Caerau, Vici a Ffyrdd Milwrol Rhufeinig 
Cyflwyniad
Prosiect dros Gymru gyfan yw hwn sy’n cyfuno elfennau o astudiaethau
y mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Clwyd-Powys wedi ymgymryd â hwy dros sawl blwyddyn. Mae’n
adeiladu ar ddata a gasglwyd yn ystod prosiect a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn ystod 1996 ar ran Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru.
Yn ystod y prosiect hwnnw llwyddwyd i ddod â’r holl dystiolaeth
o ffyrdd Rhufeinig yn Ne Orllewin Cymru a gafwyd drwy luniau o’r
awyr ynghyd mewn mapiau.
Mae gan y prosiect dri phrif amcan sef asesu pwysigrwydd y safleoedd
milwrol Rhufeinig; gwerthuso pa mor agored i niwed yw’r safleoedd
ac adolygu strategaethau meini prawf cofrestru a rheoli; a gwella’r
CHA.

Yr heol Rhufeining rhwng Llanymddyfri a Phumsaint yn arddangos fel
marc sych.
Ebrill 2004 - Mawrth 2005

Map yn dangos ffyrdd Rhufeinig yn ne orllewin Cymru.
Prif elfen y prosiect yn ystod 2004/2005 oedd gwneud
arolwg o’r holl wybodaeth a wyddwyd amdano o ran yr elfen filwrol
yn ne orllewin Cymru, gyda’r pwyslais ar ffyrdd. Crëwyd tablau
GIS yn dangos llinellau pendant, tebygol ac awgrymedig y ffyrdd Rhufeinig.
Gwnaed hyn ar y cyd gyda gwelliannau o’r HER. Crëwyd tua 200
o gofnodion newydd. Yn ogystal â hyn, gwnaed ymweliadau safle i
sawl rhan o’r ffordd lle roedd tystiolaeth yn dynodi presenoldeb
sarnau oedd mewn cyflwr da. Gwnaed argymhellion rhestru ar gyfer pedair
rhan o’r ffyrdd.
Yn ogystal â hyn, gwnaed arolwg magnetomedr, ar
y cyd gyda GAT, ar ran o’r gaer Rufeinig a ficws yn Llanymddyfri.
Mae hyn yn dangos bod llawer o olion sydd wedi’u claddu yn goroesi
y tu hwnt i amddiffynfeydd y gaer a welir yn sefyll. Nid yw’n amlwg
pun ai os yw’r olion yn dynodi fod yna gaer gynharach wedi bod yma,
anecs neu ran o ficws. Mae estyniad i’r ardal sy’n rhestredig
wedi’i argymell.

Arolwg magnetomedr o gornel gogledd ddwyreiniol y gaer Rufeinig yn
Llanymddyfri.
Ebrill 2005 – Mawrth 2006
Parhad o brosiect 2004-05 yw hwn wnaeth gynnwys arolwg
geoffisegol o ddwy gaer /ficws - Llanio a Thrawscoed. Gwnaed y gwaith
hwn ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.
Yn Nhrawscoed arolygwyd ardal sydd fwy neu lai yn hirsgwâr
rhyw 160m x 120m o faint. Roedd cwadrant gogleddol y gaer yn rhan ohono
ac ardaloedd i’r gogledd a dwyrain o’r amddiffynfeydd. Daethpwyd
o hyd i ganlyniadau clir o ran amddiffynfeydd y gaer, ffyrdd a chyfres
o chwe bloc o farics a oedd i’w gweld yn glir. Mae’n ymddangos
fod y gweithgarwch aml-furfiog yn yr ardal sy’n cael ei harolygu
yn cynnwys aelwydydd gwasgaredig ac amaeth, er fe allai’r peth anghyffredin
sydd ar hyd y ffordd i’r gogledd dwyrain gynrychioli mansio neu
adeilad mawr arall.
Yn Llanio arolygwyd dwy ardal hirsgwâr rhyw 80m
x 40m a 60m x 60m o faint. Roeddynt mewn caeau oedd gyferbyn â’i
gilydd a chawsant eu dylunio er mwyn samplo’r gweithgarwch all ffurfiol
i’r dwyrain o’r gaer. Mae’r arolwg wedi dangos fod yna
archaeoleg arwyddocaol wedi goroesi o dan y tir, a’i fod yn addas
i’w arolygu’n geoffisegol. Serch hynny, mae’r ardaloedd
bach o ran arolygu yn ei gwneud yn fwy anodd i ddehongli nodweddion ar
raddfa fwy a hefyd patrymau anheddu cyffredinol.

