Mae
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi cyhoeddi llyfryn â
llawer o luniau ar hanes a thopograffi Caerfyrddin. Mae’r
llyfryn ar gael gan yr Ymddiriedolaeth am £4.00 gan
gynnwys postio a phecynnu. Galwch alw ni ar 01558 823121 am
gopi.
Argraffwyd y llyfryn hwn wedi i arolwg hanesyddol
manwl o dref Caerfyrddin gael ei wneud a ymgymerwyd gan yr
Ymddiriedolaeth ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin a Cadw. Y nod
oedd cynnig fframwaith ar gyfer datblygiad cynaliadwy o fewn
amgylchedd hanesyddol y dref, a hefyd er mwyn cynorthwyo i
ddiogelu dyfodol y dreftadaeth archaeolegol a hanesyddol na
welir ei debyg yn unman arall.
Mae’r llyfryn dwyieithog yn tynnu sylw
at dreftadaeth archaeolegol Caerfyrddin sydd mor gyfoethog.
Mae’r teitl yn adlewyrchu’r ffaith fod pobl wedi
bod yn byw yng Nghaerfyrddin ers i’r Rhufeiniaid ei
meddiannu ar ddechrau’r 2il ganrif AD. Mae’r llyfryn
yn disgrifio twf y ddau anheddiad canoloesol yr Hen Gaerfyrddin
a’r Gaerfyrddin Newydd rhwng AD 1100 a 1500 a’r
ehangu a welwyd wedi’r Oesoedd Canol yn 1500.
Mae’r llyfryn hefyd yn dangos sut y
gellir defnyddio dogfennau a mapiau hanesyddol, tystiolaeth
archaeolegol a’r cynllun stryd modern er mwyn gwella’r
hyn rydym yn ei wybod am Gaerfyrddin yn y gorffennol. Mae
hefyd yn ymddwyn fel rhyw fath o grynodeb hanesyddol o’r
arolwg mwy manwl ac mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddarganfyddiadau
archaeolegol diweddar yn y dref.
Mae’r llyfryn wedi derbyn cymorth grant
gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Cadw. Mae’n cynnwys nifer
o ddarluniau lliw, yn cynnwys lluniau hanesyddol a ail-grewyd
gan Neil Ludlow a ffotograffau gwreiddiol gan Ray Edgar.
|