Caerau Pentir Arfordirol – Synhwyro o Bell 
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth
â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd
yn darparu data Synhwyro ac Archwilio Golau.
Mae caerau pentir arfordirol yn henebion gweladwy dros
ben sy’n dioddef erydu cyson gan y môr. Disgwylir i’r
erydu hwn waethygu’n sylweddol gyda’r newid yn yr hinsawdd.
Hefyd mae’r rhan fwyaf o’r caerau’n gorwedd ar neu ger
Llwybr Arfordir Sir Benfro ac o ganlyniad maent yn dioddef lefel isel
o erydu gan ymwelwyr. Er hynny, ni fu’n bosibl mesur lleoliadau
na chyflymder yr erydu oherwydd diffyg cynlluniau safle modern a disgrifiadau
o safleoedd. Mae’r prosiect hwn yn anelu at gywiro hyn trwy sefydlu
data gwaelodlin ar gyfer nifer o gaerau yn Sir Benfro trwy ddefnyddio
synhwyro o bell wedi’i gefnogi gan wirio cyfyngedig yn y safleoedd.
Bydd y fethodoleg yn cynnwys: datblygu delweddu Synhwyro ac Archwilio
Golau o’r safleoedd; dadansoddi ffotograffau o’r awyr er mwyn
mesur yr hyn a gollwyd tros yr 50 mlynedd diwethaf; rhoi prawf ar berthnasedd
geoffiseg yn y fath safleoedd; arolwg topograffig mewn tri safle.
Dewiswyd y safleoedd canlynol ar gyfer eu dadansoddi:
Porth y Rhaw, Solfach; Linney Head, Castellmartin; Caer Greenala, Freshwater
East; Penmaendewi; Watery Bay ac Ynys Gateholm, Marloes; Rhathlan Black
Point, Aberllydan; ac Ynys Dinas ger Trefdraeth.

Synhwyro o Bell, Porth y Rhaw, 1946-2006. Cymhariaeth gan Gomisiwn
Brenhinol Henebion Cymru o ffotograffau a dynnwyd o’r awyr ym 1946
ac yn 2006 o ochr ddwyreiniol caer Porth y Rhaw.

Synhwyro o Bell, Porth y Rhaw, geoffiseg. Arolwg geoffisegol o ochr ddwyreiniol
caer Porth y Rhaw sy’n dangos safleoedd nifer o dai crwn.
Cyswllt: Ken
Murphy
|