| Prosiect ymchwil cymunedol yw 'Chwilota'r
Tywi!' a fydd yn archwilio'r prosesau a'r digwyddiadau hanesyddol
a naturiol sydd wedi cyfrannu at dirwedd eithriadol dyffryn Tywi,
trwy ymchwiliad hanesyddol, daearegol ac archaeolegol.
Mae Chwilota'r Tywi! yn rhan o'r cynllun Partneriaeth
Tirwedd, Tywi Afon yr Oesoedd, a'i ddiben yw dathlu a gwella tirwedd
dyffryn Tywi. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd gweithgareddau a digwyddiadau
amrywiol yn cael eu cynnal yn nyffryn yr afon, rhwng Llangadog a
Dryslwyn.
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed fydd yn arwain Chwilota'r Tywi! gyda rhaglen o weithgareddau
cydgysylltiol sy'n cynnwys ysgolion, grwpiau diddordeb lleol ac aelodau o'r cyhoedd i ddarganfod mwy am dirwedd
dyffryn Tywi. Bydd y gweithgareddau hyn nid yn unig yn gyfle unigryw i wirfoddolwyr archwilio ac ymchwilio i
ddyffryn Tywi, ond byddant hefyd yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd mewn ymchwil a thechnegau arolwg. Os hoffech
gymryd rhan yn unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, neu gael gwybod am y prosiect, cysylltwch ag Alice
Pyper.

Mae'r gweithgareddau canlynol wedi'u cynllunio
ar gyfer 2009:
Ditectifs Tai I
|
Faint ydych chi’n
gwybod am eich cartref? Beth yw ei hanes? Pryd yr adeiladwyd
ac o beth? Ydy e wedi newid o gwbwl?
Dysgwch sut i ateb y cwestiynau yma a mwy
wrth ymuno â’n prosiect Ditectifs Tai. Yma fedrwch
ddysgu recordio sylfaenol o adeiladau a ffyrdd sut i ddod
o hyd i ddata hanesyddol bydd yn eich arwain at ddarganfod
hanes eich cartref.
|
Ditectifs Tai II
|
Yn dilyn y recordio
sylfaenol o adeiladau gwnaethpwyd yn Ditectifs Tai I byddwch
nawr yn cael y cyfle i ymgymryd â recordio adeiladau
yn fanylach mewn safleoedd dethol.
Bydd pump adeilad hanesyddol yn cael eu
dewis o’r ardal dan sylw a byddant yn cael eu harchwilio
mewn mwy o fanylder er mwyn ceisio darganfod eu ffynonellau
a datblygiad.
|
Teithio trwy amser – Ffyrdd Cyfathrebiad
trwy’r Dyffryn
Astudiaeth o deithio tuag at a thrwy Dyffryn Tywi, o heolydd
Rhufeinig at reilffyrdd. Bydd y ffyrdd hanesyddol yma yn cael
eu holrhain wrth edrych ar y dirwedd fodern tra’n edrych
ar eu heffaith ar gymeriad y dyffryn a gwella ein dealltwriaeth
o’r ardal maent yn croesi a chysylltu.
Byddwn yn edrych ar beth sy’n dal
i fodoli, recordio nodweddion megis cerrig milltir a mannau
croesi afonydd a dadansoddi adroddiadau hanesyddol teithwyr
trwy’r dyffryn.
|
| 
|
Rhyfel yn y Dyffryn
|
Dyma gyfle i ddarganfod effaith rhyfela ar Ddyffryn Tywi,
o adnabod safleoedd brwydrau hanesyddol at astudio tystiolaeth
o’r Rhyfel Byd Cyntaf ac Ail.
Bydd cofnodion ysgrifenedig yn ogystal â
lluniau ffotograffig a rhai wedi eu harlunio yn cael eu coladu
o unrhyw nodweddion sy’n dal yn bodoli, fel llochesau
cyrch awyr neu wersylloedd carcharor rhyfel.
Oes gennych chi stori i’w dweud? Bydd
adroddiadau llafar am fywyd yn y dyffryn yn ystod y ddau ryfel
byd yn cael eu casglu.
|
Arolwg Daearegol/Geomorffegol
Sut oedd Dyffryn Tywi wedi ei greu? Sut mae’r cynefin
a’r rhywogaeth wedi newid? Sut mae’r afon wedi
ymateb i’r newid amgylcheddol, sut mae ei llwybr wedi
newid dros amser a pham mae’n gorlifo? Dyma rhai o’r
cwestiynau bydd yn cael eu hateb gyda chyfres o arolygon wedi’u
hanelu at ailgreu cynefin hynafol y dyffryn.
Bydd wyth safle astudiaeth gwahanol yn cael
eu canfod wrth arolwg geoffisegol tu fewn yr ardal dan sylw.
Lleolwyd y safleoedd yma ar hen sianeli afonydd ac ynysoedd
a bydd samplau yn cael eu cymryd ar gyfer dadansoddiad manwl.
|
| 
|
Synhwyro’r Gorffennol – Arolwg
Geoffisegol Archaeolegol
Helpwch ni archwilio anheddiad cynhanesyddol yn
Nyffryn Tywi a sut wnaeth ddylanwadu ar batrymau anheddiad diweddarach.
Bydd dau loc cynhanesyddol a nodweddion cysylltiedig
a welon yn ystod prosiect llinell biben nwy 2007 yn cael eu harchwilio
er mwyn darganfod ymestyniad llawn yr archaeoleg dan ddaear.
Dibriddio’r gorffennol – Prif
Gloddiad Archaeolegol

Fel rhan o Chwilota’r Tywi! hoffem gynnig
cyfle i chi ymuno â ni ar fferm Wernfawr. Yn dilyn ein cloddiadau
gwerthuso o Hydref llynedd, ry’n ni’n ymestyn ein ymchwiliadau
i weld os medrwn ddarganod hanes y fferm a pha weithgareddau yr
ymgymeron nhw yno.
Beth fedrwn ni ddarganfod am fywyd ar fferm wledig?
Bydd cyfranogwyr yn helpu cloddio a recordio safle
anghyfannedd wrth ddefnyddio cloddiad archaeolegol a sgiliau recordio.
Bydd y cloddiad yn digwydd rhwng Ebrill 13eg a
Mai 3ydd 2010.
Os hoffech gymryd rhan cysylltwch ag Alice Pyper neu Hazel Williams
01558 823121. a.pyper@dyfedarchaeology.org.uk
Dewch i ymuno â ni yn 'Chwilota'r Tywi!'
Ffoniwch 01558 823131 neu ebost a.pyper@dyfedarchaeology.org.uk
Digwyddiadau yn ystod 2009
|