Cloddio
Gallai cloddio gynnwys ymchwilio’n helaeth i ardal fach neu archwilio sawl hectar o dirwedd. Fel arfer, mewn cyd-destun masnachol, dyma gam olaf rhaglen o waith archaeolegol a fyddai wedi dechrau gydag asesiad pen bwrdd a gwerthusiad maes dros dro wedyn. Mae gan dîm archaeolegwyr proffesiynol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed brofiad sylweddol ac amrywiol o gloddio, gan gynnwys amrywiaeth o brosiectau bach a mawr, ac mae ein staff yn arbennig o gyfarwydd â gweithio mewn amgylcheddau gwledig, trefol a rhynglanwol. Mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gefndir rhagorol mewn cynhyrchu adroddiadau prydlon a thrylwyr, ar amser ac o fewn cyllideb, gan weithio gydag ac ar ran amrywiaeth o gleientiaid gwahanol. Gallwn eich cynorthwyo chi o gyfnodau cynllunio cynharaf eich prosiect ac rydym yn ymroddedig i weld pob menter unigol yn rhedeg yn esmwyth o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys dadansoddiad wedi’r cloddio a chyhoeddi canlyniadau mewn cyfnodolion rhanbarthol a chenedlaethol. Mae holl staff yr Ymddiriedolaeth wedi eu cofrestru gyda CSCS i weithio ar safleoedd adeiladu ac wedi eu hyfforddi i ddeall materion iechyd a diogelwch. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn ymroddedig i weithio gyda chi er mwyn i chi gyflawni eich nodau. O dorri ffosydd bach i waith cloddio ymchwil mawr a hyfforddiant cloddio, cynigiwn wasanaeth cyflawn o’r dechrau i’r diwedd.
Gweler ein dyddiadur o'r cloddiad yn Brownslade.
I gael mwy o wybodaeth a phrisiau cystadleuol ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â:
Pete Crane MIFA, Rheolwr Prosiect p.crane@dyfedarchaeology.org.uk Duncan Schlee MSc, Rheolwr Prosiect d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk
|
[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]