinol am fwyngloddio
a llyfryddiaeth fanwl ynghylch mwyngloddio metelau yng Ngheredigion. Bu'n
fodd i gofnod - a oedd bron yn gyflawn - o safleoedd mwyngloddio Ceredigion
gael ei fwydo i gronfa ddata'r CHA. Er hynny, cadwyd manylion y project
fel cofnod ar bapur yn unig ac ni chafodd terfynau'r mwyngloddiau ond
eu cofnodi ar sylfaen fapiau cofnod papur yr CHA. Nid oedd mapio digidol
ar gael bryd hynny.
Amcan y project cyfredol oedd ehangu'n gwybodaeth am y mwyngloddiau
metel a ymddangosodd ar restr flaenoriaeth Asiantaeth yr Amgylchedd ar
gyfer gwaith cywiro, a chyflwyno argymhellion i Cadw ynghylch eu cofrestru.
O'r 42 safle yn ne-orllewin Cymru, nodwyd bod angen cloriannu 29 ohonynt
ymhellach ac fe ymwelwyd â hwy yn ystod 2002. Lluniwyd adroddiad interim
arnynt yn sgil yr ymweliadau hynny.
|