Mynwentydd o’r Oesoedd Canol Cynnar ym Mae Gorllwein Eingl 2005-2010 
Daeth y prosiect hwn i’r amlwg o ganlyniad i’r
asesiad o Safleoedd Eglwysig o’r Oesoedd Canol Cynnar, lle dynodwyd
nifer o safleoedd o fynwentydd arfordirol oedd ‘mewn perygl’.
Wnaethant gynnwys mynwentydd cist oedd yn gysylltiedig â Chapel
‘St Anthony’, Bae Gorllewin Eingl (PRN 35095), a Sain Ffred
(PRN 7606; SM80211094) y ddau ohonynt yn safleoedd sy’n sefyll ar
ben clogwyni ar yn dioddef oherwydd erydiad y môr. Mae’r ddau
safle yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (PCAP) ac mae’r
bygythiad i’r safleoedd hyn wedi’i gydnabod gan Awdurdod y
Parc. Prif amcan y prosiect oedd i gynorthwyo Parc Arfordir Penfro i lunio
strategaethau rheoli ar gyfer cadw’r safleoedd hyn i’r dyfodol
ac i godi ymwybyddiaeth o’u pwysigrwydd a hefyd pa mor fregus ydynt.
Ariannwyd y prosiect ar y cyd gan Cadw, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
a Phrifysgol Caerdydd.
Ymgymerwyd â gwaith gwerthuso ffosydd yn Mae Gorllewin
Eingl ym mis Gorffennaf 2005 gan staff yr Ymddiriedolaeth a Staff (PCAP),
gyda chymorth myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd. Roedd o leiaf tri grw^p o
gladdedigaethau cist yno. Mae’r grw^p cyntaf wedi bod yn cael ei
erydu oddi ar wyneb y glogwyn (yn SM85140308) er 1997 o leiaf. Dynodwyd
ail grw^p (yn SM85020311) yn ystod yr asesiad, ac roeddynt hwythau hefyd
yn cael eu herydu oddi ar y glogwyn. Roedd y trydydd, a ddatgelwyd yn
ystod y gwerthuso, ymhellach i mewn i’r tir o’r grwpiau hyn
(yn SM85150305) lle ceir amgaead siâp hirgrwn sy’n cynrychioli’r
fynwent o amgylch o amgylch cyn Gapel ‘St Anthony’. Roedd
y capel hwn mewn bodolaeth tua diwedd yr oesoedd canol ac mae’r
safle wedi’i nodi fel ‘Old Church’ ar fap y degwm yn
1844. Mae adeilad y capel wedi mynd ond mae’r amgaead – sydd
wedi’i nodi â llinell doredig a’i labeli ‘Burial
Ground (Site of)’ ar fapiau AO (OS) Argraffiadau 1af ac 2il –
a gellir ei weld o hyd fel gwrthglawdd hirgrwn, isel, sy’n mesur
tua 20m mewn diamedr.
Cloddiwyd ffos oedd yn mesur 8m x 5m yn y lleoliad hwn.
Datgelwyd chwe o gladdedigaeth cist pendant, a thri o rai posib, sydd
o fewn man wedi’i amgylchynu â chlawdd caregog sylweddol,
a gynrychiolir gan wrthglawdd hirgrwn. Mae’n ymddangos eu bod yn
perthyn i gam hwyrach yn safle’r fynwent. Mae’r clawdd yn
gynharach na’r claddedigaethau agored ond yn fwy na thebyg fe’i
adeiladwyd dros fynwent gynharach, awgrymir hyn oherwydd yr esgyrn dynol
o fewn y clawdd.
Wnaeth cloddiad dyfnach trwy’r clawdd hefyd ddatgelu
nodwedd gynharach, ffos ffiniol o bosib, sy’n dilyn llinell debyg.
Cloddiwyd nifer o ffosydd rhwng amgaead y fynwent a wyneb y glogwyn, ond
ni ddaethpwyd ar draws rhagor o gladdedigaethau, gan awgrymu mai nifer
gyfyngedig o’r claddedigaethau agored sydd ar ôl. Cymerwyd
nifer o samplau ar gyfer dyddio C14, dadansoddiad ffosffad, ac o bosib
dadansoddiad palaeoamgylcheddol.

