Cyflwynwyd cynllun amaeth-amgylcheddol Tir Gofal ym
1999 yn gynllun sy’n ceisio integreiddio’r rheoli amgylcheddol
ac amaethyddol ar ffermydd cyfan o dan un cytundeb. Gweinyddir y cynllun
gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae ffurflenni
cais ar gyfer Tir Gofal i’w cael o swyddfeydd Cyngor Cefn Gwlad
Cymru ar hyd a lled y wlad.
Agwedd bwysig ar Dir Gofal yw rheoli ein treftadaeth
ddiwylliannol gyfoethog. Mae’r rhan fwyaf o archaeoleg Cymru i’w
chael ar dir ffermio. Ar hyd yr oesoedd, bu pobl Cymru’n byw ar
y tir gan ei droi i’r hyn yw ef yn awr. Mae ffermwyr heddiw’n
parhau â’r traddodiad hwnnw. Yn ogystal â siapio Cymru
at y dyfodol, mae ffermwyr modern yn warcheidwaid y gorffennol. Fel rhan
o’r cynllun Tir Gofal, gall ffermwyr gael taliadau am reoli’r
nodweddion archaeolegol a hanesyddol ar eu tir.
Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed amryw o rolau o fewn y cynllun
Tir Gofal. Bydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn ymgynghori â ni ynghylch
yr hyn sydd o ddiddordeb archaeolegol ar bob fferm yn siroedd Caerfyrddin,
Ceredigion a Phenfro sy’n gwneud cais i ymuno â chynllun Tir
Gofal. Fel rhan o’r broses ymgynghori honno, adroddiad Amgylchedd
Hanesyddol 1 (HE1) sy’n rhoi manylion lleoliadau safleoedd, disgrifiadau
o safle, a gwybodaeth a chyngor rheoli ynghylch y tirlun hanesyddol. Mae
hyn yn fodd i’r ffermwyr reoli’r amgylchedd hanesyddol yn
briodol. Caiff yr agwedd hon ar ein gwaith ei hariannu o fewn y cynllun
Tir Gofal a weinyddir gan Cadw: Henebion Cymru. Os bydd pryderon rheoli
penodol yn codi, caiff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ei gomisiynu gan y Cyngor Cefn
Gwlad i wneud arolwg o’r fferm drwy gerdded ei thir. Mae hynny’n
fodd i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ddarparu cyngor rheoli penodol iawn yng ngoleuni
cyflwr yr archaeoleg ar hyn o bryd.

Mae olion bwthyn yn goroesi fel banciau o wrthgloddiau isel a phentyrrau
o rwbel.
Ymholiadau ynghylch
Tir Gofal. Cymorth a chyngor am ddim
Os ydych chi’n ffermio yn siroedd Caerfyrddin,
Ceredigion neu Benfro, gallwch gysylltu â’r Cofnod Hanesyddol yr Amgylchedd yn Llandeilo i gael gwybodaeth am yr archaeoleg sydd eisoes
yn hysbys ar eich fferm chi, a gallwch ddweud wrthym yr hyn a wyddoch
chi am nodweddion hanesyddol yr ydych wedi dod ar eu traws ar eich tir.
Ar ôl i chi wneud cais i ymuno â Thir Gofal, caiff pob fferm
Adroddiad ar ei Hamgylchedd Hanesyddol (HE1). Ar unrhyw adeg yn ystod
y cynllun, cewch gysylltu ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i gael rhagor o wybodaeth
a chyngor ynghylch rheoli’r nodweddion hanesyddol ar eich fferm.
Asesiadau o’r Amgylchedd
Hanesyddol ac Arolygon Fferm Tir Gofal
Adroddiadau ar yr Amgylchedd Hanesyddol (HE1)
Bydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru’n ymgynghori ag
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ynghylch pob cais Tir Gofal. Cyflwynir y wybodaeth
i’r Cyngor Cefn Gwlad ar ffurf adroddiad ar yr Amgylchedd Hanesyddol
(HE1). Mae adroddiad HE1 yn nodi pob safle sydd wedi’i gofnodi
yn y Cofnod Rhanbarthol o Safleoedd a Henebion ac yn darparu cyngor
rheoli yn ei gylch. Yn ogystal, mae HE1 hefyd yn darparu amcanion rheoli
allweddol ar gyfer y dirwedd a amaethir. Mae’r adroddiad hefyd
yn tynnu sylw at feysydd o botensial archaeolegol lle nad oes unrhyw
waith archaeolegol blaenorol wedi’i wneud. Yr HE1, hefyd, yw’r
mecanwaith sy’n fodd i’r Pennaeth Rheoli Treftadaeth argymell
gwneud arolwg archaeolegol o’r fferm.
Ymweliadau â Ffermydd ac Adroddiadau
ar yr Amgylchedd Hanesyddol (HE2)
Mae Tir Gofal yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ymweld
ag 20% o’r holl ffermydd yn y cynllun i wneud arolwg archaeolegol
ohonynt. Bydd hynny’n arwain at lunio ail adroddiad ar yr Amgylchedd
Hanesyddol (HE2). Mae’r broses HE2 yn cynnwys ymchwilio mewn dogfennau
yn yr CHA ac, os yw amser ac adnoddau’n caniatáu, ymweliadau
ag archifdai a llyfrgelloedd. Ar ôl gwneud yr ymchwil, gwneir
arolwg drwy gerdded tir y fferm a thargedu’r safleoedd a nodwyd
ar sail yr ymchwil mewn dogfennau. Yn adroddiad HE2, ceir disgrifiadau
a chyngor rheoli manwl ar sail y wybodaeth a gafwyd wrth ymweld â
safleoedd a nodweddion archaeolegol penodol. Bydd yr ymweliadau â
ffermydd hefyd yn arwain at nodi safleoedd na chofnodwyd mohonynt cynt.
Ymweliadau Galw-Allan
Gellir hefyd ymweld â fferm ar gais y Cyngor
Cefn Gwlad i roi sylw i faterion rheoli penodol, megis creu pyllau dwr
neu adfer adeiladau traddodiadol. O dan yr amgylchiadau hynny, fe lunnir
Adroddiad Galw-Allan sy’n darparu cyngor rheoli targededig.
Mae’r ysgubor hon a’r stabl wrth ei hochr
wedi’u hadfer gyda chyllid Tir Gofal.
Diwrnodau o Hyfforddiant Archaeolegol i Swyddogion
Prosiect Tir Gofal
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed hefyd yn ymwneud, ynghyd â’r
tair Ymddiriedolaeth Archaeolegol arall yng Nghymru, â hyfforddi
Swyddogion Prosiect Tir Gofal Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Byddwn ni’n
cyfrannu i’r ysgolion undydd sydd wedi’u cynllunio i alluogi
Swyddogion Prosiect i ganfod meysydd sy’n peri pryder yn yr amgylchedd
hanesyddol ac i ddeall argymhellion ynghylch rheolaeth archaeolegol.
Mae’r broses hyfforddi hon yn fodd i dîm Tir Gofal Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed weithio’n agos gyda Swyddogion Prosiect Tir Gofal i gynnig
y cyngor rheoli gorau posibl, hyd yn oed os nad oes cyfle i ymweld â’r
safleoedd archaeolegol.