CYFLEOEDD I WIRFODDOLI AC YSGOLION UNDYDD GYDAG YMDDIRIEDOLAETH ARCHEOLEGOL DYFEDMae cyfleoedd ar gael i wirfoddolwyr gymryd rhan mewn cloddiadau ac arolygon archeolegol yn ystod y flwyddyn sy’n dod. I’r rhai heb ddim profiad o archeoleg, ond a hoffai roi cynnig arni, mae sesiynau ‘rhagflas’ byr ar gael, gyda chyfnodau hwy yn cael eu cynnig i’r rhai mwy ymroddedig. Ar ben hyn, cynhelir diwrnodiau agored, ysgolion undydd ac arddangosfeydd trwy gydol y flwyddyn. Mae union ddyddiadau rhai digwyddiadau eto i’w pennu’n derfynol. Am wybodaeth fanylach cysylltwch a Louise Austin (l.austin@dyfedarchaeology.org.uk) neu Richard Jones (r.jones@dyfedarchaeology.org.uk) ar 01558 825997. Am gyfleoedd a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â Chwilota’r Dirwedd! cysylltwch ag Alice Pyper a.pyper@dyfedarchaeology.org.uk ac mewn perthynas ag Arfordir - Treftadaeth Arfordirol - cysylltwch â James Meek j.meek@dyfedarchaeology.org.uk
Castell Tir y Dail, Rhydamman Fe fydd cloddiad Castell Tir y Dail yn digwydd rhwng 19 a 27 Gorffennaf gyda cyfle i ymweld a'r safle yn ystod y benwythnos 24 - 25 Gorffennaf. Cyswllt: K Murphy k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk neu Phil Poucher p.poucher@dyfedarchaeology.org.uk
Beddrodau Crwn Pant y Butler Round Barrows, Llangoedmor, Ceredigion Y dyddiad dros dro ar gyfer y gwaith cloddio yma yw 6 hyd 17 o Fedi, yn ddibynnol ar y cynhaeaf. Cyswllt: K Murphy k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk
Fila Rhufeinig Newton, Cas-blaidd, Sir Benfro Mae'r cloddiad ar y safle hwn wedi ei drefnu am un wythnos yn dechrau ar 2 Awst. Cyswllt: D Schlee d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk
Mae cloddiadau eraill yn ystod 2010 yn cynnwys: Gwaith ar Feddrodau’r Oes Efydd yn Sir Benfro Caiff manylion am yr uchod eu cyhoeddi pan fyddwn wedi cytuno ar y dyddiadau terfynol.
Taith dywysedig gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar draws
Mynydd Myddfai, dydd Sul 4 Gorffennaf 2010
|