Cartref > Gwasanaeth Treftadaeth > Tir Gofal >

TIR GOFAL

Ebrill 2000-Mawrth 2001

Yn ystod y cyfnod Ebrill 2000 - Mawrth 2001 fe ddeliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ag ymholiadau cyn-gwneud-cais ynghylch 46 o ddaliadau. Ar gyfer pob un o'r ffermydd hynny, fe ddarparwyd rhestr o safleoedd archaeolegol o'r CHA, ynghyd â safleoedd y cafwyd hyd iddynt drwy astudio mapiau hanesyddol a ffynonellau eraill. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, fe luniodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gyfanswm o 305 o adroddiadau Amgylchedd Hanesyddol 1, 90 ohonynt mewn ymateb i ymgynghoriadau Blwyddyn 1 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a 215 mewn ymateb i ymgynghoriadau Blwyddyn 2.

Yn achos ceisiadau Blwyddyn 1, dewiswyd 20% o'r holl ffermydd ar gyfer adroddiad Amgylchedd Hanesyddol 2 (HE2) a gynhwysai chwilio dogfennau ac ymweld â'r ffermydd. Ariannwyd y cam hwn o'r gwaith gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Yn ystod y cyfnod Ebrill 2000-Mawrth 2001, fe wnaed gweddill yr 28 o ymweliadau Blwyddyn 1. Yn achos ceisiadau Blwyddyn 2, y bwriad oedd ymweld â 22% o'r ffermydd, ond nid ymwelwyd ond â 3 fferm Blwyddyn 2 oherwydd argyfwng clwy'r traed a'r genau.

Tir Gofal - 1999-2000

SMR officer giving assistance Tir Gofal - Cyfredol

Mae gan Archeoleg Cambria lawer o swyddogaethau o fewn cynllun Tir Gofal. Darperir gwybodaeth i ffermwyr ynglþn â safleoedd a nodweddion archeolegol ar eu ffermydd yn y cyfnod cyn iddynt wneud cais er mwyn cefnogi eu ceisiadau. Yna darperir gwybodaeth am ddiddordeb archeolegol ffermydd yr ymgeiswyr llwyddiannus gan y Pennaeth Rheoli Treftadaeth a Swyddog Amgylchfyd Hanesyddol Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae hyn yn cynnwys manylion am leoliadau safleoedd a disgrifiadau, gwybodaeth am y dirwedd hanesyddol a chyngor rheoli. Galluoga hyn i'r ffermwr reoli'r amgylchfyd hanesyddol yn y ffordd briodol. Noddir yr agwedd hon o'n gwaith o fewn cynllun Tir Gofal gan Cadw. Caiff rhai ffermydd eu dethol ar gyfer arolwg archeolegol mwy manwl sy'n cynnwys ymweliad â'r fferm. Cyngor Cefn Gwlad Cymru sy'n noddi'r rhan hon o'r gwaith.

Derbyniodd Archeoleg Cambria 32 o ymholiadau cyn anfon cais yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun. Ar gyfer pob un o'r ffermydd hyn darparwyd rhestr o'r safleoedd archaeolegol gan y Cofnod Henebion a Safleoedd (CHS) ynghyd â safleoedd yr oedd modd eu hadnabod ar fapiau hanesyddol a ffynonellau eraill. Gan ddilyn trefn graddio, anfonwyd 271 o geisiadau Tir Gofal llwyddiannus ymlaen wedyn at Archeoleg Cambria gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Derbyniodd pob un o'r rhain sylwadau ar ffurf adroddiad Amgylchfyd Hanesyddol (AH1) gan yr Adran Rheoli Treftadaeth. Mae hwn yn rhoi gwybodaeth am yr holl safleoedd a gofnodwyd yn CHS ac yn cynnig cyngor rheoli priodol. Hefyd y mae'n tynnu sylw at ardaloedd o botensial archeolegol lle na chafodd gwaith archeolegol ei gyflawni o'r blaen a gall gynnwys argymhelliad y dylid cynnal arolwg archeolegol o'r fferm (gydag ymweliad â'r fferm).

Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, cafodd 20% o'r ffermydd llwyddiannus eu dethol ar gyfer ymweliad fferm a arweiniodd maes o law at adroddiad AH2. Y mae hyn yn golygu ymchwilio am ddogfennau yn CHS ac ymweld ag archifdai a llyfrgelloedd pan fo amser ac adnoddau'n caniatàu. Dilynir yr ymchwil hwn gan arolwg o'r fferm ar droed gan ganolbwyntio ar safleoedd y mae modd eu hadnabod o'r ymchwil dogfennol. Mae'r adroddiad AH2 yn cynnwys disgrifiadau manwl ac yn rhoi cyngor rheoli ar safleoedd a nodweddion archeolegol penodol, rhai ohonynt heb eu cofnodi o'r blaen o bosibl. Erbyn diwedd Mawrth 2000, cwblhawyd 27 o ymweliadau fferm.

Contact: Alice Pyper

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]