Arolwg Ymylon Gwlyptir 2008-10 
Cyddnabyddir bod gwlyptir Ceredigion yn safleoedd daearegol,
ecolegol a phaleoamgylcheddol pwysig. Mae archwiliadau archaeolegol diweddar
o lwybr pren a mwyndoddi metel yn Llangynfelyn wedi pwysleisio pwysigrwydd
archaeolegol yr amgylcheddau hyn. Mae cynnydd yn lefel y môr, erydu
parhaus ar yr arfordir a draenio’n golygu difrod parhaus i fawnog
Cors Fochno, Llangynfelyn, yng ngogledd Ceredigion. Bydd y prosiect hwn,
ar y cyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (sy’n rheoli llawer o
Gors Fochno), perchnogion tir, ac aelodau’r gymuned leol, yn cynyddu’n
gwybodaeth am archaeoleg Cors Fochno, yn asesu’r pwysau sydd arni,
ac argymell camau a fydd yn helpu i’w diogelu yn y tymor hir.
Yn dilyn arolwg Cors Fochno yn 2008-09, archwiliwyd ffiniau
tir gwlyb Cors Caron (Cors Tregaron) yn 2009-10 mewn partneriaeth â
Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Yn ogystal â ffurfio mesurau
i ddiogelu ymylon y gors yn yr hirdymor, archwiliwyd nifer o safleoedd
yn fanwl, gan gynnwys arolwg geoffisegol o gastell canoloesol posibl yn
Llwyngwinau ac arolwg geoffisegol, arolwg topograffeg a chloddio ar raddfa
fach o ran maenor ganoloesol bosibl a phlasty/gerddi diweddarach.
Adroddiad Arolygiad Cors
Fochno mewn ffurf PDF (yn agored mewn ffenestr newydd, maint y ffeil
13.5Mb - cymerir tipyn o amser i is-lwytho)
Adroddiad Arolygiad Ymtlon Gwlypdir Cors
Caron (mewn ffurf PDF, yn agored mewn ffenestr newydd, maint y ffeil
11.2Mb - cymerir tipyn o amser i is-lwytho).

Edrych dros Gors Caron o’r bryniau sydd wrth ymyl ei ochr ddwyreiniol

Arolwg geoffisegol o’r castell cloddwaith posibl yn Llwyngwinau

Cyflawni’r arolwg geoffisegol yn Llwyngwinau gyda Chors Caron yn
y cefndir

Gwlyptiroedd, Arolwg Ordnans, 1922: Detholiad o fap Arolwg Ordnans
o 1922 yn dangos ehangder Cors Fochno

Gwirfoddolwyr yn cloddio y llwybr pren yn Tan yr Allt, Cors Fochno
Cyswllt: Phil Poucher
|