Ffordd Hendre, Pencoed, Pen-y-bont 2003Yn 2002, gwnaeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gloddiad achub ar safle ffermdy canoloesol
ac ôl-ganoloesol, Cae’r-llysi, yn ystod gwaith datblygu tai
gan Redrow Homes (SW) Cyf. ar dir yn Ffordd Hendre, Pencoed, Morgannwg
(SS948817). Gwnaeth asesiad blaenorol ddynodi bod y safle wedi’i
anheddu o’r cyfnod canoloesol tan iddo gael ei adael yn anghyfannedd
yng nghanol y 19eg ganrif. Roedd difrod o ganlyniad i’r gwaith datblygu
wedi dinistrio’r rhan fwyaf o’r safle, ond roedd digon o dystiolaeth
ar ôl, yn cynnwys rhannau o ddwy ffos ganoloesol i gadarnhau fod
Cae’r-llysi wedi’i anheddu am gyfnod hir. Hefyd cofnodwyd
olion o adeilad o’r 17eg a 18fed ganrif, ynghyd â nodweddion
yn ymwneud â’r datblygiad a defnydd o’r safle fel fferm
laeth fechan. Cyswllt prosiect: Nigel Page
|