Dyddiadur Cloddio Mynwentydd
Sir Benfro 2005
Mynwentydd cynnar y Canol Oesoedd ar arfordiroedd
Sir Benfro
I
weld y Dyddiadur Cloddio 2006, cliciwch yma

Beddau yn Angle, Sir Benfro
Ers nifer o flynyddoedd mae Archeoleg Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Dyfed yn ymwybodol iawn o’r bygythiad gan erydu
y môr o’r safleoedd archeolegol ar hyd arfordiroedd
Sir Benfro. Ymhlith y safleoedd yma mae nifer o fynwentydd beddau
cist yn dyddio at gyfnod cynnar yr Oesoedd Canol (rhwng 400 a 1100
AD). Ein bwriad yn awr yw i wneud cloddiadau ar raddfa fach ar ddwy
o’r safleoedd rhwng Gorffennaf 15fed ac Awst 5ed , gyda chefnogaeth
Cadw ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a chymorth
myfyrwyr o Brifysgol Gaerdydd.
Bae West Angle-
Mae hyd at 3 grwp o gladdfeydd cist ym Mae West
Angle. Nid yw yn glir os ydy’r rhain yn cynrychioli gwahanol
rhanbarthau o fewn un fynwent neu hen fynwentydd sydd wedi’u
gadael yn ddi ddefnydd. Cydnabuwyd y cyntaf yn 1997 pryd cafwyd
i fyny at bedwar o feddau o fewn wyneb y clogwyn a oedd yn erydu.
Sylwyd ar eraill gan gerddwyr a gan goedwigwyr y Parc Cenedlaethol.
Mae’r claddfeydd yma yn gorwedd tua 100m i’r Gogledd
orllewin o dir hirgrwn caeëdig yn cynrychioli mynwent o gwmpas
hen gapel Sant Anthony a gafodd ei recordio yn rhan olaf y cyfnod
canol oesol. Mae adeilad y capel erbyn hyn wedi hen fynd, ond fe
ellir gweld y tir amgaeëdig fel gwaith pridd isel hanner hirsgwâr.
Ni chafwyd unrhyw ddyddiadau eto am y claddu – efallai eu
bod o’r canol oesoedd cynnar ond o bosib yn hwyrach. Mae sefydlu
dilyniant ddyddio o gladdedigaethau fel hyn, yn bwysig iawn i’n
dealltwriaeth o ddatblygiad mynwentydd o fewn gorllewin Cymru a
Phrydain gyfan.
Llanffrèd /St Brides –
Ymgymerir prosiect llai yn Llanffrèd / St
Brides. Yma, mae mynwent yn cynnwys cist – beddau wedi’u
cloddio, yn erydu allan o’r clogwyni isel ar ochr ddwyreiniol
Hafan St Brides. Gorweddai’r safle tua 50m i’r gogledd
o Eglwys y Plwyf St Brides. Cafodd y fynwent ei nodi o gwmpas 1700
,pan oedd wedi’i effeithio yn barod gan erydu arfordirol.
Cysylltir â chapel o’r canol oesoedd a gollwyd gan erydu
arfordirol erbyn y 19 eg ganrif . Unwaith eto, mae dealltwriaeth
o ddatblygiad y math yma o safle yn hanfodol yng Nghymru a thu hwnt
. Yn 1985 daeth cist wedi’i gladdu i’r golwg , ac o
hwn cafwyd dyddiad radio carbon o ganol y 900au AD. Mewn canrifoedd
mwy diweddar newidiwyd ochr y clogwyn drwy adeiladu odyn galch ac
mae hyn wedi cuddio llawer o’r nodweddion cynharaf.
Yn y ddau achos yma bydd yr wybodaeth a ddaeth
o’r cloddiadau yn ein cynorthwyo i lunio cynlluniau rheoli
i’r safleoedd hyn, i sicrhau na fydd unrhyw ddifrod damweiniol
iddynt, ac i geisio eu diogelu mor effeithiol â phosib.
Trefnir diwrnod agored ar ddydd Gwener yr 22ain
o Orffennaf , a’r gobaith yw i gynnwys y ddau safle .A wnewch
chi gysylltu â Polly Groom ,os gwelwch yn dda, am fanylion
pellach: (p.groom@dyfedarchaeology.org.uk,
01646 624880).
CYSYLLTIAD I DUDALEN
PROSIECT SAFLEOEDD EGLWYSIG CANOLOESOL CYNNAR
Diwrnod
1 (Gorffennaf 18fed)
Ein diwrnod cyntaf o wneud gwaith maes! Wnaethom dreulio’r
diwrnod yn Sain Ffraid, sy’n safle i fynwent ganoloesol
gynnar tra chyfarwydd. Mae’r beddau sydd wedi’i
leinio â cherrig (a adnabyddir yma fel beddau
cist) wedi’u dyddio o ganol y 900au AD. Rydym
yn gwybod fod y safle yn dioddef oherwydd erydiad y
môr, ond nid ydym yn gwybod cyflymder y broses
hon. Er mwyn ein cynorthwyo ni i fonitro hyn yn y dyfodol,
ffotograffwyd a chofnodwyd y beddau a gloddiwyd gan
y myfyrwyr, gan lunio cynllun wrth raddfa o erydiad
presennol y môr ar y fynwent.
Yn ogystal archwiliwyd ar hyd ymyl
y clogwyni ychydig bellter o’r safle yr ydym yn
gwybod amdano – a dod o hyd i dystiolaeth o bump
o feddau eraill! Mae hwn yn ddarganfyddiad pwysig iawn
gan ei fod yn dangos bod y fynwent yn fwy o faint nag
a gredwyd cynt.
|
|
| |
|
|
Diwrnod
2 (Gorffennaf 19eg)
Dechreuwyd ar y gwaith o gloddio Bae Gorllewin Eingl
heddiw. Mesurwyd Ffos 1, a thynnwyd y dywarchen oddi
arno, a dechreuwyd symud yr uwchbridd oddi yno. Mae
Ffos 1 yn ffos fawr sy’n rhedeg ar draws ychydig
o wrthglawdd. Rydym o’r farn efallai bod y gwrthglawdd
wedi bod yn glawdd terfyn, o bosib y terfyn o amgylch
naill ai capel neu fynwent. Nod y ffos yw i weld os
oes yna ffin yno, ac os felly, gweld sut y cafodd ei
adeiladu a pun ai y gallwn ddod o hyd i dystiolaeth
o’i ddyddiad.
Hefyd wnaethom fesur tri phwll profi
bychain mewn rhan arall o’r cae. Rydym yn gobeithio
y bydd y ffosydd hyn yn ein cynorthwyo ni i ddod o hyd
i ymylon y fynwent.
|

Myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn
symud y tywyrch oddi ar Ffos 1
|
| |

Gosod y tri phwll profi. Mae ‘Ynys
Thorn’ yn y cefndir – un o gyfres o gaerau
o’r 19eg ganrif a adeiladwyd er mwyn amddiffyn
dyfrffordd Aberdaugleddau
|
|
Diwrnod
3 (Gorffennaf 20fed)
Pawb wedi llosgi oherwydd yr haul a’r dwylo’n
brifo! Mae’r tir mor sych a chaled fel ei bod
yn anodd iawn cloddio, felly rydym wedi haneru lled
ffos 1. Treuliwyd y diwrnod cyfan yn symud yr uwchbridd
o’r ffos hon, ac yn y prynhawn, daethpwyd o hyd
i ddau ddarn o grochenwaith o ben gorllewinol y ffos
hon. Dim ond dau ddarn bychan sydd i’w cael, ond
rydym o’r farn eu bod yn dyddio o’r Canoloesoedd.
Hyd yn oed yn fwy calonogol, rydym yn dechrau meddwl
ein bod wedi dod o hyd i nodwedd sydd efallai yn ffin.
Stribed caregog ar draws y ffos sydd efallai yn glawdd
terfyn, ac wrth ei ymyl y mae darn o bridd mwy rhydd
a thywyll a allai olygu mai dyma ffos sydd wedi’u
lenwi.
|

Y safle yn y bore ….
|
| 
ac yn y prynhawn … |

ac ar ddiwedd y dydd!
|
|
Diwrnod
4 (Gorffennaf 21ain)
Tebyg iawn i ddoe! Wnaethom barhau
i gloddio’r clawdd a ffos bosib yn ffos 1, ond
hyd yn hyn nid ydym wedi gallu cael penderfyniad pendant
yngly^n ag ydyw’n nodwedd archaeolegol. Hefyd
agorwyd ffos arall, ffos 2, yn agos at ochr y dibyn
ac union y tu ôl i lle mae’r beddau sy’n
cael eu erydu. Rydym yn gobeithio y bydd ffos 2 yn datgelu
mwy o feddau cist, er mwyn i ni fedru dod o hyd i esgyrn
i’w dyddio.
Does dim wedi dod i’r golwg yn ein tri pwll profi
hyd yn hyn. Mae hyn efallai’n golygu nad yw’r
pyllau profi o fewn ardal y fynwent – sy’n
mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at ateb un o’n
cwestiynau ynglyn ag union faint y safle hwn.
Mae dal heb fwrw glaw, ac mae’r tir fel craig
o galed.
|

