Cartref > Gwasanaethau Masnachol >

Asesiadau Desg

Mae asesiadau desg yn cael eu comisiynu fel arfer fel elfen o gais cyn cynllunio a gallai ffurfio darn treftadaeth ddiwylliannol Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA), gyda’r pwrpas o nodi safleoedd/tirweddau treftadaeth ddiwylliannol a chaniatáu ffurfio strategaethau lliniaru.

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wrth law i wneud asesiadau desg ac AEA ar eich rhan, gan ddarparu cyngor a chyfarwyddyd proffesiynol a diduedd am y ffyrdd gorau o leihau risg archaeolegol, a rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliad cyhoeddus pe bai gofyn.

Rydym yn edrych ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol cenedlaethol a rhanbathol, mapiau hanesyddol, dogfennau argraffedig a lluniau o’r awyr fel rhan o asesiad desg fel arfer er mwyn nodi safleoedd archaeolegol a hanesyddol. Mae ymweliad safle’n gwerthuso cyflwr a phwysigrwydd safleoedd dan sylw, ac yn nodi unrhyw nodweddion amlwg na chofnodwyd nhw’n flaenorol y gallai fod angen ymchwilio iddynt ymhellach.

 

Mae gan staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed brofiad sylweddol o weithio gyda’r holl ffynonellau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer asesiadau pen bwrdd a chynhyrchu adroddiadau o’r safon academaidd uchaf. O bwysigrwydd arbennig yw ein gwybodaeth drylwyr o ffynonellau lleol, rhanbarthol a Chymreig a’r math o safleoedd sy’n debygol o gael eu gweld ar dirwedd Cymru, sy’n unigryw o’u cymharu â rhannau eraill o Brydain yn aml.

 

I gael mwy o wybodaeth a phrisiau cystadleuol ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â:

 

Pete Crane MIFA, Rheolwr Prosiect p.crane@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825985

Duncan Schlee MSc, Rheolwr Prosiect d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk
Llinell uniongyrchol 01558 825984

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]