Asesiad Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol

Rhan o fenter ehangach ledled Cymru yw'r prosiect hwn i ymweld â phob
safle angladdol a defodol yn dyddio'n ôl i'r cyfnod cynhanes cynharach.
Gyda chymorth perchnogion tir a thenantiaid, y nod yw cymryd camau i sicrhau
eu bod yn parhau i gael eu diogelu. Mae'r prosiect yn gwneud asesiad cyflym
o ffurf a chyflwr er mwyn gwella'r Cofnod Henebion a Safleoedd Rhanbarthol
ac ar gyfer y rhaglen Rhestr Henebion. Yng ngorllewin Cymru, canolbwyntiodd
blwyddyn gyntaf y rhaglen ar ardal gorllewin sir Gaerfyrddin.
Ebrill 2000-Mawrth 2001 - Gorllewin Sir Gaerfyrddin
Yn ystod blwyddyn gyntaf
prosiect y Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol, gwnaeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed asesiad cyflym o ffurf a chyflwr yr holl safleoedd angladdol a
defodol hysbys o'r oesoedd Neolithig ac Efydd o ardal yng ngorllewin Sir
Gaerfyrddin fel y'u hechdynnwyd o'r Cofnod rhanbarthol o Safleoedd a Henebion.
Yn ystod y gwaith maes, nodwyd 23 o safleoedd newydd eraill ac fe'u hychwanegwyd
at yr CHA. Crugiau crwn oedd y mwyafrif llethol ohonynt. Yn ogystal, crëwyd
amryw o gofnodion hierarchaidd newydd, gan gynnwys 6 chymhlyg o henebion
cynhanesyddol, 10 o fynwentydd crugiau crwn a 13 grwp o fynwentydd (pâr)
crugiau crwn. Ar sail y gwaith maes, nodwyd y gallai'r dosbarth olaf hwn
fod yn ffurf bendant ar heneb, ac o bosibl yn ffenomen sy'n perthyn yn
arbennig i ranbarth Dyfed ond y tybir ei bod, efallai, i'w chael mewn
mannau eraill yng Nghymru.
Mae i Orllewin Sir Gaerfyrddin
dirwedd gyfoethog ac amrywiol sy'n cynnwys rhan o'r arfordir, aberoedd
afonydd Taf, Tywi a Gwendraeth yn ogystal ag uwchdiroedd mewndirol a nodweddir
gan fryniau tonnog ac amryw o gymoedd. Ynddi, ceir amryw o gymhlygau enwog
o henebion, gan gynnwys rhai Croes Glandy yn rhan orllewinol yr ardal
a astudir, a Mynydd Llangyndeyrn yn y de ddwyrain. Mae'r naill a'r llall
ohonynt yn cynnwys nifer fawr o fathau gwahanol o henebion angladdol a
defodol cynhanesyddol.
Gan fod yma dirwedd a
amaethir yn ddwys, nid yw'n syndod i'r canlyniadau ddangos bod cyflwr
amryw o'r safleoedd, yn enwedig y twmpathau pridd, wedi dirywio ers y
tro diwethaf yr ymwelwyd â hwy. Yr oedd hi'n bymtheg mlynedd, o leiaf,
ers i lawer safle gael ei asesu a'i gofnodi ddiwethaf. Yn ystod yr amser
hwnnw cawsai rhai eu dileu'n llwyr - oherwydd yr aredig cyson fel rheol.
Cawsai rhai meini hir a henebion eraill eu symud neu eu dinistrio o ganlyniad
i fesurau i wella'r tir, ac mae'n bosibl na fydd henebion eraill, sydd
eisoes wedi'u herydu'n ddifrifol, yn para am genhedlaeth arall o weithgarwch
ffermio. Er hynny, yr oedd cyfran dda o'r safleoedd yn aros yn ddigyfnewid
ac yn sefydlog eu cyflwr, a disgwylir iddynt aros felly am gryn amser
eto, diolch i gydymdeimlad perchnogion y tiroedd o'u cwmpas.
Dangosodd dosbarthiad
a safleoedd topograffig yr holl henebion yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin,
a chrugiau crwn a meini hir yn arbennig, fod lleoliadau'r henebion hynny
wedi'u dewis yn ofalus ac am amrywiaeth o resymau. Codwyd llawer o'r henebion
mewn safleoedd amlwg: nid yn unig yr oedd modd gweld ymhell dros weddill
y dirwedd, ond gellid hefyd weld y safleoedd (neu eu lleoliadau) o fannau
eraill yn y dirwedd. Cafwyd arwydd clir hefyd fod perthynas rhyngddynt
a lleoliad henebion eraill tebyg o'r Oes Neolithig a/neu'r Oes Efydd.