Gweithio yn Ffos 2
|
| |
|
|
Diwrnod
5 (Gorffennaf 22ain)
Roedd yn ddiwrnod agored heddiw. Roedd
yn rhan o weithgareddau Wythnos Archaeoleg Genedlaethol
y Parc Cenedlaethol, ac roedd hefyd yn gyfle da i bobl
leol ac ymwelwyr ddod yma a gweld beth yr ydym yn ei
wneud. Mae’n rhaid fod yna tua 100 o bobl wedi
ymweld â’r safle heddiw – ond roedd
yn teimlo fel llawer iawn mwy! Er nad oes gennym unrhyw
ddarganfyddiadau cyffrous i’w dangos, roedd gan
bobl wir ddiddordeb yn yr hyn yr oeddem yn ei wneud
a’r hyn yr oeddem yn gobeithio ei ddarganfod.
Mae’r archaeoleg yn parhau i fod yn anodd iawn
dod o hyd iddo! Does yna ddim ateb clir yngly^n â’r
hyn sy’n digwydd yn ffos 1, ac mae’r pyllau
profi yn wag o archaeoleg o hyd. Rydym wedi cyrraedd
pridd naturiol sydd heb ei weithio yn y ddau bwll profi
cyntaf, felly gellir eu cau. Roeddem yn wir obeithiol
y byddem yn darganfod mwy o feddau cist yn ffos 2 wrth
ymyl y clogwyni, ond yn lle hynny mae gennym rhywfath
o ddaear galed. Rydym yn meddwl efallai mai llwybr ydyw,
neu efallai llwyfan ar gyfer mainc? Mae yna bosibilrwydd
ei fod yn ymwneud ag amddiffynfeydd yr Ail Ryfel Byd.
Bydd yn rhaid i ni gloddio drwy’r darn caled er
mwyn gweld beth sydd oddi tano.
|

Siarad ag un o’n ymwelwyr
ger y pyllau profi
|
| |

Parhau â’r gwaith yn
ffos 2, yn y gobaith o ddod o hyd i fwy o feddau cist |
|
Diwrnod
6 (Gorffennaf 23ain)
Mae dal heb lawio, a dim archaeoleg chwaith! Rydym wedi
dechrau ail lanw dau o’r pyllau profi, ac mae’r
gwaith ar y trydydd pwll profi bron â dod i ben.
Yn ddiddorol iawn, mae’r pridd yn yr un yma yn
llawer dyfnach – ond nid ydym yn gwybod pam.
Ffos 2, yn rhyfedd iawn, does yna’r un fedd yma.
Mae hyn yn dipyn o syndod gan fod y beddau yn wyneb
y clogwyni dim ond ychydig fetrau i ffwrdd o’r
ffos. Mae hyn yn golygu bod lleoliad y beddau o fewn
y mynwentydd hyn yn fwy cymhleth nag a feddyliwyd. Mae’n
rhaid bod y beddau mewn clystyrau bychain yn hytrach
na bod yn wasgaredig. Efallai bod y clystyrau hyn yn
dynodi teuluoedd, a bod pob teulu yn berchen ar blot?
Hyd nes y byddwn yn dod o hyd i grwp arall o feddau
ni fyddwn yn gwybod yr ateb.
|

Y trydydd pwll profi. Nid ydym yn
gwybod pam fod y pridd yn y pwll hwn gymaint yn fwy
dwfn na’r pyllau profi eraill
|
| |

Gorffen y gwaith yn ffos 2 |
|
Diwrnodau
7 ac 8 (Gorffennaf 24ain – 25ain)
Dau ddiwrnod haeddiannol o’r gwaith!
|
|
| |
|
|
Diwrnodau
9 a 10 (Gorffennaf 26ain – 27ain)
Yn ystod ein diwrnodau o’r gwaith
wnaethom wneud tipyn o waith meddwl ynglyn â’r
ffordd orau i barhau â’r cloddiad hwn. Hyd
yn hyn, yr unig beth mae ein strategaeth yn ei wneud
yw dweud wrthym lle NAD yw’r fynwent, ond nid
yw’n rhoi unrhyw dystiolaeth bositif i ni. Mae’r
dystiolaeth negyddol sydd eisoes gennym yn bendant yn
ddefnyddiol, a bydd yn gymorth i ni greu cynllun rheoli
ar gyfer y safle. Serch hynny, nid yw’n ddigon!
Rydym am fod yn bendant, cyn i ni orffen y cloddiad,
ein bod wedi dod o hyd i gymaint â phosib. Felly
rydym wedi penderfynu dod â ‘mini-digger’
i’r safle, er mwyn agor ffosydd newydd –
cymaint ag y gall y gyrrwr eu hagor mewn diwrnod!
Nawr ein bod bellach yn gwybod dyfnder y pridd aredig,
rydym yn gwybod na fyddwn yn difrodi unrhyw archaeoleg
trwy ddefnyddio’r peiriant i stripio’r ffosydd
newydd.
Mae’r gwaith yn ffos 2 bellach ar ben –
dim beddau, olion tyllau tyrchu anifeiliaid a ffos isel
fodern sydd mae’n ymddangos i’w wneud â’r
darn o dir caled. Mae cynllun wedi ei wneud o’r
ffos a lluniau wedi’u tynnu, a gellir ei gau.
Mae’r ddau bwll profi cyntaf wedi’u llanw
a’u cau, ac mae’r gwaith ar y trydydd pwll
profi hefyd wedi’i orffen.
Rydym wedi penderfynu canolbwyntio ein ffosydd newydd
ar hyd ymyl y glogwyn, er mwyn gweld a allwn ddod o
hyd i unrhyw gladdu yno. Os gwnawn, gallwn ymestyn y
ffosydd i weld faint o gladdedigaethau sydd, a sut maent
yn perthyn i’r rhai rydym yn gwybod amdanynt.
Hefyd rydym wedi penderfynu archwilio un gwrthglawdd
posib – rhaid i ni obeithio’r gorau!
|

