 |
Ynglyn â’r Gwasanaethau Cynllunio

Un
o swyddogaethau pwysig Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yw darparu
gwasanaeth rheoli datblygu unffurf i’r awdurdodau cynllunio lleol ac eraill
sy’n ymwneud â datblygu a newid defnydd tir, yn y sectorau preifat a chyhoeddus,
ar draws Cymru gyfan. Defnyddia Gwasanaeth Cynllunio Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed y wybodaeth
sydd yn y Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol, y wybodaeth a’r medrusrwydd
arbenigol sydd ar gael o fewn yr Ymddiriedolaeth i archwilio a rhoi barn
ar bob cais cynllunio a allai gael effaith ddrwg ar yr amgylchedd hanesyddol.
Defnyddia awdurdodau cynllunio lleol gyngor Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i asesu effaith bosibl
datblygu ar y dreftadaeth, gan felly sicrhau y difrod lleiaf posibl.
Ni chaiff y rhan fwyaf o ddatblygiadau effaith arwyddocaol ar y dreftadaeth,
ond pan gânt gall Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ymateb i ymgynghoriad gan awdurdodau lleol mewn
nifer o ffyrdd. Mewn nifer bychan o achosion gall yr ymateb hwn gynghorir
y dylid gwrthod rhoi caniatâd cynllunio er mwyn diogelu archaeoleg neu
adeiladau hanesyddol, ond yn fwy cyffredin, bydd yn gofyn i’r awdurdod
cynllunio osod amodau ar unrhyw ganiatâd a roddir. Gall yr amodau hyn
ddweud na ellir adeiladu ar rannau o’r safle, neu fod cloddio archaeolegol
yn cael ei gyflawni ar rannu ohono cyn dechrau ei ddatblygu, neu fod archaeolegydd
yn bresennol ar orchwyl gwylio (i gofnodi unrhyw beth a ddatgelir) tra
bo’r gwaith adeiladu’n mynd rhagddo.
Mewn rhai achosion mae’n bosibl y byddai’r awdurdod lleol yn ystyried
bod datblygiad yn effeithio ar ardal â chryn botensial archaeolegol ond
nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i benderfynu sut i ymdrin â’r cais
cynllunio. Mewn achos o’r fath mae’n bosibl y byddant yn gofyn i’r ymgeisydd
gynnal mantoliad archaeolegol cyn iddynt benderfynu ar y cais, er mwyn
casglu mwy o dystiolaeth am effeithiau tebygol ei ddatblygiad. Gallai’r
mantoliad hwn gynnwys ymchwilio dogfennau, arolwg, a/neu gloddiad prawf
cyfyngedig , a bydd ei ganlyniadau yn galluogi’r cynllunwyr i wneud penderfyniad
cytbwys yngl~n â dyfodol y safle. Fel rheol, Cytundebwyr Archaeolegol
sy’n cyflawni gwaith fel mantoli, neu gloddio sy’n ofynnol gan amodau
cynllunio, ac er gwybodaeth, ceir isod Restr o Gytundebwyr Archaeolegol
yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymreig sy’n dymuno ceisio am waith
yng Nghymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am archaeoleg yn y broses gynllunio yn
nogfen bolisi y Swyddfa Gymreig – Canllawiau Cynllunio (Cymru) a Chylchlythyrau
60/96 a 61/96 y Swyddfa Gymreig. Cyfeirir at y dogfennau hyn a gellir
gweld trafodaeth gyfyngedig am eu cynnwys isod o dan Cod Ymarfer Curaduron
yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymreig.
I ganfod mwy am archaeoleg a chynllunio, neu er mwyn edrych ar yr effeithiau
allai eich datblygiad gael ar yr amgylchedd hanesyddol, cysylltwch â Gwasanaeth
Cynllunio Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i drafod y materion hyn cyn i chi gyflwyno eich cais
cynllunio. Yn amlach na pheidio trafodaethau cynnar yw’r ffordd orau o
osgoi gwrthdaro rhwng datblygiadau ac anghenion cadwraeth.
Cod
Ymarfer y Curaduron - Cod Ymarfer Curaduron yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymreig.
Canllaw
Arfer Da (Ffeil Adobe Acrobat 1.1Mb) - Canllaw arfer da ar ddefnyddio
Cofrestr Tirweddau Hanesyddol yng Nghymru yng ngweithrediadau cynllunio
a datblygu.
Ffurflennu
Asesu Arfer Da (Ffeil Adobe Acrobat 57Kb)
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor
cysylltwch â Swyddog Rheoli Datblygu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed os gwelwch yn dda
1999 - 2000
Yn ystod y flwyddyn Ebrill 1999 hyd Mawrth 2000 mae'r Adran Rheoli
Treftadaeth wedi bod yn darparu gwybodaeth a ddaeth o'r Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol i nifer cynyddol o amrywiol ymholiadau - ymchwilwyr,
cyrff archaeolegol proffesiynol a grwpiau o'r gymuned leol. Darparwyd
gwybodaeth i Cadw ar gyfer amrywiol ddibenion gan gynnwys rhoi cymorth
gydag argymhellion i restru ac ar gyfer ceisiadau Atodlen Caniatâd
Henebion. Bu hefyd ymgynghori ynglþn â'r Gofrestr Tirweddau, Parciau
a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru sydd yn dal
i roi arweiniad i holl broses Reoli Treftadaeth.
Paratowyd papur manwl i gefnogi polisïau archaeoleg yng Nghynllun
Datblygu Unedol Cyngor Sir Benfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro
ar y cyd, a chafodd ei dderbyn â breichiau agored. Cyflwynwyd sylwadau
manwl ar nifer o bapurau strategol cenedlaethol, lleol a rhanbarthol
megis papurau polisi drafft y DETR ar 'borthladdoedd' a 'hawliau mynediad'
a phapur ymgynghorol drafft y Strategaeth Arfordir a Chefn Gwlad Cyngor
Sir Ceredigion.