Ebrill 2001 - Mawrth 2002 - Asesiad Pen
Desg o Ddwyrain Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro
Yn ystod ail flwyddyn
y prosiect fe ganolbwyntiodd y gwaith ar ddwyrain Sir Gaerfyrddin. Bu
i'r chwiliad cychwynnol o'r CHA gynnwys yr holl safleoedd y nodwyd yn
bendant eu bod yn perthyn i ddosbarthiadau perthnasol o henebion (h.y.
beddrodau siambr, crugiau crwn, meini hir, etc.). Yr oedd hefyd yn cynnwys
amryw o safleoedd ansicr neu safleoedd ac iddynt wahanol ddehongliadau
posibl (e.e. carnedd garega/crug crwn). Cynhwyswyd hefyd safleoedd nad
ydynt yn hysbys ond o dystiolaeth enw lle, o ffynonellau dogfennol neu
ffynonellau eraill. Bu'r ymchwiliad cychwynnol hwnnw'n fodd i nodi 751
o safleoedd yn nwyrain y sir. Maent oll wedi'u hasesu ar sail y wybodaeth
a gedwir yn y gronfa ddata gyfrifiadurol ynghyd ag amrywiaeth o gofnodion
eraill a gedwir ar bapur yn yr CHA. Bwriedir ymweld â 536 o'r safleoedd
hynny. Nid yw'r ffigur hwnnw'n cynnwys safleoedd a ddynodir gan enwau
lleoedd, safleoedd a ddinistriwyd, mannau darganfod na safleoedd nad ydynt
ond yn hysbys o ffynonellau dogfennol.
Mae angen rhagor o werthuso
yn y maes ar ddau grwp o fathau o safleoedd sydd, gyda'i gilydd, yn rhan
fawr o'r gronfa ddata, sef y safleoedd a restrir yn yr CHA o dan 'carnedd'
(73 safle) a 'bedd crafbant' (70 safle). Prin iawn yw'r wybodaeth am gymeriad
y safleoedd hyn. O fewn y cofnod, bydd y term 'carnedd' yn methu'n fynych
â gwahaniaethu rhwng safleoedd beddrodol a rhai amaethyddol, ac yn aml
nid oes disgrifiad i gyd-fynd â hwy yng nghronfa ddata'r CHA. Adnabuwyd
llawer o safleoedd y 'carneddau' hyn yn ystod prosiectau a wnaed ar ddarn
o dir - a ddiffiniwyd yn fanwl - ar y Mynydd Du. Ceir rhagor o wybodaeth
yn yr CHA am y 'beddau crafbant' gan fod ynddo ddisgrifiad byr o bob un
ohonynt. Er hynny, nid yw union natur y nodweddion hynny wedi'i phrofi.
Unwaith eto, mae i'r grwp hwn leoliad daearyddol penodol (Mynydd Malláen)
ac fe'u nodwyd o ganlyniad i arolwg o'r ardal ym 1995. Y gobaith yw mai
canlyniad asesiad cyflym o'r 'carneddau' a'r 'beddau crafbant' fydd dileu
nifer fawr ohonynt o'r cofnod, neu y bydd eu crynodiad daearyddol o leiaf
yn fodd i ymweld â hwy'n rhesymol o gyflym.
Oherwydd argyfwng clwy'r traed a'r genau fe ohiriwyd dechrau ar
y gwaith maes yn nwyrain Sir Gaerfyrddin. O ganlyniad, a chyda chytundeb
Cadw, mae'r gwaith wedi dechrau ar waith pen-desg ar gyfer Sir Benfro.
Tynnodd yr ymchwiliad cychwynnol i'r CHA sylw ar gyfanswm o 1210 o safleoedd
posibl, ond yr oedd hynny'n cynnwys 342 o fannau darganfod. I gychwyn,
cynhwyswyd 'darganfyddiadau' i roi rhyw syniad o'r mathau o arteffactau
y cafwyd hyd iddynt yn yr ardal ac iddynt fod yn fodd i gymharu dosbarthiad
deunydd materol a henebion angladdol a defodol o'r Oesoedd Neolithig ac
Efydd. Nid ymwelir â'r mannau darganfod hynny oni thybir y gallent gynnwys
olion heneb bosibl. Cofnodwyd 215 o safleoedd eraill ar sail tystiolaeth
o enwau lleoedd yn unig, a 65 o ffynonellau dogfennol yn unig. Cofnodwyd
bod 4 safle'n nodweddion claddedig a 3 safle'n dirffurfiau, ac mae'n hysbys
bod 67 safle wedi'u dinistrio. Mae hynny'n gadael cyfanswm o 514 o safleoedd
i ymweld â hwy yn ystod cyfnod gwaith-maes y prosiect.