Cofnodi yn ffos 2
|
| |

Paratoi ffos newydd arall! Gobeithio’r
gorau nawr y byddwn yn dod o hyd i ganlyniadau da yn
hon… |
|
Diwrnod
11 (Gorffennaf 28ain)
Mae cyflymder y cloddiad wedi newid
yn llwyr heddiw. Cyrhaeddodd y peiriant cloddio peth
cyntaf yn y bore, a dechreuodd ar y gwaith o agor nifer
o ffosydd ar hyd ymyl y glogwyn. Mae’r peiriant
yn cael ei ddefnyddio i stripio’r ffosydd i lawr
i waelod y pridd sydd wedi ei aredig, ac yn dilyn hynny
mae’r gwaith yn cael ei wneud â llaw. Trwy
wneud y gwaith yn y modd hwn rydym yn gwneud yn siwr
nad yw’r archaeoleg yn y ffosydd yn cael ei ddifrodi
gan fwced y peiriant.
Ffos 6, mae ffos newydd ger y beddau
sydd wedi’u herydu ar y glogwyn, yn dangos rhai
marciau pridd addawol iawn. Mae’n rhy gynnar i
fod yn siwr eto, ond rydym yn obeithiol efallai mai
marciau torri yw’r rhain sy’n dynodi lle
mae’r beddau. Mae rhai o’r myfyrwyr wedi
dechrau ar y gwaith o gloddio’r nodweddion hyn.
Ac mae’r glaw wedi dod o’r
diwedd! Er does yr un ohonom yn cofio gofyn am law mor
drwm …
|

Y marciau pridd yn ffos 6. Rydym
yn gobeithio efallai mai nodweddion archaeolegol yw’r
darnau tywyll o bridd – sy’n dangos efallai
mai dyma lle y torrwyd y beddau.
|
| |

Un arall o’r ffosydd sydd
wedi’u torri â pheiriant. Dyma ffos 10,
mewn lleoliad addawol ger y fedd fechan sy’n cael
ei herydu allan o ddarn cul o dir ym mhen y bae. Yn
anffodus, roedd ffos 10 yn hollol wag!
|
|
Diwrnod
12 (Gorffennaf 29ain)
Diwrnod cyffrous tu hwnt heddiw! Wnaeth
y peiriant cloddio barhau i agor ffosydd ar hyd ymyl
y glogwyn, ac er mawr siom, roedd yn ymddangos fod pob
un ohonynt yn wag. Roedd y nodau pridd yn ffos 6, y
ffos yr oedd gennym gymaint o obeithion amdanynt, yn
ddim mwy mewn gwirionedd na difrod o ganlyniad i aredig
– cwysi sydd wedi’u llanw â phridd
sydd yn fwy rhydd a thywyll ac yn rhoi’r argraff
eu bod yn nodweddion archaeolegol. Mae’n siom
aruthrol.
Roeddem yn dechrau meddwl fod y fynwent
gyfan wedi’u gosod ar lethrau’r arfordir,
ac felly wedi’i cholli oherwydd erydu dros y blynyddoedd.
Fe fyddai hyn yn ei hunan yn hynod ddiddorol –
pam mai dim ond ar ymyl llethrau yr oedd pobl yn cael
eu claddu? Fodd bynnag, wrth i ni ddechrau credu hyn
(a hefyd y llu o ymwelwyr!) cawsom ein profi’n
anghywir unwaith eto!
Tua 4.30pm, dechreuodd gyrrwr y peiriant
cloddio awgrymu y dylai fynd adref, gan nad oeddem wedi
dod o hyd i unrhyw beth. Llwyddwyd i’w berswadio
i aros, a thorri un ffos arall, ar draws gwrthglawdd
bychan iawn yr oeddem wedi sylwi arno. Yn sydyn iawn
yng nghanol y ffos, daeth ar draws crynodiad mawr o
gerrig. Y tu hwnt i hwnnw roedd yna nodwedd sydd yr
ydym yn weddol siwr yn fedd cist!! Mae’r darn
hwn o dir wedi’i aredig yn y gorffennol, ac mae
cryn dipyn o ddifrod, ond yn dawel bach rydym yn eithaf
hyderus…
|

