Cadw Golwg
Pa un a ydych yn adeiladu estyniad i’ch cartref neu’n ymgymryd â chynllun ffordd mawr, gall Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed eich helpu i gyflawni unrhyw amod gynllunio archaeolegol a osodir ar eich datblygiad, yn yr amser lleiaf ac â chyn lleied o ffys â phosibl. Mae ein pecyn hollgynhwysol yn cynnwys cynllun ymchwilio ysgrifenedig fel sy’n ofynnol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ac adroddiad cynhwysfawr sy’n dderbyniol i gynghorydd archaeolegol rhanbarthol yr Awdurdod: gofyn hanfodol er mwyn cyflawni eich amod gynllunio.
I gael mwy o wybodaeth a phrisiau cystadleuol ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â: James Meek BA MIFA, Pen y Gwasanaethau Maes Duncan Schlee MSc, Rheolwr Prosiect d.schlee@dyfedarchaeology.org.uk
|
[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]