Cloddio bedd gist o fewn amgaead mynwent ym Mae Gorllewin
Eingl
Sut yn union y mae’r claddedigaethau o fewn yr
amgaead yn perthyn, o ran dyddiad, i’r claddedigaethau yn wyneb
y glogwyn, hyd hes y cawn y dystiolaeth o ran dyddio, efallai’r
dilyniant yw –
Cam 1 – claddedigaethau heb eu hamgáu mewn cae agored (gan
gynnwys y claddedigaethau yn wyneb y glogwyn?)
Cam 2 – sefydlu plot claddu ffurfiol, wedi’i amgáu
gan ffos?
Cam 3 – adeiladu clawdd ffiniol, ailddiffinio safle’r fynwent
gan amharu ar gladdedigaethau cynharach
O bosib mae yna bedwaredd cam a gynrychiolir gan Gapel
‘St Anthony’. Serch hynny, o bosib fod hwn yn gorwedd o fewn
i’r amgaead sydd i’r gogledd o’r ffos sy’n cael
ei gwerthuso.
Yn ychwanegol i’r gwaith yng Ngorllewin Eingl,
cofnodwyd y claddedigaethau agored yn Sain Ffred, a gwnaed arolwg o wyneb
y glogwyn bresennol. Mae o leiaf pump o gladdedigaethau eraill wedi’u
datgelu ers ymweld â’r safle yn 2002.
Dyddiadur Cloddio Gorllewin
Eingl 2005
Cloddio Bae Gorllewin Eingl – Gorffennaf 2006
Am bythefnos ym mis Gorffennaf dechreuwyd ar ail dymor
o gloddio Bae Gorllewin Eingl, Sir Benfro, gan staff yr Ymddiriedolaeth,
PCAP, gyda myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd a gwirfoddolwyr lleol. Yn ogystal
â chymorth grant gan Cadw, cefnogwyd y prosiect gan PCAP (a dalodd
am gost yr arolwg geoffisegol) a PLANED (a dalodd am swydd allanol).

Cloddiwyd chwe ffos er mwyn mynd i’r afael â
chwestiynau penodol a godwyd gan yr arolwg geoffisegol (ymgymerwyd hyn
gan Stratascan) a chloddiad y flwyddyn flaenorol. Cloddiwyd ffos drawiadol
(nid oes dyddiad wedi’i roi iddi eto, ond mae’n bosib ei bod
yn cynhanesyddol) ac o bosib llwybr â ffos.
Ailagorwyd ffos o’r tymor cynt er mwyn egluro cymeriad
a dyddodiad dilynol mur is-gylchog amgaead y fynwent ganoloesol gynnar,
clawdd a ffos gynharach sydd o ddyddiad cynhanesyddol posib sydd mae’n
ymddangos ar yr un amlinelliad. Cloddiwyd sawl bedd, yn cynnwys bedd gist
a sawl baban a gladdwyd.
Mae’r safle wedi’i leoli wrth ymyl traeth
sy’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Oherwydd hynny, mae nifer fawr
o ymwelwyr wedi bod yma. Oherwydd y prosiect mae llawer o wirfoddolwyr
a myfyrwyr wedi cael profiad o gloddio.


Yr arolwg geoffisegol ym Mae Gorllewin Eingl, gydag amgaead is-gylchog
y fynwent wedi’i leoli o fewn amgaead hirsgwâr mwy o faint
ym mhen uchaf dde’r ddelwedd
Dyddiadur
Cloddio Gorllewin Eingl 2006
Lluniwyd adroddiad ar gloddiadau a wnaed yn 2005 a 2006, gan gynnwys
adroddiadau gan arbenigwyr. Bwriedir cyhoeddi adroddiad ar y cloddiadau
gyda chanlyniadau cloddiad mynwent o’r canoloesoedd cynnar yng Nghrug
Brownslade. Yn ystod 2007-08 estynnwyd yr arolwg geoffisegol i gynnwys
caeau cyfagos.
Adroddiad Gorllewin Eingl 10.6Mb (mewn ffurf PDF - yn agored mewn ffenestr newydd)
Adroddiad Cloddiad Arfordir Bae Gorlleiwn Eingl 2010 (mewn ffurf
PDF - yn agored mewn ffenestr newydd)
Cyswllt y prosiect: Duncan Schlee |