Clawdd cerrig: Y clawdd cerrig a
ddatgelwyd gan y peiriant cloddio heddiw. Mae yna gerrig
sylweddol iawn yn y ‘clawdd’ heb unrhyw
arwydd o forter, felly mae’n annhebygol fod yma
olion adeilad. |
| |
|
|
Diwrnod
13 (Gorffennaf 30)
Diwrnod 13, yn ffos 13, gyda 13 o bobl
ar y safle …..efallai ei fod yn ddiwrnod anlwcus
i rai, ond nid felly ni! Mae ffos 13 yn profi i fod
yn rhyfeddol o ddiddorol. Yn wir bedd cist oedd y nodwedd
a welsom. Felly wnaethom ymestyn y ffos tuag at y glogwyn,
gan dynnu’r dywarchen a’r uwchbridd oddi
yno â llaw. Mae’n edrych yn debyg ein bod
yn ymdrin â rhywfath o derfyn cerrig, sydd wedi
dymchwel dros ochr safle’r fynwent. Dyma’n
union beth yr oeddem yn gobeithio amdano! Rydym nawr
yn tynnu rhai o’r cerrig oddi yno, ac yn defnyddio
trywel i dynnu’r wyneb oddi yno er mwyn gweld
a oes yna unrhyw nodweddion a fydd efallai’n dynodi
fod yna fwy o feddau yn yr ardal hon.
|

Ffos 13, wedi iddo gael ei hymestyn.
Mae’r gist a ddarganfuwyd o dan y tarpolin glas.
Mae’r garreg wastad i’r chwith i’r
graig fawr yng nghanol y ffos o bosib yn gwarddrws bedd
(y lechen sy’n gorchuddio bedd).
|
| |

Gwaith i ddarganfod y gorchudd o
garreg yn ffos 13.
|
|
Diwrnod
14 (Gorffennaf 31)
Diwrnod i ffwrdd o’r gwaith!
|
|
| |
|
|
Diwrnod
15 (Awst 1)
Fe ddylai hwn fod yn ddiwrnod i ffwrdd
o’r gwaith, ond penderfynodd pawb i fwrw ymlaen
! Wnaethom barhau i lanhau’r ffos a mynd â’r
cerrig oddi yno, ond mae ein barn yngly^n â’r
garreg ‘derfyn’ yn dechrau newid. Efallai
ei bod yn bwysicach nag y meddyliom erioed, ac efallai
nad clawdd terfyn ydyw mewn gwirionedd! Yr hyn yr ydym
yn dechrau meddylu yw ai tomen o garreg ydyw mewn gwirionedd,
sy’n gorchuddio’r claddedigaethau. Os felly,
yna’n bendant dyma’r tro cyntaf i ni weld
y fath beth erioed. Mae’r beddau yr ydym wedi
dod o hyd iddynt (mae gennym dri) yng nghanol y ‘domen’
ac maent yn agos iawn at ei gilydd. Wrth i’r diwrnod
fynd yn ei flaen, a mwy a mwy o cerrig yn dod i’r
golwg, roedd yn rhaid gofyn cwestiwn sylfaenol arall.
A yw’r domen garreg yn hwyrach na’r claddedigaethau
fel y tybiwyd yn wreiddiol, neu a yw’n bosib ei
bod yn gynharach? Os oedd y domen yno gyntaf, yna efallai
ein bod yn ymdrin â rhywfath o gofeb cynhanesyddol,
a ail-ddefnyddiwyd ar ddechrau’r Oesoedd Canol.
|

Gweithio yn ffos 13. Gellir gweld
y lechen fawr a ddatgelwyd yng nghanol y llun (wrth
ymyl y graig fawr) a, thu ôl ac i’r chwith,
mae Laura yn cloddio’r gist sydd wedi’i
datgelu. Mae’r myfyrwyr eraill yn ceisio dod o
hyd i ymyl y garreg.
|
| |