Ebrill 2002 – Mawrth 2003 – Dwyrain Sir Gaerfyrddin
a de Sir Benfro
Dwyrain Sir Gaerfyrddin
Mae ardal ddwyreiniol Sir Gaerfyrddin yn cael ei dominyddu gan ddau floc
mynyddig enfawr, ymyl deheuol Mynyddoedd y Cambria (gan gynnwys Mynydd
Mallaen) ac ochr orllewinol Bannau Brycheiniog (gan gynnwys Mynydd Betws
a’r Mynydd Du). Lleolir y rhan fwyaf o’r henebion yr ydym
yn gwybod amdanynt ar y llwyfandir tonnog.
Cyn yr Arolwg, roedd cyfanswm o 751 o gofnodion safleoedd wedi’u
hasesu. Penderfynwyd i beidio â gwneud ymweliadau arferol â
safleoedd sydd ond yn hysbys i ni drwy dystiolaeth dogfennol, fel enwau
llefydd, fel mannau darganfod nac ychwaith â safleoedd a gofnodir
fel carneddau clirio neu feysydd carnedd. Felly hefyd, nid yw safleoedd
a ddisgrifir fel ‘beddau sgwp’ yn cael ymweliad yn arferol
oherwydd yr ansicrwydd sy’n bodoli ynghylch eu nodweddion. Yn ystod
cyfnod yr arolwg, dynodwyd nifer o safleoedd newydd. Roedd nifer o’r
safleoedd a gafodd eu targedu ar gyfer ymweliad wedi’u hailddosbarthu
fel henebion sydd ddim yn rhai cyn-hanesyddol. Mae’r ffigyrau newydd
ar gyfer dwyrain Sir Gaerfyrddin bellach yn cynnwys cyfanswm o 235 safle
unigol pendant a 175 safle unigol posibl. Ar hyn o bryd mae 64 o’r
safleoedd hyn wedi’u rhestru. Mae llawer o’r safleoedd hyn
hefyd yn ffurfio rhan o grwpiau o henebion megis mynwentydd carneddau.
Dynodwyd cyfanswm o 39 grwp o henebion pendant a 9 posibl. Y grwp mwyaf
niferus o safleoedd unigol oedd y ‘Carneddau Crwn’ gyda 292
o safleoedd pendant neu bosibl. Yn ail iddynt, mae 74 o safleoedd o Feini
Hirion pendant neu bosibl.

Tair Cairn Uchaf, dwyrain Sir Gaerfyrddin
Gwnaed asesiad o gyflwr yr holl safleoedd a ymwelwyd â hwy yn ogystal
â’u lleoliad topograffig. Mae dosbarthiad y safleoedd yn dangos
tuedd amlwg iddynt gael eu darganfod yn yr ardaloedd mynyddig er bod hyn
yn llai amlwg o ran rhai mathau o henebion (e.e. Meini Hirion) na rhai
eraill (e.e. Carneddau Crwn). Sylwyd hefyd ar rywfaint o amrywiaeth yn
lleoliad topograffig gwahanol fathau o gofebau (e.e. rhwng copaon a llethrau
bryniau). Mae’n ymddangos bod y gallu i weld o ac i’r safleoedd
yn ffactor allweddol wrth benderfynu ar leoliad safle. O rai safleoedd,
yn arbennig y rheini oedd wedi’u lleoli ar fryniau, roedd yn bosib
yn aml iawn i weld llawer o henebion eraill a hefyd i gael golygfeydd
helaeth ar draws y dirwedd.
Ochr yn ochr â hyn, ymgymerwyd ag astudiaeth o leoliad topograffig
safleoedd o fewn Dyffryn Tywi uchaf gan fyfyriwr ymchwil o Brifysgol Birmingham.
Wnaeth yr ymchwil hefyd archwilio agweddau eraill yn ymwneud â lleoliad
safleoedd trwy ddadansoddiadau cyfrifiadurol trwy ddefnyddio GIS. Mae
canlyniadau’r astudiaeth hon yn dangos y budd posib o ran ychwanegu
gwerth y gallai dadansoddiad yn seiliedig ar GIS rhoi i’r Prosiect
Angladdol a Defodol Cynhanesyddol.