Plot geoffisegol yng nghaer Trawscoed
Adroddiad
Ymchwiliad Geoffisegol 2005 - Llanio a Thrawscoed - yn Saesneg - 5.39Mb
(mewn ffurf Adobe Acrobat, yn agored mewn ffenestr newydd)
2006-07
Ym mis Tachwedd 2006 cynhaliwyd arolwg geoffisegol pellach
ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, mewn man i’r gogledd-ddwyrain
a’r dwyrain i’r Gaer Rufeinig yn Nhrawscoed. Daethpwyd o hyd
i nifer o nodweddion, yn ogystal â ffyrdd, adeiladau petryal a phydewau
o ddyddiad Rhufeinig tebygol, yn ogystal â nodweddion crwn a allai
fod yn weddillion berfâu crwn yr Oes Efydd. Arolygwyd y gaer yn
Erglodd ger Borth, Ceredigion, hefyd. Cafwyd canlyniadau da iawn a oedd
yn datguddio caer a adeiladwyd o bosibl mewn dau gam a oedd yn cynnwys
llawer o adeiladau. Nid oedd unrhyw arwydd o unrhyw annedd yn union y
tu allan i’r gaer.

Arolwg geoffisegol Caer Trawscoes 2006-2007

Arolwg geoffisegol Caer bach Erglodd
Adroddiad
ymchwiliad geoffisegol Caer Rhufeinig Trawscoed a Caer fach Erlgodd mewn
ffurf Adobe Acrobat, Saesneg yn unig - yn agored mewn ffenestr newydd.
2007-08
Cynhaliwyd arolygon geoffisegol mewn tri safle yn ystod
y flwyddyn: caer Pen Llwyn, Capel Bangor, Ceredigion; caer fechan Waun
Ddu, Mynydd Myddfai, Sir Gaerfyrddin; a safle caer o bosibl ar fferm Old
Castle ger Aberteifi. Cynhaliwyd yr arolygon ym Mhen Llwyn a Waun Ddu
gan P Crane o DAT a D Hopewell o GAT, a chynhaliwyd yr arolwg yn Old Castle
gan Stratscan.
Ym Mhen Llwyn, arolygwyd rhan o’r tu mewn ac ardal
wastad i’r gogledd orllewin o’r gaer, ardal a ystyrir yn fwyaf
tebygol o gynnwys safle anheddiad sifil (vicus), Ni chafwyd unrhyw olion
o safle anheddiad. Y tu mewn i’r gaer, mae’n debyg mai adeiladau
pren oedd yr holl adeiladau. Mae’n debygol bod rhan fewnol y gaer
wedi dilyn y patrwm arferol yn wreiddiol, sef pencadlys, pretoriwm ac
ysgubor yn y rhan ganol a barics yn y pretentwra. Mae nifer o nodweddion
anghyson yn awgrymu ail gyfnod o weithgaredd.
Ystyriwyd mai naill ai caer fechan o bosibl neu safle amddiffynnol canoloesol
gyda thomen, neu’r ddau, oedd Waun Ddu, sef lloc bychan, petryal
gyda thomen mewn un gornel, ar weundir agored. Dangosodd arolygon topograffig
a geoffisegol y bu caer fechan yno a oedd yn cynnwys amrywiol adeiladau
pren petryal a ffwrnais. Daethpwyd o hyd i heol Rufeinig i’r de
ddwyrain o’r gaer yn ystod yr arolwg topograffig.
Mae wedi’i awgrymu ers amser hir bod caer Rufeinig
ger Aberteifi, ac mai ei lleoliad mwyaf tebygol oedd nifer o gaeau sy’n
creu ffurf hirsgwar ger fferm Old Castle. Mae darganfod gwaith metel a
chrochenwaith Rhufeinig gan ddarganfyddwyr metel mewn caeau cyfagos wedi
cryfhau’r awgrymiad hwn. Er hynny, methodd arolwg geoffisegol â
dod o hyd i unrhyw arwyddion o gaer, nac yn wir o unrhyw nodwedd archaeolegol
arall. Nid oes unrhyw wybodaeth ynglyn â chyd-destun y darnau Rhufeinig.
Yn ogystal â gwaith maes, dechreuwyd ar y gwaith
o gynhyrchu lluniadau ar gyfer cyfrol newydd o Roman Frontiers in Wales.
Bydd mwy o luniadau’n cael eu cynhyrchu yn 2008-09.

Data geoffidegol o arolwg Penllwyn

Arolwg geoffisegol Waun Ddu
Arolwg Geoffisegol Amddifynfa
Penllwyn mewn ffurf PDF (512Kb - yn agored mew ffenestr newydd).
Arolwg Geoffisegol Amddifynfa
Waun Ddu mewn ffurf PDF (8.7Mb - yn agored mew ffenestr newydd).

Amddifynfa Cae Hun. Un o lawer o ddarluniau wedi eu paratoi i'r llyfr
"Roman Frontiers in Wales"
Yn ystod 2007-08 dechreuodd gwaith ar baratoi testun a darluniau ar gyfer
fersiwn diwygiedig o Roman Frontiers in Wales. Yn ogystal â pharatoi
rhai o eitemau’r geiriadur daearyddol, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol
Dyfed yn paratoi holl ddarluniau’r gyfrol. Bydd yna filoedd lawer
o’r rhain.

Cynllun Caer Rhufeinig Llanymddyfri wedi ei baratoi i 'Roman Frontiers
in Wales'
Cyswllt y Prosiect: P
Crane
|