Beddrod Crwn Fan Talsarn 2009-11 
Cafodd y beddrod crwn hwn ei wastatau yn y 1990au. Fodd bynnag, dangosodd arolwg geoffisegol yn 2009
fod gweddillion yn debygol o oroesi o dan y tir. Canfuwyd cwpan pigmi a gwaywffon efydd yn y beddrod yn y bedwaredd
ganrif ar bymtheg.
Cloddiad mis Hydref 2010. Ni wnaeth dim o’r twmpath beddrod crwn oroesi. Fodd bynnag, darganfuwyd
dau fedd bach iawn a bas iawn. Roedd un o’r rhain wedi’i leinio â cherrig ac yn cynnwys asgwrn wedi’i
amlosgi a Chwpan Pigmi. Roedd globylau o efydd wedi cymysgu â’r asgwrn sy’n arwydd bod blaen gwaywffon
neu glefydd wedi cael ei osod yn y crochan angladdol gyda’r corff. Roedd wrn mawr a oedd yn cynnwys esgyrn wedi’u
hamlosgi yn yr ail fedd wrth ochr Cwpan Pigmi. Symudwyd yr wrn yn gyfan fel y gellir tynnu ei gynnwys yn ofalus yn
y labordy ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae canlyniadau cychwynol yn dangos bod Cwpan Pigmi arall yn yr wrn mawr gyda’r
esgyrn wedi’u hamlosgi. Oherwydd pwysigrwydd y safle a’r arteffactau sydd wedi cadw’n dda yn rhyfeddol,
gobeithir y gellir cloddio mwy yn ystod 2011.
Yn 2011, cynhaliwyd cloddiad dros dair wythnos i ymchwilio ymhellach i weddillion y domen gladdu,
yn benodol i ddisgrifio’r nodweddion a nodir yn yr arolwg geoffisegol ac i adennill unrhyw arteffactau pellach
sydd wedi’u cynnwys mewn beddau corfflosgiadau ychwanegol tybiedig. Cafwyd dealltwriaeth well o gymeriad y safle,
a bu’r cloddio’n ddigonol i gyfiawnhau dadgofrestru’r gofeb flaenorol. Ynghyd ag amrywiaeth o nodweddion
toredig, adferwyd nifer o botiau cyfan o dri bedd. Codwyd y llestri’n gyfan ar gyfer gwaith cloddio a chadwraeth
mewn labordy. Caiff dadansoddiad o’r holl ddeunydd a adferwyd ei gynnal yn 2012.
Hoffem ddiolch i Mr a Mrs Wright am ganiatau i ni gloddio ar eu tir. Rhoddwyd grant gan Cadw i’r
cloddiad yma.

Un o’r claddedigaethau a gloddiwyd yn 2011, yn dangos esgyrn a amlosgwyd ac wrn wedi torri

Arolwg geoffisegol o’r beddrod crwn

Un o Gwpanau Pigmi yr Oes Efydd o'r safle cloddio

Cwpanau Pigmi y Fan ar ol cael eu glanhau yn y labordy
Llun: Phil Parkes, Prifysgol Caerdydd
Adroddiad Arolwg Terfynnol Geoffisegol
Fan (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)
Adroddaid dros-dro cloddiad asesu Fan 2010 (mewn
ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd)
Adroddiad dros-dro Beddrod Crwn Fan 2011 (mewn ffurf PDF,
yn agored mewn ffenestr newydd)
Dyddiadur Cloddio Beddrod Crwn Fan 2010
Dyddiadur Cloddio Beddrod Crwn Fan 2011
Cyswllt y Prosiect: Phil
Poucher
|