De Sir Benfro
Yn sgil cwblhau adroddiad y prosiect ar gyfer dwyrain Sir Gaerfyrddin
dechreuwyd ar yr arolwg maes o Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol
yn Sir Benfro. Ymwelwyd â mwy na 100 o safleoedd yn ne’r sir
yn ystod rhan olaf y flwyddyn ariannol. Bydd canlyniadau’r arolwg
hwn yn cael ei hintegreiddio gyda’r gwaith sydd i’w wneud
yn ystod 2003/2004 yng ngogledd ardal Sir Benfro/Preseli.
Cook N, Hughes G, Page N and Ramsey R 2002 Prehistoric Funerary and Ritual
Sites Project: East Carmarthenshire 2002-2003 Adroddiad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Rhif 2002/94
Ebrill 2003 - Mawrth 2004 - Sir Benfro
Yn ystod cyfnod y prosiect pan ganolbwyntiwyd ar Sir Benfro, cafodd 941
o gofnodion ar y Cofnod Rhanbarthol o Safleoedd a Henebion (CHA) eu harchwilio.
Roedd 178 o'r rhain yn Henebion Cofrestredig. Roeddent hefyd yn cynnwys
safleoedd nad ydynt ond yn hysbys o dystiolaeth enw lle a ffynonellau
dogfennol. Fodd bynnag, nid oeddent yn cynnwys lleoliadau darganfyddiadau
cynhanesyddol. Nid ymwelwyd â'r safleoedd nad ydynt ond yn hysbys o dystiolaeth
am enw lle a ffynonellau dogfennol (259) ac ni chafodd safleoedd eu cofnodi
fel rhai a oedd wedi'u dinistrio neu'u gwaredu. Nid oedd yn bosibl ymweld
â nifer o safleoedd eraill yn ystod yr arolwg maes. Ymwelwyd â chyfanswm
o 596 o safleoedd wrth ymgymryd â gwaith maes y prosiect a gwnaed cofnod
o bob un ohonynt. Bernid bod 538 ohonynt yn safleoedd angladdol a defodol
canoloesol gan gynnwys 500 o safleoedd unigol a 38 heneb grwp.
Mae'r difrod a welwyd i Henebion Cofrestredig presennol, yn arbennig
yn sgîl gwaith coedwigaeth a thraul gan ymwelwyr, yn peri cryn bryder.
Yn y cyfamser, mae safleoedd nad oes iddynt statws Heneb Cofrestredig
yn erydu neu'n cael eu dinistrio'n raddol yn sgîl dulliau ffermio modern.
Mae'r un patrymau a nodwyd yn ystod blynyddoedd diweddar y prosiect i'w
gweld yn Sir Benfro yn ogystal i raddau helaeth (e.e. o ran cadwraeth,
lleoliad, cymdeithas, ac ati). Fodd bynnag, ceir nifer sylweddol uwch
o feddrodau siambr yn Sir Benfro nag a geir yn Sir Gaerfyrddin, yn ogystal
â mwy o glystyru o ran safleoedd i ffurfio grwpiau claddu neu fynwentydd.
Beddrod siambr carreg grog, G Penfro (PRN 3205)
Ebrill 2004 – Mawrth 2005 – De Ceredigion
Dechreuodd y prosiect yng Ngheredigion yn hanner deheuol
y sir. Ymwelwyd â chyfanswm o 305 o gofebion angladdol a defodol
cynhanesyddol gan gynnwys 8 o safleoedd sydd newydd eu darganfod.
Mae’r tueddiadau ar gyfer de Ceredigion yn debyg
iawn i’r rheini a welir yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Fel arfer
fe welir crugiau crwn, cymhlygion o gofebion cynhanesyddol a chrug fynwentydd
crwn ar leoliadau ar dir sy’n 250m neu uwch. Serch hynny, mae’r
nifer o feddrodau siambr a meini hirion sydd yng Ngheredigion yn sylweddol
o gymharu â Sir Benfro.

Dol y Gamfa
Ebrill 2005-Mawrth 2007 Ceredigion
O fis Mai 2004 i Ragfyr 2005 aed ar ymweliadau maes i’r
holl fannau claddu a chofadeiliau defodol cyn hanesyddol perthnasol yng
Ngheredigion, a chyflwynwyd adroddiad llawn ar gyfer y sir gyfan ym mis
Ebrill 2006. O’r 862 safle gwreiddiol a dynnwyd o’r HER, targedwyd
425 safle i ddechrau fel rhai lle’r oedd angen gwneud ymweliad safle,
er fe ymwelwyd â chyfanswm o 495 safle yn ystod y cyfnod lle gwnaed
y gwaith maes fel rhan o’r prosiect. Crëwyd 67 cofnod newydd,
ac roedd 36 ohonynt yn grwpiau PRN (e.e. casgliadau o gofadeiliau cynhanesyddol,
parau o grugiau crwn ac ati) ac roedd 31 ohonynt yn safleoedd unigol oedd
newydd eu darganfod. Cyflwynwyd cyfanswm o 105 o argymhellion i Cadw mewn
adroddiad ar wahân.

