Asesiad o Anheddiad Cynhanesyddol di-Amddiffynnol 
Mawrth 2003 - Ebrill 2004
Diben gwreiddiol y prosiect lithig oedd pennu aneddiadau anamddiffynnol
cynhanesyddol posibl o’r cofnodion presennol o ganfyddiadau lithig.
Byddai hyn yn cael ei wneud drwy archwilio’r cofnodion a gedwir
yn y CHA, amgueddfeydd lleol a chenedlaethol a chasgliadau preifat. Fodd
bynnag, golygai cyfanswm y cofnodion a gedwir yn y CHA a natur annhrefnus
cynifer ohonynt y canolbwyntiodd y prosiect ar geisio rhoi trefn ar gofnodion
y CHA gan anelu at wneud gwaith chwilio yn y dyfodol yn haws ac yn fwy
buddiol. Mae’r gwaith hwn wedi gwella’r CHA yn sylweddol ac
mae gan 725 o gofnodion bellach ddisgrifiad yn amlinellu, lle gwyddys,
natur ac amgylchiadau pob deunydd lithig a ddarganfuwyd.
Mae’r gwaith asesu wedi dangos bod y cofnod o ganfyddiadau lithig
yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth, er gwaethaf rhai pryderon sy’n
parhau, hyd yn oed os nad yw’n bosibl pennu aneddiadau unigol drwy
ddeunyddiau lithig yn unig. Fodd bynnag, efallai mai natur De Orllewin
Cymru yn y cyfnod cynhanesyddol sy’n gyfrifol am hyn yn hytrach
na’r cofnod. O ganlyniad, canolbwyntiodd y prosiect ar feithrin
gwell dealltwriaeth o’r adnodd a’i ddosbarthiad cyffredinol
yn hytrach nag ar chwilio am aneddiadau.
Pennwyd 32 o safleoedd y bernid y dylid ymchwilio iddynt ymhellach. Mae’r
safleoedd yn enghreifftiau rhesymol o wahanol safleoedd a chyfnodau, ac
maent yn cynrychioli’r gwahanol ddulliau casglu ynghyd â chyflwr
amrywiol y safleoedd sydd wedi goroesi. Maent yn gynrychiolaeth gymharol
gywir o safleoedd lithig De Orllewin Cymru, ac eithrio canfyddiadau unigol
yr ymdrinir â hwy ar wahân. Dylai ymchwilio iddynt ymhellach
arwain at well deallwriaeth o natur yr adnodd.
Golygai’r pwyslais bwriadol ar asesu safleoedd a oedd yn cynnwys
yr amrywiaeth fwyaf na fyddai canfyddiadau unigol yn cael eu cynnwys yn
y rhestr derfynol o safleoedd i ymchwilio iddynt ymhellach. Er bod hyn
yn anochel, nid yw’n ganlyniad arbennig o gadarnhaol, gan ei bod
yn angenrheidiol deall gymaint â phosibl o’i wahanol rannau
er mwyn gallu gwerthfawrogi’r adnodd yn llawn. Yn ddiamau canfyddiadau
unigol yw’r math mwyaf cyffredin o safle. O ganlyniad, argymhellodd
yr adroddiad yn ogystal y dylid ymchwilio i lefydd lle darganfuwyd bwyeill
o ddwy ardal gyffredin o dirwedd, ardaloedd uchel Dyffryn Tywi a Dyffryn
Teifi, er mwyn ceisio sylwi ar unrhyw batrymau a allai fod yn bresennol.
Trwy ystyried y deunydd lithig fel adnodd unigol mae’r prosiect
wedi tynnu sylw at ei bosibiliadau a’i gyfyngiadau o ran darparu’r
math o wybodaeth a allai fod yn ofynnol ohono. Ar hyn o bryd mae sawl
ffactor yn cyfyngu ar ei bosibiliadau. Nid y deunyddiau eu hunain sy’n
gyfrifol am hyn o anghenraid, eithr yn hytrach y ffordd y cafodd y wybodaeth
ei chasglu a’i chofnodi a sut y cedwir y cofnodion. Ffactor arall
sy’n cyfyngu ar ei bosibiliadau yw’r mathau o gwestiynau a
ofynnir mewn perthynas â’r deunyddiau. Efallai ei bod yn hen
bryd gwaredu’r dull traddodiadol o astudio er mwyn edrych ar y tirwedd
cynhanesyddol mewn ffordd fwy holistaidd, tiwedd lle sicrhawyd trefn drwy
symudiadau a thasgau yn hytrach na thrwy safleoedd ag aneddiadau a safleoedd
heb aneddiadau (h.y. domestig ac annomestig). Mewn dull o’r fath,
mae gwerth i bob deunydd lithig, o grwpiau mawr i ganfyddiadau unigol
ac achlysurol, ynghyd â phwysigrwydd y mae angen ei ystyried.
Cyswllt i’r prosiect: Ken Murphy - k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk
|