Mae’r cyffro yn ormod, i rai.
|
|
Diwrnod
16 (Awst 2)
Mae’r safle hwn yn mynd yn fwy
a mwy cymhleth, ac ar hyn o bryd rydym yn ymdrin â
sawl gwahanol damcaniaeth ynglyn â’r hyn
sydd yn digwydd yma. Rydym wedi parhau i chwilio am
ymyl y taeniad cerrig, a hefyd cloddio’r beddau
cist sydd i’w gweld. Wrth i’r gwaith fynd
yn ei flaen, rydym wedi dechrau dod o hyd i ragor o
gladdedigaethau a chistiau – ac yn ddiddorol iawn,
rydym yn dechrau amau bod llawer ohonynt yn rhai i blant.
Mae’r damcaniaethau posib fel a ganlyn:
Opsiwn 1. Mae’r taeniad cerrig
yn cynrychioli cofeb a oedd yno cynt ac a ddefnyddiwyd
yn ddiweddarach fel mynwent Ganoloesol gynnar. Efallai
bod y gofeb yn un gynhanesyddol – efallai yn garnedd
gylchog o’r Oes Efydd neu hyd yn oed yn amgaead
o’r Oes Haearn. Rydym wedi amau droeon o’r
blaen fod safleoedd yn cael eu hail-ddefnyddio ar ddechrau’r
Oesoedd Canol, ond fe fyddai’n wych cael bod yn
siw^r o hyn.
Opsiwn 2. Mae’r taeniad cerrig
yn hwyrach na’r claddedigaethau, ac yn cynrychioli
rhyw fath o domen a adeiladwyd dros y fynwent wedi i’r
defnydd o’r plot ddod i ben. Mae pob math o resymau
pam y mae hyn wedi digwydd; efallai ‘cau’r’
tir claddu er mwyn ei rwystro rhag cael ei ddefnyddio
yn y dyfodol, neu weithredu fel cofeb – rhyw fath
o nod ar gyfer bedd torfol.
Opsiwn 3. Clawdd terfyn yw’r
taeniad cerrig mewn gwirionedd sydd wedi dymchwel ac
wedi’i niweidio ag aradr gan roi’r argraff
mai tomen ydyw. Os mai felly ydyw, nid ydym yn siwr
os yw’r terfyn yn gynharach neu’n hwyrach
na’r claddedigaethau.
Y rheswm pam ei bod mor anodd dod o
hyd i ddilyniant ar y safle hwn yw oherwydd bod yr ardal
gyfan wedi dioddef yn eithaf gwael o ganlyniad i waith
aredig yn y gorffennol. Yn ogystal â tharfu ar
yr archaeoleg, mae’r aradr wedi newid dyfnder
y pridd, sy’n golygu ein bod yn ymdrin â
gwaelod yr hyn a fu yn adnau llawer iawn dyfnach.
|

Mae pawb bellach wedi gadael y ffosydd
eraill ac yn canolbwyntio ar ffos 13. Hefyd mae gennym
lif barhaol o ymwelwyr sydd â diddordeb!

Yn edrych i’r dwyrain ar draws
ffos 13. Mae ymyl y taeniad cerrig yn gwyro i ochr chwith
y ffos, gyda’r cistiau agored yn y canol.
|
|
Diwrnod
17 (Awst 3)
Mae pawb yn gweithio fel lladd nadroedd, ac mae’r
safle yn dechrau datgelu ei hunan a dangos dilyniant
o ddigwyddiadau dealladwy!
Mae’n ymddangos mai clawdd ‘terfyn’
ydyw – sef terfyn, yn hytrach na thomen. Clawdd
taenu ydyw, wedi’i wneud o bridd a cherrig sydd
wedi’i niweidio gan waith aredig yn y gorffennol.
Ond nid yw’n glir o hyd beth yw perthynas y terfyn
â’r beddau yr ydym wedi’u darganfod.
Mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf o’r beddau
y tu fewn i’r clawdd, ond mae un o’r beddau
yn rhedeg oddi tano. Os yw hyn yn wir, yna mae hyn yn
awgrymu fod y clawdd yn hwyrach na rhai o’r beddau.
Mae un o’r beddau cist yn y ffos
hon yn llawer iawn mwy o faint ac wedi’i hadeiladu’n
well na’r lleill yr ydym wedi’u darganfod.
Hefyd mae wedi’i chadw’n well ac mae’n
ymddangos nad yw wedi’i niweidio gan waith aredig,
er, yn rhyfedd iawn, nid oes caead o gerrig yn ei gorchuddio.
Rydym yn cloddio’r fedd gist hon, yn y gobaith
o ddod o hyd i sampl da o esgyrn i’w dyddio.
|