Cylch Carnedd Dol y Gamfa, Ceredigion: safle Oes Efydd oedd heb ei
gofrestru
Un o’r patrymau mwyaf nodedig i ymddangos o’r gwaith maes
oedd y difrod sylweddol gan ymwelwyr a achoswyd i nifer o’r crug
garneddau crwn mewn rhai o’r lleoliadau uchel mwyaf anghysbell o
amgylch Pumlumon, a’r copaon amgylchynol. Mae’r rhain yn boblogaidd
iawn gydag ymwelwyr ac fe’u lleolir yn aml iawn ger llwybrau troed,
gan gynnig eu hunain fel tirnodau ar siwrneiau ar draws y tir uchel. Cafodd
trafodaeth lawn ar y mater hwn ei gynnwys yn yr adroddiad terfynol ar
Geredigion a gyflwynwyd i Cadw.

Dosbarthiad y safleoedd PFRS y gwyddir amdanynt yng Ngheredigion
Prosiectau dilynol
Mae Cynllun Gweithredu yn crynhoi canlyniadau’r
gwaith a ymgymerwyd yn ystod y prosiect PFRS dros y 6 blynedd diwethaf
wedi’i gwblhau. Mae hwn yn rhestru safleoedd a thirweddau allweddol
o fewn ardal de orllewin Cymru, gan ddynodi cofadeiliau arbennig y credir
eu bod mewn perygl, gan eu cynnig fel Mentrau ar gyfer y prosiect PFRS
yn y dyfodol. Wnaeth yr Ymddiriedolaeth ymweld â mwy na 1850 o safleoedd
yn ne orllewin Cymru yn dilyn asesiad o fwy na 3500 o gofnodion unigol.
Mae tua 300 o gofnodion newydd wedi’u hychwanegu i’r HER,
ac mae mwy na 260 o argymhellion cofrestru wedi’u gwneud o ganlyniad
i’r arolwg.
Yn ystod 2006-07, archifwyd y data a gasglwyd yn ystod
gwaith maes a’i roi i'r Cofnod Henebion Cenedlaethol. Lluniwyd adroddiad
am ganlyniadau arolwg Ceredigion; caiff hwn ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn
Ceredigion yn y dyfodol agos, a lluniwyd testun y llyfryn teithiau cerdded
i safleoedd ar Gomin Carningli, Sir Benfro. Caiff y canllaw hwn ei argraffu
yn y dyfodol agos.
Yn ystod 2007-08, cynhaliwyd arolwg topograffig o heneb
gymhlyg Cefn Gwernffrwd, Rhandirmwyn, Sir Gaerfyrddin. Mae’r arolwg
hwn yn ategu arolwg a gynhaliwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru
ym 1975 ac mae’n gosod yr henebion yng nghyswllt y tirwedd. Mae
hefyd wedi galluogi gwerthusiad manwl gywir o’r newid yng nghyflwr
yr heneb dros 32 mlynedd. Nid oedd rhai elfennau o’r cymhlyg a nodwyd
ym 1975 yn weladwy yn 2007, gan gynnwys yn fwyaf nodedig rhes o feini.
Ond ar y cyfan, serch hynny, bach iawn o newid a fu yn y cymhlyg rhwng
y ddau arolwg.
Is-lwythwch yr
arolwg Cefn Garnffrwd mewn ffurf PDF - 1.4Mb (yn agored mewn ffenestr
newydd).

Arolwg Cefn Gwernffrwd
Cynhyrchwyd dau arweinlyfryn ar gyfer cerddwyr yn Sir
Benfro, un am Fynydd Carningli/Mynydd Melyn a’r llall am y Preseli.
Gellir lawrlwytho’r rhain mewn ffurf pdf.
Yn ystod 2008-09, bydd yr Ymddiriedolaeth yn arolygu dau safle angladdol
a defodol cynhanesyddol.
Project Contact: Ken
Murphy
Cook N 2003 ‘Prehistoric funerary and ritual sites
in Carmarthenshire’, Carmarthenshire Antiquary 39, 5-21.
|