Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol yw’r adnodd mwyaf cynhwysfawr
o wybodaeth am safleoedd a gwrthrychau archaeolegol yn Sir Gaerfyrddin,
Ceredigion a Sir Benfro. Mae’n cwmpasu pob cyfnod o ddatblygiad
dynol o olion o’r gweithgarwch cynhanesyddol cynharaf i strwythurau
amddiffynnol yr Ail Ryfel Byd ac yn cynnwys gwybodaeth gan Cadw
ar Henebion wedi’u Cynllunio ac Adeiladau Rhestredig.
Yn ogystal â gwybodaeth am safleoedd unigol,
mae HER yn cynnwys gwybodaeth ar dirweddau’r gorffennol a
gwybodaeth am waith archaeolegol blaenorol a wnaethpwyd. Rydym yn
bartneriaid â thair Ymddiriedolaeth
Archaeolegol arall yng Nghymru, Cadw, CBHC ac Amgueddfa ac Orielau
Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Cofnod yn system gymhleth o wybodaeth
ar sail cronfa ddata gyfrifiadurol a mapio digidol. Ar gyfer pob
cofnodiad ar y cofnod mae gennym wybodaeth allweddol megis math
y safle, ei enw, ei leoliad a’r cyfnod y mae’n dyddio
ohono. Mae cyfeiriadau llyfryddiaethol a disgrifiad gan y rhan fwyaf
o gofnodion. Ar hyn o bryd mae dros 39,000 o gofnodion gan y gronfa
ddata, rhif sy’n cynyddu bob dydd.
Yn cefnogi’r wybodaeth ddigidol hon mae casgliad
cyfeirio papur mawr. (Cysylltiad yw hon i ddogfen mew ffurf
PDF. Mae'r cyflwyniad yn Gymraeg a'r adrannau technegol yn Saesneg
- yr agored mewn ffenestr newydd).
|