Mae ffos 13 yn llawn gweithgarwch!
|
|
Diwrnod
18 (Awst 4)
Bellach rydym yn gweithio diwrnodau
hir ofnadwy, ac nid ydym yn gwybod am faint rhagor y
gallwn gadw fynd fel hyn! Dim ond ychydig iawn o amser
sydd ar ôl i archwilio’r safle hwn, ac i
fynd â’r holl samplau sydd eu hangen i’w
dyddio. Heddiw wnaethom ganolbwyntio ar glirio’r
hyn sy’n weddill o’r uwchbridd a’r
haenau sydd wedi’u niweidio gan aradr ac sydd
yn gorchuddio’r ffos gyfan. Nawr fod y safle’n
lân, mae ychydig o bethau wedi dod yn fwy amlwg.
Y pwysicaf, yw bod y clawdd terfyn yn bendant yn gynharach
na’r claddedigaethau. Nid yw toriadau’r
bedd yn rhedeg o dan y clawdd, fel yr oeddem yn meddwl
efallai eu bod yn gwneud, ond yn hytrach maent yn rhedeg
yn agos iawn wrth ymyl. Mae yna nifer o feddau sy’n
rhyngdorri (lle mae un fedd wedi’i amharu wrth
i un arall dorri trwyddo’n ddiweddarach). Bellach
mae gennym hanner dwsin o gladdedigaethau sydd mae’n
ymddangos i fod in situ a gallwn weld rhannau o’r
gist o amgylch iddynt. Yn rhyfedd iawn, serch hynny,
rydym hefyd yn dod o hyd i esgyrn sy’n ymddangos
fwy neu lai unrhyw le, gan gynnwys yn y deunydd sy’n
llunio’r clawdd terfyn. Yr un lle nad oes yna
unrhyw esgyrn yw tu fewn i’r gist fawr sydd wedi’i
chadw’n dda.…
Yfory yw diwrnod olaf y myfyrwyr, ac,
yn ddigon amlwg, mae gennym nifer o gwestiynau ar ôl
i’w hateb.
|

Cloddio’r gist fwyaf sydd
wedi’i chadw orau. Hyd yn hyn, nid ydym wedi dod
o hyd i unrhyw dystiolaeth o gladdu ynddi!
|
|
Diwrnod
19 (Awst 5)
O’r diwedd! Mae’r safle yn dechrau gwneud
synnwyr … Treuliwyd heddiw yn gorffen gwneud gwaith
glanhau a chofnodi nad oeddem wedi cael cyfle i wneud
cynt, a hefyd esbonio’r union berthynas rhwng
y clawdd ffin gerrig a’r claddedigaethau y tu
fewn i’r amgaead. Mae’n ymddangos fod y
claddedigaethau yng nghanol yr amgaead yn wynebu o’r
dwyrain i’r gorllewin, fel ag y dylai claddedigaethau
cristnogol fod. Tuag at ymylon yr amgaead, mae cyfeiriad
y claddedigaethau yn newid, gyda’r beddau yn rhedeg
yn agos iawn ar y clawdd terfyn heb ddilyn y gwir gyfeiriad
o’r dwyrain i’r gorllewin. Nid yw’n
ymddangos fod yna unrhyw feddau union y tu allan i’r
clawdd. Mae’n ymddangos mai dim ond y tir y tu
fewn i’r amgaead a ystyriwyd yn addas i’w
ddefnyddio fel lle i gladdu – efallai bod y tu
fewn yn dir sanctaidd, a doedd y tu allan ddim?
Mae’r gist fawr sydd wedi’i
chadw’n dda hefyd yn dipyn o benbleth. Mae’n
ymddangos nad oes yna gladdu y tu fewn iddi! Er nad
yw llawer o esgyrn yn cadw’n dda iawn, fe fyddem
yn disgwyl gweld peth olion, ond does yna ddim byd yno
o gwbl. Awgrymwyd gan Astrid Caseldine, arbenigwr amgylcheddol,
ein bod yn mynd â samplau o bridd ac yn eu hanfon
i’w dadansoddi. Efallai y byddai hyn yn ein cynorthwyo
ni i benderfynu a oes yna gladdu wedi digwydd yn y gist.
Y prynhawn yma oedd diwrnod olaf o
gloddio i’r myfyrwyr. Byddwn yn flin iawn eu gweld
yn mynd – ni fyddai’r cloddiad wedi bod
yn bosib hebddynt, ac maent wedi gweithio’n galed
iawn. Daeth rhai o’r trigolion lleol, a’n
hymwelwyr cyson i ddweud hwyl fawr. Roedd pawb eisiau
gwybod a fyddem yn dod yn ôl y flwyddyn nesaf.
|

Y ‘brif’ gist, fwy neu
lai wedi’i chloddio’n llwyr. Dim olion o
esgyrn o hyd!
|
|
|

