Nodweddu Tirweddau Trefol a Gwledig
Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed arbenigedd heb ei ail mewn dadansoddi tirweddau, arolygon a nodweddu tirweddau hanesyddol , ac mae ein gwybodaeth am dirweddau hanesyddol a threfi de a gorllewin Cymru yn ddigyffelyb. Mae arolygon tirwedd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn amrywio o nodweddu darnau mawr o dir i’r dadansoddiad manwl o ddatblygiad ardaloedd llai. Mae technegau’n cynnwys archwilio lluniau o’r awyr, hen fapiau a dogfennau ynghyd ag astudio holl agweddau’r dirwedd ei hun. Mae tueddiadau diweddar wedi dechrau canolbwyntio ar nodweddion manwl trefluniau ac mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ar y blaen o ran datblygu’r maes hwn ar y cyd â Cadw ac asiantaethau eraill. Gan weithio gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru, mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn cynhyrchu data LANDMAP arloesol, system wybodaeth genedlaethol am dirweddau sy’n arwain penderfyniadau cynaliadwy.
I gael fwy o wybodaeth a phrisiau cystadleuol ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â:
Pete Crane MIFA, Rheolwr Prosiect p.crane@dyfedarchaeology.org.uk Duncan Schlee MSc, Rheolwr Prosiect d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk
|
[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]