Darperir gwybodaeth a chyngor i awdurdodau cynllunio lleol, sefydliadau
ac unigolion eraill hefyd ynghylch cynllunio a cheisiadau adeiladau
rhestredig ac unrhyw ddatblygu sy'n dilyn yn eu sgïl. Roedd y gofyn
am waith yn parhau mewn perthynas â'r tri chynllun mawr dan nawdd
CDL yn sir Gaerfyrddin; Aberglasney, Gardd Fotaneg Genedlaethol
Cymru (Plas Middleton) a Pharc Arfordir y Mileniwm, Llanelli.
Yn Aberglasney, Llangathen, gosodwyd amodau archaeolegol ar ganiatâd
cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig mewn perthynas â datblygu'r
tþ a'r ardd ac o ganlyniad cynhaliwyd ymchwiliad archaeolegol a fu'n
help i ddadansoddi hanes yr adeiladu a'r defnydd a wnaethpwyd o'r
ardd gloestr a'r tþ. Bu'r ddealltwriaeth ddyfnach a ddaeth yn sgîl
hyn yn gymorth gyda'r cynlluniau ar gyfer adfer yr ardd ac y mae wedi
ysgogi trafodaeth academaidd fywiog.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae llawer o wybodaeth a chyngor
ar reoli treftadaeth o fewn Ceredigion yn cael ei ddarparu y tu allan
i'r fframwaith cynllunio lleol mewn perthynas â choedwigaeth, trin
safleoedd mwyngloddio metel, materion arfordirol a gweithrediadau
amaethyddol. Mae nifer o geisiadau cynllunio wedi cynnwys gwaith ar
adeiladau ôl-oesoedd canol megis Plas Trawscoed a Phlas Nanteos
yn ogystal ag adeiladau llai mawreddog yng Ngelli Gron, Y Sgwâr,
Tregaron a Llwyndafydd, Llandysul. Yr oedd ailddatblygu arfaethedig
ar safle'r swyddfa post/siop yn Llwyndafydd yn cynnwys dymchwel bwthyn
wedi'i adeiladu â chlom. Cytunwyd i osod amod ynglwm wrth y caniatâd
cynllunio yn gofyn am gadw cofnod o'r adeilad cyn ac yn ystod y dymchweliad.
Adlewyrchir pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i sir Benfro, yn
enwedig pan fo sectorau eraill yr economi rhanbarthol mewn dirwasgiad,
yn y nifer mawr o geisiadau cynllunio a dderbynnir ar gyfer addasu
ac ymestyn adeiladau. Golyga hyn fod angen cymryd i ystyriaeth yr
archeoleg sydd ar yr wyneb yn ogystal â'r dyddodion dan y ddaear ar
safleoedd fferm y credir eu bod wedi datblygu o bentrefan ganoloesol.
Mae gwybodaeth ar gael fod dyddodion archeolegol mewn rhai safleodd,
megis Priory Farm, Monkton. Ariannodd Adran Priffyrdd y sir
brîff gwylio a chofnodi mewn perthynas â gwaith atgyweirio ffordd
yn Eglwyswrw a daethpwyd o hyn i gistfaen gladdedigaethau ganoloesol
gynnar. Cynhaliwyd cyfarfodydd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir
Benfro i drafod y gwaith ar lwybrau yr arfordir, yn enwedig y modd
y dylid trin gweddillion diwydiannol gan gynnwys hen weithfeydd mwyn
yn ardal Saundersfoot a Glofa Trefrane Cliff.
Gwasanaethau Cynllunio 2000 - 2001
Cynhaliwyd cyfarfodydd yn ddiweddar â'r holl Awdurdodau Cynllunio
Lleol a chafwyd trafodaethau buddiol gyda'r prif swyddogion cynllunio.
Prif bwnc y trafod oedd yr angen i ddod o hyd i adnoddau ychwanegol
i ariannu'r broses o gynnig cyngor. O ganlyniad, mae Cyngor Sir Caerfyrddin
a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cytuno i wneud cyfraniadau
o bwys drwy gyfrwng Cytundebau Lefel Gwasanaeth.
Yn ystod 2000 - 2001 yr oedd gwaith achosion cynllunio archaeolegol
yn cynnwys fferm wynt arfaethedig yng Nghefn Croes, Ceredigion, sef
y datblygiad arfaethedig mawr cyntaf yn 'Uwchdir Ceredigion' sydd
wedi'i gofrestru yn Nhirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng
Nghymru. Yn Sir Gaerfyrddin, canlyniad yr ymwneud â'r broses gynllunio
ar gyfer datblygu Pwll Glo a Gwaith Briciau'r Emlyn ym Mhen-y-groes
oedd i Cadw adnabod odyn 'Hoffman'. Cadarnheir bellach fod hyn o bwys
cenedlaethol. Er hynny, bydd angen cryn reoli ar yr adeiladwaith i
sicrhau y bydd yn goroesi yn y tymor hir. Wrth gloddio yn Nhy'r Eirin
Gwlanog yn yr ardd furiog ym Mhlas Middleton yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol,
cafwyd hyd i sawl cyfnod o adeiladu ac ailfodelu ar yr adeiladwaith
yn ogystal â defnyddio gwresogi ag awyr poeth - proses y daliwyd i'w
defnyddio yn ystod yr 20fed ganrif. Fe ymchwiliwyd hefyd i safleoedd
yn Hwlffordd, gan gynnwys datblygiad yn Perrots Road, lle disgwylid
cael tystiolaeth o bydewau haint.
|