Bae Gorllewin Eingl 2005. Rhes gefn,
chwith i’r dde: Helen, Polly, Neil, Louise, Laura,
Polly, Jess, Frances, Dave. Rhes flaen, chwith i’r
dde: Mel, Laura, Jo, Bex.
|
|
Diwrnod
20 (Awst 6)
Y diwrnod olaf ar y safle, gorffen hyn a’r llall.
Rhyfedd iawn mai dim ond tri o bobl sydd yma yn hytrach
na thîm cyfan. Ac yn ôl y disgwyl, roedd
yna un sypreis arall gan y safle. Wnaethom dorri trwy
ran o’r clawdd terfyn heddiw, yn y gobaith o ddod
o hyd i wyneb tir wedi’i gladdu oddi tano. Yn
lle hynny, wnaethom ddod o hyd i ffos sylfaen bas sydd
mae’n debyg wedi’i thorri i mewn i wyneb
naturiol y tir. Hyd yn oed yn fwy diddorol na hyn, o
dan y clawdd mae’n ymddangos fod gennym rhyw fath
o bwll, neu efallai ffos gynharach. Roedd rhywfaint
o golosg yn hwn, felly rydym yn gobeithio y gallwn gael
dyddiad ohono. Yn amlwg dyma’r nodwedd gynharaf
i ni ei datgelu ar y safle hwn hyd yn hyn.
Trwy gydol y cloddiad rydym wedi dod
o hyd i lawer o wahanol ddamcaniaethau a phosibiliadau,
ac mae’r safle wedi ei ail-ddehongli yn ddyddiol
bron. Mae’r archaeoleg wedi bod yn eithaf cymhleth,
ac nid yw’r ffaith bod y lefelau uchaf wedi’u
niweidio yn help. Serch hynny, rydym yn credu bod gennym
hanes yma, sydd rhywbeth tebyg i hyn:
Mae’r fynwent yr ydym yn cloddio
ynddi yn glwstwr bychain o gladdedigaethau diffiniedig
a nodir gan y clawdd terfyn. Mae’r clawdd wedi
ei wneud o gerrig a phridd, ac yn rhyfedd iawn mae ynddo
ddarnau o esgyrn. Yr esboniad gorau y gallwn feddwl
am hyn yw bod y clawdd wedi’i adeiladu ar safle
mynwent gynharach – felly aflonyddwyd ar y claddedigaethau
cynt wrth ei adeiladu. Efallai bod hyn hefyd yn esbonio’r
nodwedd gynharaf o dan y clawdd – beth os mai
dyma derfyn gwreiddiol y fynwent gynharaf?
|

Eiliad drist! Y ffos yn cael ei
llanw yn ôl. Deunydd o’r enw Terram yw’r
lliain ddu. Pilen amddiffynnol ydyw fydd yn help i rwystro’r
archaeoleg rhag cael ei niweidio. Hefyd bydd yn gwneud
y gwaith o ail gloddio’r ffos yn llawer iawn haws
pe bawn yn penderfynu dychwelyd i’r safle yn y
dyfodol.
|
|
Crynodeb
Mae’r cloddiad wedi dod i ben, ond
fe ddaw ychydig o feddyliau i’r meddwl y diwrnod canlynol.
Rydym wedi casglu llawer iawn o wybodaeth,
ac mae gennym hanes weddol argyhoeddiadol, ond mae yna ddau
gwestiwn mawr: Sut mae’r fynwent fechan amgaeëdig
hon yn perthyn i’r claddedigaethau yn y clogwyni? A
pham fod y gist a adeiladwyd orau ac sydd wedi cadw orau yn
ymddangos yn wag? Bydd angen gwneud rhagor o waith i geisio
dod o hyd i atebion i’r cwestiynau hyn.
Mae’n werth nodi hefyd mai dyfaliadol yw’r ‘hanes’
hwn ar hyn o bryd. Mae angen i ni fynd trwy holl gofnodion
a darluniau’r cloddiad er mwyn archwilio ein dehongliadau
ac, wrth gwrs, mae’n rhaid aros am y dyddiadau radio
carbon yn ôl o’r labordy. Mae’n bosib y
byddwn yn cael ein profi’n hollol anghywir – ac
o ystyried pa mor aml yr ydym wedi newid ein meddyliau hyd
yn hyn, ni allwn ddiystyru unrhyw beth!
Gyda diolch i Cadw ac Awdurdod Parc Cenedlaethol
Arfordir Penfro am ariannu’r cloddiad hwn, ac i ddyrnaid
gwych o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd a wnaeth i bethau weithio.
Diolch i’r tirfeddiannwr Mr Allen-Mirehouse, am ganiatâd
i wneud y gwaith cloddio.
Yn olaf, diolch i Marion Page a Helen Milne a diolch arbennig
i Neil Ludlow cyfarwyddwr y safle.

Erbyn diwedd y cloddiad, roedd pawb yn
gweithio mor gyflym ag y gallai…
|
|